Mae ein gwefan yn newid. Rydym ni’n treialu tudalennau newydd: beth ydych chi’n feddwl amdanynt? Mwy
Dewislen

Celf Ffrengig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

NMW A 2473, Jean-François Millet, Y Teulu Gwerinol, 1871-72
NMW A 2473, Jean-François Millet, Y Teulu Gwerinol, 1871-72
NMW A 2443, Jean Baptiste Camille Corot, Castel Gandolfo, Bugeiliaid o'r Tyrol yn dawnsio ger Llyn Albano, 1855-60
NMW A 2443, Jean Baptiste Camille Corot, Castel Gandolfo, Bugeiliaid o'r Tyrol yn dawnsio ger Llyn Albano, 1855-60

Cafodd newidiadau cymdeithasol a chyffro gwleidyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg effaith aruthrol ar artistiaid Ffrainc.

Dechreuwyd cefnu ar draddodiad a herio awdurdod, gan fraenaru’r tir ar gyfer moderniaeth mewn celf. Dechreuodd arlunwyr fynegi ymwybyddiaeth gynyddol o’r byd o’u cwmpas.

Roedd ‘realyddion’ fel Jean-François Millet a Honoré Daumier yn canolbwyntio ar y werin a bywyd bob dydd. Roeddynt yn portreadu tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol yn aml, gan sbarduno cynnwrf gwleidyddol.

Tra bod llawer wedi gwirioni ar y delweddau realistig, roedd eraill yn gweld eu themâu’n aflednais a garw.

Yn sgil hyn, bu adfywiad mewn darluniau hanesyddol. Roedd moethusrwydd rhwysgfawr y ddeunawfed ganrif yn boblogaidd iawn ac yn cynnig dihangfa i rai â chwaeth fwy traddodiadol.

Gwelwyd datblygiadau newydd ym myd celf oherwydd technoleg newydd hefyd. Diolch i diwbiau paent parod, roedd arlunwyr yn gallu gadael eu stiwdios a mynd i weithio yn yr awyr agored.

Manteisiodd peintwyr tirluniau fel Jean-Baptiste-Camille Corot ar y rheilffyrdd newydd i adael y ddinas a pheintio lluniau gwledig yn y fan a’r lle.

Yn lle creu tirluniau dychmygol, roeddent yn creu lluniau a oedd, ym marn y beirniaid, yn olygfeydd anffurfiol, di-strwythur, ac felly’n annheilwng i’w harddangos.

Cafwyd chwyldro celfyddydol yn sgil y dulliau newydd ac arloesol hyn o bortreadu bywyd bob dydd, golau ac awyrgylch a sbardunwyd cenhedlaeth newydd o arlunwyr – yr Argraffiadwyr.

Map oriel 11

Lleoliad:

Oriel 11
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd