Mae ein gwefan yn newid. Rydym ni’n treialu tudalennau newydd: beth ydych chi’n feddwl amdanynt? Mwy
Dewislen

Celf ym Mhrydain Oes Victoria

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Jephthah, Sir John Everett Millais
MILLAIS, Sir John Everett
Jephthah
1867
olew ar gynfas
cymrynrodd gan Isadore Stone, 1964
NMW A 180
DA000734_01
Newyddion Drwg (Y Gwahanu), James Tissot
TISSOT, James (1836 - 1902)
Newyddion Drwg (Y Gwahanu)
1872
olew ar gynfas
cymrynrodd gan William Menelaus, 1882
NMW A 184

Mae pensaernïaeth a dylunio Oes Victoria yn dal i ddylanwadu cymaint ar ein byd ni heddiw, yn enwedig yng Nghaerdydd, a ddatblygodd o fod yn dref farchnad i ddinas o bwys rhyngwladol yn ystod y 19eg ganrif.

Castell Caerdydd yw un o adeiladau mwyaf ysblennydd yr adfywiad gothig ym Mhrydain. Trawsnewidiodd William Burges y castell ym 1866.

Prydain oedd un o wledydd cyfoethocaf y byd yn oes y Frenhines Victoria (1819-1901). Roedd mwy a mwy o bobl yn prynu celf, a’r arlunwyr yn mwynhau cyfoeth a bri cymdeithasol oherwydd hynny.

Roedd y dosbarth canol cyfoethog yn hoff iawn o dirluniau rhamantaidd, anifeiliaid pert a golygfeydd o fyd llên. Roedd arlunwyr hefyd yn defnyddio’u gwaith i roi sylwadau ar y gymdeithas ar ffurf peintiadau o fywyd modern.

Sefydlwyd y Frawdoliaeth Gyn Raffaelaidd ym 1848, gan roi pwrpas moesol newydd a safbwyntiau ffres ar y byd a’i bethau.

Erbyn diwedd y ganrif, roedd y pwyslais ar brydferthwch er ei fwyn ei hun, ac roedd arlunwyr yn mabwysiadu syniadau a thechnegau newydd o Ffrainc.

Datblygodd Cymru fel diolch i’r diwydiant haearn a glo. Hyn hefyd oedd wrth wraidd nawdd preifat i’r celfyddydau a sefydlu’r orielau cyhoeddus cyntaf.

Er bod y rhan fwyaf o’r arlunwyr Cymreig yn gweithio y tu allan i’w mamwlad o hyd, dechreuodd rhai ymdrin â phynciau fel hunaniaeth Gymreig gan gyfrannu at y twf mewn ymwybyddiaeth genedlaethol.

Map oriel 6

Lleoliad:

Oriel 6
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd