Rydych chi yn:  > 

Ymchwilio ein Coedwigoedd

Mehefin 2012

Archwilio Natur yn Sain Ffagan dros hanner tymor!

Postiwyd gan Hywel Couch ar 1 Mehefin 2012

[delwedd: ]

Titw Tomos Las yn ymddangos allan o un o'n blychau nythu!

[delwedd: ]

Cnocell Fraith Fwyaf yn bwydo cyw sy'n nythu tu fewn i'r goeden.

Os ydych chi unrhyw beth fel fi, byddwch wedi bod yn gwylio rhaglenni gwych Springwatch ar y BBC dros y diwrnodau diwethaf. Mae’r gwanwyn yn amser gwych o'r flwyddyn ym myd natur gyda chymaint yn digwydd o'n cwmpas, ac mae Amgueddfa Sain Ffagan yn lle gwych i ddod wyneb yn wyneb gydag amryw o fywyd gwyllt! 

Dros hanner tymor, beth am ddod i ymweld â ni a chodi un o'n llwybrau natur teulu, y gallwch ddod o hyd i yn y brif dderbynfa ac yn Oriel 1. Bydd y llwybr yn mynd â chi i’r llefydd gorau yn yr amgueddfa i weld ein bywyd gwyllt gwych. Gallwch wylio adar yn bwydo o gysur ein cuddfan adar, ymweld â'r Tanerdy lle gallwch wylio ein hystlumod pedol lleiaf yn clwydo ar ein camera is-goch a hyd yn oed cymryd golwg i mewn i'r pyllau d?r i weld madfallod d?r a chreaduriaid eraill sydd wedi ei gwneud yn eu cartref ynddynt. 

Trwy gydol yr amgueddfa mae adar yn nythu, boed yn rhai o'r hen adeiladau, mewn coed neu yn rhai o'r blychau nythu yr ydym wedi'u rhoi i fyny. Drychwch ar y gnocell fraith fwyaf (yn y llun) yn nythu mewn coeden. Gallwch hyd yn oed wylio teulu o ditw Tomos las yn nythu yn un o'n blychau nythu yn fyw ar ein gwefan.

Gwyliwch teulu'r Titw Tomos Las yn few ar ein gwylltgamera fyw

Gobeithio bydd y tywydd hyfryd rydym wedi cael yn ddiweddar yn dychwelyd oherwydd byddaf yn treulio amser yr wythnos nesaf yn dangos rhai o'n huchafbwyntiau bywyd gwyllt. O ddydd Mercher i ddydd Gwener yr wythnos nesaf (Mehefin 6-8) byddaf yn y guddfan adar rhwng 11-1 a binocwlars a thaflenni adnabod ac yna yn y Tanerdy rhwng 2-4 yn dangos ein hystlumod gyda'r camera. Os ydych yn cael y cyfle, dewch draw, codwch un o’n llwybrau natur a dewch i ddweud helo!

Video Clip, taken 30/05/2012

bird-nest.mp4

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.