Rydych chi yn:  >   >   > 

Casgliadau Celf Arlein

Thomas Gainsborough, Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg

GAINSBOROUGH, Thomas (1727 - 1788)

Thomas Gainsborough, Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 147.0 x 175.0 cm

Derbyniwyd: 2001; Dyrannwyd yn lle treth; Llywodraeth E.M.

Rhif Derbynoli: NMW A 22780

Y darlun hwn yw un o'r tirluniau harddaf a mwyaf grymus a beintiwyd gan Gainsborough yn ystod ei flynyddoedd olaf yng Nghaerfaddon. Mae'n cyfuno gwartheg gwladaidd, cariadon delfrydol, a thirlun euraidd yn y pellter. Mae'r cyfansoddiad yn ymwybodol Glawdaidd, a'r ymdriniaeth yn eofn, gyda slabiau o impasto yn yr awyr. Credir iddo gael ei beintio yn Shockerwick Manor, cartref y cludwr ffyniannus o Gaerfaddon, Walter Wiltshire (c. l719 - l799). Roedd Gainsborough yn ymwelydd cyson a defnyddiai wasanaeth 'flying waggon' cyson Wiltshire i gludo ei beintiadau i Lundain i'w harddangos.

Rhoddodd Gainsborough y gwaith hwn i Wiltshire, ynghyd â Y Wagen Fedi, pan adawodd Gaerfaddon a mynd i Lundain ym 1774. Mae'r llun hwnnw yn dyddio o 1767, ac mae'n ymddangos bod Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg wedi ei beintio fel cymar iddo, naill ai ym 1771, neu yn fuan cyn i'r arlunydd adael am Lundain. Gwerthwyd y ddau lun gan John Wiltshire ym 1867. Arhosodd y ddau gyda'i gilydd hyd 1946, pan aeth Y Wagen Fedi i Sefydliad Barber, Birmingham, ac y prynwyd Tirlun Creigiog Coediog gyda Chariadon Gwledig, Bugail a Gwartheg gan y perchennog papur newydd Arglwydd Camrose.

Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw


Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Browse makers and designers

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd