Rydych chi yn:  >   > 

Teuluoedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Oriel Esblygiad Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Oriel Esblygiad Cymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Beth bynnag fo’ch diddordebau, mae digon i blant ac oedolion ei fwynhau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar unrhyw ymweliad!

Mae oriel Esblygiad Cymru yn ffefryn mawr gan deuluoedd. Teithiwch drwy amser o‘r Glec Fawr a ffurfio’r ddaear gan weld carreg leuad, gwibfeini a llosgfynyddoedd a dod wyneb yn wyneb â deinosoriaid, trilobitau a mamothiaid blewog!

Gallwch chi hefyd archwilio hanes naturiol Cymru o’r coetiroedd i lan y môr yn ein horielau Hanes Natur. Allwch chi weld yr heulforgi, y llwynog, y morfil cefngrwm a môr grwban lledraidd mwyaf y byd!? Pa anifail yw’ch ffefryn?

Mae’r Orielau Celf yn gartref i luniau, darluniau a cherfluniau anhygoel o’r 500 mlynedd diwethaf hyd heddiw. Dewch i’w gweld – a chofiwch godi llyfryn gweithgareddau fydd yn eich helpu i archwilio’r casgliadau.

Cofiwch am Ganolfan Ddarganfod Clore lle gallwch chi agor degau o ddroriau a chanfod a thrin cannoedd o wrthrychau amgueddfa. Archwiliwch arfau yr Oes Efydd, esgyrn deinosoriaid, pryfed trofannol neu gerameg – beth bynnag sy’n mynd â’ch bryd! Defnyddiwch y microsgopau a’r chwyddwydrau i gael golwg fanylach. Os ydych chi’n wyddonydd brwd neu bod trysor gennych chi adref, beth am ddod â’r gwrthrychau aton ni ac fe wnawn ni eich helpu i’w hadnabod.

Cadwch lygad hefyd am deithiau i’r teulu a thaflenni gweithgaredd i’ch helpu i archwilio’r orielau a cofiwch godi copi o Digwyddiadau sy’n rhestru’r holl weithgareddau a digwyddiadau teuluol fydd yn eu cynnal drwy’r flwyddyn.

If you have any other questions - just ask! Email us at post@museumwales.ac.uk or call 029 2039 7951. We look forward to seeing you soon

Digwyddiadau

Dyddiad DigwyddiadManylion
1227 Ebrill 2014Gweithdy i'r Teulu: Tirluniau Talpiau PapurTeuluoedd / Am ddim / Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael
2225 Ebrill 2014Gweithdai i'r Teulu: Natur CelfTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
11 Mai 2014Hau Hadau PabiTeuluoedd / Am ddim
24 Mai 2014Diwrnod Bioamrywiaeth i’r Teulu Teuluoedd / Am ddim
24 Mai–1 Mehefin 2014Gweithdy i'r Teulu: Yr Esgyrn Hyn Teuluoedd / Am ddim / Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael
2428 Mai 2014Gweithdai i'r Teulu: Lliw'r Glöyn BywTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
2730 Mai 2014Gweithdai i'r Teulu: Gair a LlunTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
28 Mai 2014Sgwrs Amser Cinio i'r Teulu: y Gwyddorau Naturiol Teuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
14 Mehefin 2014Gweithdai i'r Teulu: Gwenyn GwychTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
21 Mehefin 2014Diwrnod FfoaduriaidTeuluoedd / Am ddim
5 Gorffennaf 2014Gweithdai i'r Teulu: Dewch i Beintio’r BlodauTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
1925 Gorffennaf 2014Teithiau i'r Teulu: Cipolwg o’r Newydd ar NaturTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
19 Gorffennaf–1 Awst 2014Gweithdy i'r Teulu: Mi Wela i... NaturTeuluoedd / Am ddim / Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael.
19 Gorffennaf–31 Awst 2014Helfa Drysor yr Haf i Deuluoedd Teuluoedd / Am ddim
29 Gorffennaf–1 Awst 2014Teithiau i'r Teulu: Cipolwg o’r Newydd ar NaturTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
30 Gorffennaf 2014Sgwrs Amser Cinio i'r Teulu: y Gwyddorau NaturiolTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
2–3 a 9–10 AwstCondensed Histories: Sioeau’r Rhyfel Byd CyntafTeuluoedd / Am ddim
2–3, 9–10, 16–17, 23–24 a 30–31 AwstGweithdai i'r Teulu: Dwlu ar Ddaeareg!Teuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
217 Awst 2014Gweithdy i'r Teulu: Posteri Propaganda Teuluoedd / Am ddim / Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael.
529 Awst 2014Tirnodau a ThirweddTeuluoedd / Am ddim
58 Awst 2014Gweithdai i'r Teulu: Creu CelfTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
1215 Awst 2014Gweithdai i'r Teulu: Creu CelfPawb / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
16–17 a 23–24 AwstAnfon Cysur i Faes y Gad: Gweithdai Rhyfel Byd Cyntaf i DeuluoeddTeuluoedd / Am ddim / Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael.
1922 Awst 2014Gweithdai i'r Teulu: Creu CelfTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
1931 Awst 2014Gweithdy i'r Teulu: Adeiladau AnhygoelTeuluoedd / Am ddim / Gweithgaredd galw heibio, ond nifer benodol o lefydd fydd ar gael.
2629 Awst 2014Gweithdai i'r Teulu: Creu CelfTeuluoedd / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
27 Awst 2014Sgwrs Amser Cinio i'r Teulu: y Gwyddorau NaturiolPawb / Am ddim / Nifer cyfyngedig o lefydd felly archebwch wrth y Dderbynfa
31 Awst 2014Cynaeafu’r WeirgloddTeuluoedd / Am ddim
20 Medi 2014BeachwatchTeuluoedd / Am ddim / Rhaid archebu - ebostiwch digwyddiadaucaerdydd@amgueddfacymru.ac.uk

Bwyd a Diod

Ymlaciwch ym Mwyty Oriel ar y llawr gwaelod is. Mae dewis yn ein bwyty croesawgar ar gyfer pob oedran a chwaeth boed am brynu tamaid sydyn i chi a’r plant neu am eistedd i lawr am ginio teuluol.

Dewiswch o amrywiaeth o frechdanau, cawl cartref, ciniawau poeth, teisennau, ffrwythau ffres a diodydd. Mae bwydlen blant hefyd i stumogau llai, neu gallwch chi ddewis eitemau ar gyfer bocs bwyd. Mae gennym ardal chwarae a thaflenni gweithgaredd i ddiddanu’r plantos tra byddwch chi’n gorffen eich cinio!

Mae ein siop goffi yn lle gwych i ymlacio a mwynhau awyrgylch ein Prif Neuadd brydferth. Gallwch chi fwynhau amrywiaeth o deisennau a brechdanau cartref yn ogystal â diodydd poeth ac oer.

Mae cadeiriau uchel ar gael yn y bwyty â’r siop goffi. Rydym yn gwerthu poteli o fwyd babi a gallwch chi gynhesu eich poteli eich hunain hefyd — holwch y staff. Darperir cyfleusterau newid babi hefyd.

Prydau Cartref y Dydd
Bwydlen Plant Dine-osaur

Siop yr Amgueddfa

Galwch draw i’n siop lle mae adrannau arbennig i deganau, deunydd addysgiadol a phecynnau gweithgaredd. Mae ystod eang o lyfrau, printiau a chardiau post ar gael hefyd.

Gormod i gario?

Peidiwch â phoeni am straffaglu drwy’r orielau gyda bygis, bagiau a chotiau. Gallwch chi adael eich bygi yn ein storfa bwrpasol ac mae ein loceri yn ddigon mawr i ddal eich bagiau a’ch cotiau. Bydd angen darn £1 arnoch chi, a byddwch yn cael hwn yn ôl ar ddiwedd eich ymweliad. Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser

Partïon Plant

Beth am gynnal parti pen-blwydd eich plentyn yma? Mae digonedd o adloniant i ddiddanu'r plant am oriau — o deinosoriaid yn yr orielau i hwyl yn Canolfan Ddarganfod Clore ble mae cyfle i chyffwrdd gwrthrychau’r Amgueddfa. Gallwn ni ofalu am y bwyd a'r diod gyda dewis o brydau oer a phoeth, pwdinau a diodydd.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.