Am ddimDan arweiniad athro

Her Menter a Chyflogadwyedd - Bagloriaeth Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Cymeradwyo gan CBAC

Dyma weithgareddau ag adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas, cyn Swyddog Datblygu Bagloriaeth Cymru, mewn partneriaeth â CBAC i’ch cefnogi chi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymry 2015.

Mae’r adnoddau yn cynnwys dogfen her ar gyfer eich darn o waith fydd yn cael ei asesu, ynghyd â her i helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer eu project.

I brofi byd busnes a gwaith mae angen i chi weithio gyda’ch gilydd fel tîm o 3-6 a defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth rydych wedi casglu wrth ymchwilio Amgueddfa Cymru i gynllunio, dylunio a datblygu cynnyrch newydd yn seiliedig ar gasgliadau’r amgueddfeydd. Rhaid i’r cynnyrch fod yn gost-effeithiol, arloesol ac yn addas ar gyfer gwerthiant yn siopau Amgueddfa Cymru.

Mae yna weithdai ychwanegol i gefnogi eich gwaith cwrs. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Codir tâl am rai sesiynau.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Cwricwlwm

Bagloriaeth Cymru CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Her Menter a Chyflogadwyedd – Cynnyrch

Am ddimYn yr ysgol

Mathemateg ac Amgueddfeydd

Ar gael ym mhob un o'n hamgueddfeydd
Mathemateg ac Amgueddfeydd

Pecyn digidol newydd i gefnogi’r fframwaith rhifedd mewn ysgolion cynradd.

22 o weithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 i hybu sgiliau rhif, geometreg, mesur a data.

Datblygwyd y pecyn hwn mewn partneriaeth â Gwawr Gwyddoniaeth. Noddwyd y pecyn hwn trwy grant gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Adnodd Addysg y Ddôl Drefol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bwriad y pecyn hwn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi at arwain ymweliad â’r Amgueddfa ond gellir ei ddefnyddio i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt hefyd. Mae llawer o syniadau a gweithgareddau i fynd i’r afael â nhw cyn eich ymweliad, tra byddwch yn yr Amgueddfa ac yn ôl yn yr ysgol. Yng nghefn y pecyn, ceir adran adnoddau gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau.

Mae’r cynnwys yn berthnasol hefyd i’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

adnodd dysgu gwyddorau naturiol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Nod yr adnodd hwn dan arweiniad athro ar gyfer ysgolion cynradd yw helpu athrawon ac arweinwyr grŵp eraill i drefnu ymweliad llwyddiannus. Mae’r orielau yn amrywiol, ac yn cwmpasu pob math o bynciau gwahanol o fewn y cwricwlwm Gwyddoniaeth, gan gynnwys cynefinoedd, anifeiliaid, planhigion, deinosoriaid, mwynau a bioamrywiaeth.

Mae’r cynnwys yn berthnasol hefyd i’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol.

Mae mwy o wybodaeth am yr arddangosfeydd yn y pecyn er mwyn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae’n cynnwys gweithgareddau hefyd i’ch helpu i archwilio’r arddangosfeydd.

Am ddimSesiwn beilot

Sut i gynllunio’ch ymweliad â’r Amgueddfa

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

24 Medi, 21 Ionawr ac 14 Mai

1pm-5pm

Cyfle i weithio gyda’n swyddogion addysg er mwyn datblygu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o gelf a gwyddoniaeth yn yr Amgueddfa, a sut i ddenu’ch dysgwyr i ymgysylltu’n rhyngweithiol â’r casgliadau hyn.

Hyd: 1 awr x 2
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – am ddim.
Am ddimDan arweiniad athro

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Hyd: 45 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimDan arweiniad athro

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Hyd: 45 munud
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimDan arweiniad athro

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Hyd: 1 awr
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimDan arweiniad athro

Adnodd Dysgu i Athrawon 'Mi Wela i...Natur

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Diben y pecyn yw helpu athrawon ac addysgwyr y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i baratoi ar gyfer ymweliad hunandywys, ond gallwch ei ddefnyddio yn yr ystafell ddosbarth hefyd. Mae’n cynnwys gwybodaeth am waith rhai o’r gwyddonwyr sy’n astudio natur. Hefyd, ceir syniadau a gweithgareddau i’w hystyried cyn eich ymweliad, yn yr oriel, a nôl yn yr ysgol. Mae adran adnoddau yng nghefn y pecyn, gyda thaflenni gwaith a gweithgareddau.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimDan arweiniad athro

Archwilio Deunyddiau

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Taflen waith i’ch helpu i archwilio’r casgliadau – faint o bethau allwch chi eu canfod.

Hyd: 1 awr
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Dogfennau

Am ddimDan arweiniad athro

Llyfryn gweithgareddau Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Arddangosfa Trysorau

Llyfryn gweithgareddau i deuluoedd a grwpiau eraill gael archwilio.

Archebwch eich tocynnau ar-lein ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Hyd: 1 awr

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Hyd: 1 awr
Dyddiadau: Ionawr 26 - Hydref 2016
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimDan arweiniad athro

Pecyn Addysg Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae’r pecyn hwn wedi’i ysgrifennu er mwyn helpu athrawon i gynllunio ymweliad llwyddiannus, gydag argymhellion ar gyfer gweithgareddau cyn ymweld, syniadau wrth ymweld â’r arddangosfa a phethau i’w gwneud yn y dosbarth ar ôl ymweld.

 

Mae arddangosfa Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol yn daith gyffrous o ddarganfyddiadau ac antur. Wrth edrych ar waith a straeon rhai o archaeolegwyr ac anturiaethwyr enwocaf y byd, gallwn archwilio hanes a gwyddoniaeth archaeoleg a’r portread o’r pwnc mewn diwylliant poblogaidd.

Hyd: 30 munud
Dyddiadau: Ionawr 26 - Hydref 2016
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimDan arweiniad athro

Syniadau cyffredinol ar gyfer ymweld â’r amgueddfa

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Defnyddiwch y nodiadau hyn er mwyn archwilio themâu addysgol ar draws yr orielau.

Hyd: 1 awr
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimDan arweiniad athro

Ymweliad â’r Oriel Gelf - casgliadau celf hanesyddol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Datblygwyd y nodiadau hyn er mwyn rhoi gwybodaeth i chi am ddarnau celf unigol yn yr orielau celf hanesyddol yn ogystal ag awgrymiadau ar sut i drafod celf gyda’ch disgyblion.

Hyd: 1 awr
Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.
Am ddimYn yr ysgol

Adnoddau cynhesu byd-eang

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amrywiaeth eang o adnoddau ar gyfer ysgolion sy’n astudio cynhesu byd-eang neu newid yn yr hinsawdd.

Hyd: 1 awr
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.
Am ddimYn yr ysgol

Cynllun Addysg y Rhyfel Byd Cyntaf

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru yn arwain prosiect i gynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Fel rhan o’r prosiect hwn rydyn ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol ar gyfer Hwb.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.