Priodasau

Llongyfarchiadau ar eich dyweddïad! Yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd braint o’r mwyaf i ni yw gallu eich cynorthwyo i drefnu dathliad cofiadwy.

Mae’r amgueddfa yn lleoliad soffistigedig, llawn steil ar gyfer seremoni briodas a derbyniad ac mae cyfle yma hefyd i dynnu ffotograffau rhagorol gaiff eu trysori am byth.



Bydd priodas yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn brofiad unigryw a chofiadwy, a dylai’r fwydlen adlewyrchu hynny.

Mae tîm arbenigwyr arlwyo’r Amgueddfa, Elior UK wedi creu bwydlen dymhorol newidiol sy’n defnyddio’r cynhwysion Cymreig lleol gorau ac yn eu coginio a’u cyflwyno yn rhagorol.

Mae’r Amgueddfa hefyd yn gweithio gyda’r arbenigwyr arlwyo Asiaidd Eastern Cuisine, Clay Oven, Curry Special a Ragasaan.

Cliciwch ar y dolenni isod i lawrlwytho ein llyfryn priodasau, rhestr prisiau a bwydlenni priodasau Elior. Er hwylustod i’r cyplau priod mae pob pris a nodir yn cynnwys TAW.



Cliciwch ar y ddolen i gael golwg ar ein Cynigion arbennig ar gyfer Pecynnau Priodas.

Er mwyn trefnu apwyntiad i gael taith o’r Amgueddfa neu i drafod dyddiadau posibl gydag aelod o’r tîm llogi cyfleusterau cysylltwch â:

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NP

Ffôn: (029) 2057 3387/3129
E-bost Priodasau (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd): priodasau@amgueddfacymru.ac.uk


Cwtch the Bride Cwtchmas Party // Official Film from Ben Walton on Vimeo.

Mae Llogi Cyfleusterau yn cefnogi Amgueddfa Cymru fel elusen gofrestredig.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.