Rydych chi yn:  >   >   > 

Casgliadau Celf Arlein

Glofa'r Six Bells, Abertyleri, De Cymru [Six Bells, Abertillery, South Wales]

LOWRY, Laurence Stephen (1887 - 1976)

(Mae Amgueddfa Cymru'n ymddiheuro nad oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)

Dyddiad: 1962

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 132.0 x 169.0 cm

Derbyniwyd: 2001; Ar fenthyg; Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Andrew Brownsword

Rhif Derbynoli: NMW A(L) 1186

Yr olygfa hon o Lofa Six Bells, Abertyleri yn nyffryn yr Ebwy Fach yw un o weithiau mwyaf Lowry o ran maint. Bu Cymru yn destun i Lowry ddwywaith yn ei yrfa: yn ystod y 1920au, pan dreuliodd gyfnod yn y Rhyl, ac ar ddechrau'r 1960au pan anogwyd ef gan ei gyfaill a'i noddwr, Monty Bloom, i baentio cymoedd de Cymru. Magwyd Bloom yn y Rhondda, a chyneuodd yr ymweliadau hyn ddiddordeb o'r newydd yn Lowry mewn golygfeydd diwydiannol. Ysbrydolodd y cyfuniad anarferol o dirwedd arw'r Cymoedd a'r trefi poblog grw^p o baentiadau sydd ymhlith rhai o weithiau diweddaraf mwyaf ysbrydoledig yr arlunydd, er eu lleied. Mae'r rhain yn cynnwys golygfa banoramig debyg o Lynebwy, 1960, sydd yn Oriel Gelfyddyd ac Amgueddfa Herbert yn Coventry, a golygfa gyfoes o allt ger Abertyleri, sydd bellach yng nghasgliad y tate. Roedd Glofa Six Bells ddeuddeg milltir i'r gogledd o Gasnewydd, ac yma y digwyddodd trychineb lofaol waethaf y cyfnod wedi'r rhyfel yng Nghymru. Ar 28 Mehefin 1960, roedd ffrwydriad yn y pwll a chollodd 45 o bobl eu bywydau. Dyma oedd y pwll olaf i gau yn Abertyleri - bu ar waith rhwng 1898 a 1988.

Mae'r gwaith hwn yn cael ei arddangos ar hyn o bryd:

Map

Oriel 7

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Lefel 4

i Grisiau i fyny

i Grisiau i lawr

i Lifft

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Browse makers and designers

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd