Digwyddiadau

ArddangosfaTim Davies: Drift

Wedi'i Orffen
9 Mawrth26 Mai 2013
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Yn yr arddangosfa hon, bydd Tim Davies yn cyflwyno tair ffilm a greodd i gynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2011.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r ffilmiau Drift, Frari a Capricci gael eu dangos gyda’i gilydd fel gosodiad unigol.

Maent yn creu darlun dramatig a theimladwy o Fenis, gan greu cysylltiadau â’r ffordd y cynrychiolir y ddinas yng nghasgliadau hanesyddol yr Amgueddfa gan artistiaid megis Canaletto, Monet a Whistler.

Ymddangosodd Drift a Frari yng nghyflwyniad Cymru yn Fenis yn Biennale Fenis 54 yn 2011 ac a drefnwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Defnyddia Tim Davies amrywiaeth eang o gyfryngau gan gynnwys ffilm, delweddau wedi’u canfod, cerflunwaith a gosodwaith. Mae wedi arddangos yn helaeth yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Enillodd Fedal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2003 ac roedd ar restr fer Gwobr Celf Weledol Ryngwladol Artes Mundi yn 2004. Mae’n byw ac yn gweithio yn Abertawe.

Tim Davies, Drift, (video still, 2011) © Tim Davies
Tim Davies, Drift, (video still, 2011)
© Tim Davies
Digwyddiadau