Rydych chi yn:  >   >   > 

Casgliadau Celf Ar-lein

Tirlun Afon gydag Eglwys SS Giovanni e Paolo, Rhufain

ASSELIJIN, Jan (c.1610 - 1652)

Tirlun Afon gydag Eglwys SS Giovanni e Paolo, Rhufain

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 163.0 x 218.0 cm

Derbyniwyd: 1972; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 26

Roedd Jan Asselijn yn un o grŵp o arlunwyr Iseldiraidd a deithiodd i’r Eidal gan ddod o dan ddylanwad goleuni cynnes cefn gwlad yng nghyffiniau Rhufain. Hyfforddwyd Asselijn yn Amsterdam a threuliodd lawer blwyddyn yn Rhufain yn ystod diwedd y 1640au. Gwnaeth dri braslun o'r eglwys Rufeinig hon o'r dwyrain, gan gynnwys y tai a'r gerddi sy'n ffinio â'r llwybr ar y dde. Yma fe welwn ni’r eglwys wedi’i darlunio’n llawer mwy nag y mae hi, ar dirlun ag afon ddychmygol, mewn goleuni Eidalaidd cynnes.  Mewn gwirionedd, roedd yr eglwys yng nghanol Rhufain gyda gerddi a thai o amgylch iddi.

Gadael sylw


Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd