Rydych chi yn:  > 

Amgueddfa Cymru

Eglwys Sant Teilo

Medi 2012

Drysau Agored: Taith i weld Murluniau Gwreiddiol Eglwys Teilo Sant

Postiwyd gan Sara Huws ar 19 Medi 2012

Mae nifer gyfyngedig o lefydd ar ôl ar daith arbennig, a hoffwn eu cynnig i chi, annwyl ddarllenwyr!

 

Fe fydda i'n arwain taith i'n storfeydd, i weld murluniau gwreiddiol Eglwys Teilo Sant, a beintwyd tua 1500. Fe dynnwyd nhw oddi ar y waliau cyn i ni symud yr eglwys i'r amgueddfa. Replicâu ohonynt a welwch ar waliau'r eglwys heddiw. Os ydych chi isie gwybod pa siâp sut ar y rhai gwreiddiol, dyma'r gweithdy i chi!

 

Er i ni arddangos rhai o'r esiamplau yn y gorffennol, bydd y daith yn gyfle i'w gweld i gyd yn eu cyflwr gwreiddiol, yn ein storfeydd newydd. Bydd yn gyfle i edrych ar sut, a pham, y symudwyd nhw i'r amgueddfa.

 

Bydd y daith yn cael ei chynnal ar y 25ain o Fedi. Bydd y sesiwn bore rhwng 11:00 a 13:00, ac yn edrych ar Eglwys Teilo Sant fel y mae hi heddiw, gan ganolbwyntio ar y lliwiau, y paent a'r eiconograffeg. Bydd y sesiwn bnawn rhwng 14:00 a 16:00, yn mynd â chi i'r storfeydd ac at y murluniau gwreiddiol. Mae nifer gyfyngedig iawn o lefydd ar gael ac felly rhaid archebu lle o flaen llaw. Galwch (029) 20 57 35 29 i hawlio lle!

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.