Digwyddiadau

ArddangosfaMi wela i... Natur

19 Gorffennaf 20143 Ionawr 2016
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Dewch i weld a phrofi sut mae’r hyn a wêl gwyddonwyr yn arwain at ddarganfyddiadau newydd.

Dyma arddangosfa ymarferol, delfrydol i deuluoedd fydd yn rhoi cyfle i chi roi tro ar arsylwi byd natur a’i gofnodi. Cewch weld sut oedd naturiaethwr Oes Fictoria’n darlunio byd natur a sut mae technoleg fodern yn galluogi gwyddonwyr i greu lluniau 3D.

Dysgwch pa fath o archwiliwr ydych chi, cyn gwisgo’r dillad cywir ac actio’ch cymeriad wrth archwilio’r oriel. Ai chi fydd Madame Fleur (y naturiaethydd o oes Fictoria), Dr Tekno (y gwyddonydd modern), Dani Dynamo (sydd wastad ar antur) neu Bryn y Pryf Athro (y pryfyn doeth)?

Cewch hefyd weld pa mor wahanol yw’r byd trwy lygaid pryfed a chael golwg fanwl iawn ar lond lle o wrthrychau hanes natur dan ficrosgop.

Digwyddiadau Cysylltiedig

 

logo for Capitol Shopping Centre Cardiff

 

Mi wela i... Natur
I Spy... Nature
pili-pala
Digwyddiadau