Rydych chi yn:  >   >   > 

Casgliadau Celf Arlein

Gwaith Dur, Caerdydd liw Nos [Steel Works, Cardiff at Night]

WALDEN, Lionel (1862 - 1933)

Gwaith Dur, Caerdydd liw Nos

Dyddiad: 1893-97

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 150.8 x 200.4 cm

Derbyniwyd: 1920; Rhodd; Lionel Walden

Rhif Derbynoli: NMW A 2245

Ganed Walden yn Connecticut a bu'n astudio ym Mharis, lle enillodd fedal yn Salon 1903. Bu'n arddangos gyda Chymdeithas Celfyddyd Gain Caerdydd ym 1893 ac roedd yn byw ger Falmouth ym 1897. Mae'r darlun hwn o 1893-7 wedi ei seilio ar fraslun bach olew sydd hefyd yn y casgliad. Cafodd ei waith llai Dociau Caerdydd ei brynu oddi wrth y Salon des Artistes Francais ym 1896 ac erbyn hyn mae yn y Musée d'Orsay ym Mharis.

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Browse makers and designers

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd