Rydych chi yn:  > 

Cefnogi Amgueddfa Cymru


Mae sawl ffordd o wneud rhodd, ac mae llawer o bobl yn dewis bod yn Gyfeillion, yn Noddwyr neu i'n cofio ni yn eu Hewyllys. Rydyn ni'n cydweithio'n agos â nifer o fusnesau, mawr a bach, sy'n elwa ar gysylltiadau â sefydliad cenedlaethol pwysig.

Rydyn ni'n ddigon ffodus i fwynhau cefnogaeth nifer o ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol. Porwch y rhan yma o'r wefan o weld sut gallwch chi sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael mwynhau'r trysorau sydd yn ein gofal.

Eich Rhodd

Mae pob rhodd gan y cyhoedd yn cyfrannu at un o'n projectau hanfodol. Cewch wneud rhodd trwy un o'r dulliau canlynol:

  • Yn un o'r blychau casglu yn ein hamgueddfeydd
  • Ar-lein, trwy y cysylltiad uwch. Bydd y cysylltiad yma'n mynd â chi i wefan ddiogel dan adain y Sefydliad Cymorth i Elusennau, lle cewch chi gyflwyno rhodd i Amgueddfa Cymru.
  • Trwy'r post. Argraffwch gopi o'r ffurflen roddion yma a'i hanfon atom.
  • Ydych chi'n teimlo'n gryf am un rhan arbennig o'n casgliadau? Cysylltwch â'r Adran Ddatblygu i gael rhagor o wybodaeth os ydych chi am sicrhau bod eich rhodd yn cyfrannu at broject penodol.

Neu os hoffai eich cwmni chi fwynhau mnanteision cefnogi'r Amgueddfa, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.

Ein Rhif Elusen Cofrestredig: 525774

[delwedd: ]

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.