Mae ein gwefan yn newid. Rydym ni’n treialu tudalennau newydd: beth ydych chi’n feddwl amdanynt? Mwy
Dewislen

Celf yn yr Iseldiroedd (1500-1700)

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gosteg, Jan van de Capelle
CAPPELLE, Jan van de (1624 - 1679)
Gosteg
1654
olew ar gynfas
Prynwyd; gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd / Ymddiriedolaeth Elusennol John Paul Getty Jnr a rhodd anhysbys, 1994
NMW A 2754
Siop y Dofednwr, Frans Snyders
SNYDERS, Frans (1569 - 1657)
Siop y Dofednwr
olew ar gynfas
dyrannwyd yn lle treth; Llywodraeth E.M., 1998
NMW A 12866

Cyfnod hynod oedd hwn, pan ddaeth archbŵer newydd i’r amlwg – Gweriniaeth yr Iseldiroedd – gan groesawu Oes Aur Celf yr Iseldiroedd.

Trawsnewidiodd rhyfel, gwleidyddiaeth a chrefydd bob agwedd ar gymdeithas yr Iseldiroedd yn yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg.

Rhanbarth o daleithiau dan reolaeth Sbaen Gatholig oedd yr Iseldiroedd ym 1500. Wedi brwydr hir a chaled, enillodd y wlad ei hannibyniaeth ym 1648 pan sefydlwyd Gweriniaeth yr Iseldiroedd.

Roedd taleithiau’r gogleddyn ymfalchïo yn euhannibyniaeth newydd, Wrth i economi’r wlad ffynnu, byddai’r bobl gyfoethogionyn dathlu eu byd da yn afradlon drwy addurno’ucartrefi ag amrywiaeth obortreadau, darluniau bywyd llonydd, a tirluniau agolygfeydd o fywyd bob dydd.

Arweiniodd hyn at alw mawr am beintiadau, a sefydlwyd ysgolion i arlunwyr talentog yn y prif drefi a’r dinasoedd.

Yn wahanol i ogledd yr Iseldiroedd, arhosodd Fflandrys a thaleithiau eraill y de dan lywodraeth Sbaen. Byddai arlunwyr Ffleminaidd yn aml yn gweithio i’r Eglwys Gatholig.

Er bod nifer o artistiaid wedi ffoi oddi yno rhag y rhyfeloedd crefyddol, gwelodd yr ail ganrif ar bymtheg adfywiad ym myd y celfyddydau yn Fflandrys.

O dan ddylanwad Peter Paul Rubens, ffynnodd arddull afieithus a elwir yn Faróc Ffleminaidd, a daeth Antwerp yn brif ganolfan i artistiaid.

Map oriel 3

Lleoliad:

Oriel 3
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd