Fe ddechreuodd Eisteddfodau'r Gwyneddigion ym mis Medi 1789 yn Y Bala, ac mae'n debyg gen i y byddai dylanwad y Gwyneddigion wedi bod yn reit bwysig, mi fydden nhw wedi sefydlu mudiad Eisteddfodol o bwys. Ond wrth gwrs mi ddôth y rhyfeloedd yn erbyn Napoleon i chwalu'r patrwm, ac mewn dim o dro mi roedd Eisteddfodau'r Gwyneddigion fel petai wedi rhedeg i'r tywod.

Wel, pan ddôth y rhyfel hwnnw i ben, fe ailgydiwyd yn y diddordebau eisteddfodol, yn arbennig felly gan gwlwm o glerigwyr, a oedd yn cwrdd adeg y Nadolig a'r Calan lan yng Ngheri ar bwys Y Drenewydd, yn cwrdd yn fanno yn y rheithordy, lle'r oedd Ifor Ceri, y Parchedig John Jenkins, wrth y llyw, gŵr a chanddo fe ddiddordeb arbennig yn yr hen ddiwylliant traddodiadol, yn farddoniaeth ac yn gerddoriaeth pe bai'n dod i hynny, ac roedd yna nifer o glerigwyr brwd o'i gwmpas e. Ac yng Ngheri mewn gwirionedd, yn y flwyddyn 1818 y dechreuwyd meddwl mewn difrif am ailgydio eto yn y mudiad Eisteddfodol a chreu eisteddfodau go iawn.

A'r flwyddyn ddilynol yng Nghaerfyrddin, dan nawdd y Gymdeithas a oedd wedi ei chreu yn Nyfed, dyma nhw'n cynnal yr eisteddfod gynta, yr eisteddfod daleithiol gynta. Ac fe gynhaliwyd honno yng Nghaerfyrddin ym 1819, y gynta o ddeg o eisteddfodau taleithiol achos mi aeth y mudiad rhagddo hyd y flwyddyn 1834, pan ddaeth y cyfan i ben yng Nghaerdydd. Deg o eisteddfodau taleithiol, heb unrhyw amheuaeth, a wnaeth weddnewid holl stori'r eisteddfod, oherwydd fe gynhaliwyd eisteddfodau nad oedd eu bath nhw ddim erioed wedi'u gweld ar ddaear Cymru

Gwrandewch ar naratif fideo gyda Hywel Teifi Edwards: