Rydych chi yn:  > 

Ymchwilio ein Coedwigoedd

Ionawr 2011

Paratowch i gyfri...

Postiwyd gan Hywel Couch ar 24 Ionawr 2011
Cnocell Fraith Fwyaf yn bwydo ar ein cnau tu fas i'r cuddfan.
Ji-Binc gwryw yn mwynhau'n hadau.

Ydych chi'n mwynhau gwylio'r adar yn eich ardd? Oes 'da chi hoff le i fynd i wylio'r adar? Penwythnos 'ma (29ain a 30ain Ionawr) yw'r Big Garden Birdwatch, sef arolwg blynyddol o adar Prydain sy'n cael ei threfnu gan yr RSPB.

Dim ond awr sy angen i recordio pa adar sy'n ymweld a'ch ardd neu parc lleol. Am restr o parciau Caerdydd, cliciwch yma.

Gallwch hyd yn oed ymweld a ni yma yn amgueddfa Sain Ffagan i weld pa adar gallwch weld o'n cuddfan adar. Ble bynnag da chi'n mynd, cofiwch i wisgo'n gynnes, gall fod yn oer iawn!

Does dim tal i cofrestru ac mae'r holl wybodaeth 'da chi angen ar gael ar wefan yr RSPB: www.rspb.org.uk/birdwatch 

Beth welwch chi??

Llifogydd!

Postiwyd gan Gareth Bonello ar 13 Ionawr 2011
Yn gyntaf oedd yr eira ac nawr y glaw! Torrodd yr Elai drwy'r dorlan ger Sain Ffagan heddiw. Diferion bychain i gymharu 'da beth sy'n digwydd yn Queensland Gallwch helpu'r rheini sydd wedi eu dal lan yn y llifogydd yn Awstralia yma
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.