Nôl i Restr Caneuon

Ffarwel Fo i Langyfelach Lon

Peiriant Recordio Cynnar.
Peiriant Recordio Cynnar.
Ffarwel fo i Langyfelach Ion,
A'r merched ieuainc i gyd o'r bron;
'Rwy'n mynd i dreio pa un sydd well,
Ai 'ngwlad fy hun neu'r gwledydd pell.

A martsio wnes i yn y blaen
Nes imi ddod i dre Pont–faen,
Ac yno 'eddent, yn fawr eu sbort,
Yn listio' gwŷr at y Duke of York.

Mi drois fy mhen ac i ryw dŷ,
Yr aur a'r arian oedd yno'n ffri,
Y dryms a'r ffeiffs yn cario'r sŵn –
A listio wnes at y Light Dragoon.

'Rôl imi fartsio i Lundain fry,
Diwti caled ddaeth arnom ni,
Sef handlo'r dryll a'r cleddyf noeth,
Y bwlets plwm a'r powdwr poeth.

Fe ddaeth despatch yn fore iawn,
A daeth un arall y prynhawn,
Fod yr English fleet yn hwylio i ma's
I frwydr dros y moroedd glas.

Ffarwel fy nhad a'm hannwyl fam,
Sydd wedi'm magu a'm dwyn i'r Ian
Yn dyner iawn ar aelwyd Ian,
A chan ffarwel fo i'r merched glan.

Os hola rhai pwy wnaeth y gân,
Atebwch hwy mai merch fach lan
Sydd yn gweddïo nos a dydd
Am i'w hannwyl gariad gael dod yn rhydd.

'RôI imi aros amser hir,
Yn rhydd y daeth, 'rwy'n dweud y gwir;
Dychwelodd ef i'w fro ei hun,
Ces roddi cusan ar ei fin.

Fe ddaeth ag arian ganddo'n stôr
O'r gwledydd pell tu draw i'r môr,
A'r cyntaf peth a wnaeth o'i serch
Oedd chwilio am ei annwyl ferch.

Offeiriad alwyd yno'n glau
I'n rhwymo ni yn un ein dau;
Cawn fyw mewn llwyddiant drwy ein ho(e)s,
A chysgaf rhwng ei freichiau'r nos.

Cymerwch gyngor, ferched llon,
Os aiff eich cariad dros y don:
I beidio rhodio'n wamal ffol,
Ond byddwch driw nes try yn ô1.

Mi gefais gynnig lawer gwaith,
Do, ar gariadon, chwech neu saith,
Ond, coeliwch fi, 'roedd ganmil gwell
Im gofio'r mab yn y gwledydd pell.

Fe aeth a'm calon gydag e',
Ond eiddo'i hun rodd yn ei lie,
A deddf atyniad cariad cun
A wnaeth ein c'lonnau bach yn un.

Gwrando

Tâp AWC 456. Recordiwyd (Penillion 1–6 yn unig) 25.1.62 gan Bertie Stephens (bridiwr cŵn hela, etc., g. 1900), Llwyncelyn, Llangeitho, sir Aberteifi. Yn Abergorlech, sir Gaerfyrddin, y magwyd BS. Yr oedd ganddo rai degau o gerddi llafar gwlad yn fyw ar ei gof a chanodd lawer arnynt mewn cyngherddau. Cododd y gân hon oddi wrth ei dad, brodor o Dregaron.

Nodiadau

Penillion 1–6 yn unig a recordiwyd gan BS y tro hwn eithr recordiodd naw pennill i'r Amgueddfa ymhen pedair blynedd wedyn. Yn y gyfrol bresennol codwyd testun y gan yn llawn o'r gyfrol Caneuon Serch, Hen a Diweddar. Ymddengys mai merch ifanc a fu'n gariad i filwr o Gymro sy'n traethu yn y faled, eithr cynnwys llythyr oddi wrth y milwr a geir yn y chwe phennill agoriadol. (Addas, wrth gwrs, i wrywod yw canu'r penillion hynny yn unig.) Bu'r faled hon, neu ei hanner cyntaf yn unig efallai, yn hynod boblogaidd gynt ledled Cymru, ac yr oedd i Ogleddwyr eu fersiwn hwy eu hunain, yn cyfeirio at 'dre Caernarfon lon' yn hytrach na Llangyfelach (sydd gerllaw Abertawe). Yn ystod y ganrif o'r blaen cyhoeddwyd 'Ffarwgl Fo i Langyfelach Lon' droeon ar daflenni baledi. Awdur y geiriau oedd 'Siemsyn Twrbil' neu James Turberville (?18/19 ganrif), bardd o Forgannwg. Mwy na thebyg mai efe oedd y gwehydd crwydrol a'r tribannwr y dywaid 'Cadrawd' (yn ei History of Llangynwyd, 1887) iddo gael ei eni yn Nhrelai a'i brentisio yng Nghwmfelin, ger Maesteg, ac iddo fyw am gyfnod hir ym mhlwyf Llangynwyd.

Cymh. y dôn ac eiddo 'Lisa Lan' – gw., er enghraifft, yr amryw fersiynau o honno yn CCAGC, i, 37-8.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon