Rydych chi yn:  >   >   > 

Casgliadau Celf Arlein

Argae François Zola

CÉZANNE, Paul (1839 - 1906)

Hanner Dydd, L'Estaque

Dyddiad: 1877-78

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 54.2 x 74.2 cm

Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 2439

Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies

Byddai Cézanne yn aml yn ymweld â bryniau l'Estaque, ychydig i'r Gorllewin o Marseilles. Daw'r olygfa hon ohonynt ar bapur wedi ei osod ar gynfas o'r cyfnod 1878-79 neu 1883-84. Erbyn 1885 yr oedd yn eiddo i Gauguin, a wnaeth gopi ohono mewn gouache gan synfyfyrio bod 'y llwybr troellog ar draws y tir toredig drwy'r coed ifanc yn ei atgoffa o'r llwybr unig a gerddodd Crist tuag at Fynydd yr Olewydd.' Mae'r cyfansoddiad eithradol wastad sydd wedi ei fynegi'n syml yn ein hatgoffa o sylw Cézanne fod tirwedd Provence 'fel cerdyn chwarae, toeon coch uwchben môr glas...Mae'r haul mor danbaid yma fel y bydd gwrthrychau i mi i'w gweld fel amlinellau...mewn glas, coch, brown a fioled...mae hynny i mi yn ymddangos fel y gwrthwyneb i fodelu.' Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym Mharis ym 1918. Pan oedd ar ei fenthyg i Oriel Tate ym 1922, canmolwyd ef gan Roger Fry fel 'un o'r mwyaf o holl dirluniau Cézanne.'

Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Browse makers and designers

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd