Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Uchafbwyntiau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

[delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

[delwedd: Oriel gelf]

Amrywiaeth hynod o drysorau — dewch i gael eich dallu! Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur.

Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

Er nad dyma’r hynaf o adeiladau Amgueddfa Cymru, dyma leoliad cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a agorwyd yn swyddogol ym 1927.

Mae yng nghanol canolfan ddinesig syber Caerdydd. Heddiw, mae’n gartref i gasgliadau cenedlaethol Cymru o archeoleg, celf, daeareg a hanes natur.

Mae'r casgliad celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ymhlith y gorau yn Ewrop. Gwelwch 500 mlynedd o beintiadau, darluniau, cerfluniau, arian a serameg o Gymru a'r byd, gan gynnwys un o gasgliadau gorau Ewrop o weithiau'r Argraffiadwyr.

Dilynwch daith hynod yn Esblygiad Cymru o ddechrau amser hyd heddiw. Mae'r stori'n dechrau yn y gofod gyda'r Glec Fawr cyn mynd â chi ar daith dros 4,600 miliwn o flynyddoedd i ddod wyneb yn wyneb â deinosoriaid a mamothiaid gwlanog. Darganfyddwch sut esblygodd bywyd yng Nghymru a pha ddeinosoriaid oedd yn crwydro'r tir.

Darganfyddwch Hanes Natur amrywiol Cymru ar daith o lan y môr i'r mynyddoedd. Gwelwch rhai o'r amgylcheddau unigryw sy'n golygu bod Cymru'n gartref i dros 900 o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Mae’r Canolfan Ddarganfod Clore yn rhoi cyfle i chi weld a chyffwrdd gwrthrychau’r Amgueddfa, o bryfed i ffosilau ac arfau’r Oes Efydd, a mynd i'r afael â rhai o'r 7.5 miliwn o eitemau sydd fel arfer wedi eu cuddio yn ein storfeydd.

» Gweld ein digwyddiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Gwybodaeth

Parc Cathays, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm Mawrth–Sul (Orielau yn cau am 4:45pm)

Ffôn:
(029) 2057 3000

Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

Sylwer: o 3 Mehefin, bydd y tâl am barcio yn £5.

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.