Rydych chi yn:  >   >   > 

Casgliadau Celf Arlein

Y Ffordd Lychlyd [The Dusty Road]

CHARLES, James (1851 - 1906)

Y Ffordd Lychlyd

Dyddiad: 1902

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 63.5 x 91.6 cm

Derbyniwyd: 1914; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 3143

Ganed James Charles yn Warrington, yn fab i'r dylunydd a gwneuthurwr dodrefn o Gymru, Richard Charles. Ym 1872 ymunodd ag Ysgolion yr Academi Frenhinol cyn mynd yn ei flaen i astudio ym Mharis. Yno cafod ei ddenu at Argraffiadaeth, ac yn arbennig y mudiad plein-air. Wedi dychwelyd i Brydain, bu'n arddangos yn gyson, a chafodd beth llwyddiant dramor, gan ennill medalau yn Exposition Universelle Paris ym 1889, a Ffair y Byd yn Chicago ym 1893. Mae'r gwaith hwn, a ddangoswyd yn yr Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction yng Nghaerdydd ym 1913-14, yn cynrychioli'r Argraffiadaeth Brydeinig gymharol flaengar a gysylltir â'r New English Art Club rhwng y1890au a'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Browse makers and designers

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd