Rydych chi yn:  >   >   > 

Casgliadau Celf Ar-lein

Rhedeg i Ffwrdd gyda'r Torrwr Gwallt [Running Away with the Hairdresser]

SINNOTT, Kevin (1947 - )

Bwrw Bant gyda'r Fenyw Trin Gwallt

Dyddiad: 1995

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 160.0 x 216.0 cm

Derbyniwyd: 1996; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Knapping

Rhif Derbynoli: NMW A 3993

Ganed yr arlunydd yng Nghymru a bu'n astudio yng Nghaerdydd, Caerloyw a Llundain cyn dod yn ôl i fyw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae ei luniau'n ymwneud â'r cof, emosiwn a phrofiad yn hytrach nag â digwyddiadau penodol. I ddechrau, gwnaeth lun tywyllach, hanner hyd, o ddyn ar ei ben ei hun, a'r thema waelodol oedd 'gadael eich gorffennol ar ôl'. Mewn gwrthgyferbyniad â'r syniad hwn, sy'n 'ddifrifol, neu hyd yn oed yn rhodresgar', mae'r arlunydd o'r farn fod Rhedeg i Ffwrdd gyda'r Torrwr Gwallt yn cyfleu teimlad o 'ymgollwng am eiliad i fod yn anghyfrifol... amheuaeth aeddfed o syniadau mawreddog ieuenctid'.

+ Dangos sylwadau

---

Gadael sylw


Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd