Rydych chi yn:  >   >   > 

Casgliadau Celf Arlein

Yr Is-Gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815) [Lieutenant-General Sir Thomas Picton (1758-1815)]

SHEE, Sir Martin Archer (1769 - 1850)

Yr Is-Gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815)

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 214.0 x 137.1 cm

Derbyniwyd: 1907; Rhodd; Iarll Plymouth

Rhif Derbynoli: NMW A 473

Ganed Shee yn Nulyn a daeth i Lundain ym 1788 lle enillodd enw da iddo'i hun yn fuan fel portreadwr a bardd, gan olynu Lawrence yn llywydd yr Academi Frenhinol ym 1830. Ganed Syr Thomas Picton (1758-1815) yn Poyston, Sir Benfro a'i gomisiynu ym 1771. Ef oedd Llywodraethwr enwog Trinidad ym 1797 - 1803 a daeth yn enwog fel cadfridog y 3edd adran yn ystod Rhyfel y Penrhyn ym 1809-13. Credai Wellington mai ef oedd 'y diafol garwaf a welodd neb erioed, ond y byddai bob amser yn ymddwyn yn eithriadol o dda;ni allai neb wneud yn well yn y tasgau a roddais iddo'. Cafodd Picton ei ddyrchafu'n Is-Gadfridog ym 1811 a lladdwyd ef yn Waterloo ym 1815. Peintiodd Shee y portread cyntaf o Picton ym 1809-10. Mae'n bosib mai hwn yw'r darlun maint llawn a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1816, lle cafodd ei osod uwchben y fynedfa - gan darfu'n fawr ar yr arlunydd.

Nid yw'r gwaith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd

Gadael sylw


Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Browse makers and designers

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd