Addysg ôl-16

Celf

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Byddwn yn llywio’r myfyrwyr drwy’r broses o edrych ar waith celf a’i ddadansoddi, trwy astudio 4 gwaith celf. Os hoffech ganolbwyntio ar weithiau penodol, rhowch wybod i ni.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Addysg ôl-16

Teithiau tywys y tu ôl i’r llenni

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

DDIM AR GAEL AR HYN O BRYD

Cipolwg ar waith gwyddonwyr yr Amgueddfa yn yr adran Hanes Natur a chyfle i archwilio’n casgliadau helaeth.

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16
Am ddimDan arweiniad athro

Adnodd addysg - arddangosfa Bregus?

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Arddangosfa am gerameg yw Bregus?. Gwrthrychau wedi'u gwneud o glai ac yna'u tanio yw cerameg. Gan amlaf, rydyn ni'n meddwl amdanynt fel gwrthrychau bregus, ond nod yr arddangosfa hon yw herio'r syniad hwnnw a rhoi blas ar y mathau gwahanol o gerameg sy'n cael eu creu heddiw.

Nod yr adnodd addysg hwn yw helpu athrawon ac addysgwyr. Mae'n cynnwys cymorth i gynllunio ymweliad a chrwydro'r arddangosfa, ac mae'n awgrymu gweithgareddau ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Er ei fod wedi'i fwriadu'n bennaf ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2 a 3, mae'n hawdd ei addasu ar gyfer myfyrwyr iau neu hŷn.

Cefnogwyd y pecyn yma gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Dyddiadau: 18 Ebrill - 4 Hydref 2015
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16
Am ddimDan arweiniad athro

Ymweliad Oriel Gelf - Argraffiadaeth a Chelf Fodern

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Datblygwyd y nodiadau hyn er mwyn rhoi gwybodaeth i chi am ddarnau celf unigol yn yr orielau celf argraffiadol a modern yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i drafod celf gyda’ch disgyblion.

Mae rhai o'r gweithiau celf yn yr adnodd yma nawr mewn lleoliad gwahanol neu ddim ar arddangos. Os ydych am ymweld i astudio gweithiau penodol holwch cyn eich ymweliad.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3 & 4, Addysg ôl-16, Athrawon
Am ddimYn yr ysgol

Cynllun Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn arwain prosiect i gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o’r prosiect hwn rydyn ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.