Amgueddfa Cymru

Hafan

Helo Gyfeillion y Gwanwyn,

Rwy am rannu ambell lun gyda chi. Cofiwch, os gofynnwch i’ch athro neu athrawes yrru lluniau o’ch planhigion i mi, gallaf eu rhannu gydag ysgolion eraill sy’n rhan o’r project! Mae gen i ddiddordeb mawr mewn lluniau sy’n dangos y newid mewn tymhorau – fel blodau’r gwanwyn yng nghanol eira’r gaeaf!

Gwe pry cop gaeafol yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Cennin Pedr yn Sain Ffagan. Allwch chi weld pa blanhigion sydd â blagur, a pha rai sydd wedi blodeuo?

Cennin Pedr yn Sain Ffagan. Allwch chi weld pa blanhigion sydd â blagur, a pha rai sydd wedi blodeuo?

Mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch pryd i gofnodi dyddiad blodeuo ar-lein. Gallwch fonitro taldra eich planhigion bob wythnos a gadael i mi wybod yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd. Ond dim ond wedi i’r planhigyn flodeuo y dylech gofnodi ‘dyddiad blodeuo’ a thaldra’r planhigyn ar ddiwrnod blodeuo.

Edrychwch ar y llun uchod o Gennin Pedr yn Sain Ffagan. Cafodd y llun ei dynnu ar ddiwrnod oer, felly nid oedd y blodau wedi agor yn llawn. Ond, gallwch weld pa rai sydd wedi blodeuo trwy edrych yn ofalus. Os yw’r holl betalau i’w gweld yn glir yna mae’r planhigyn wedi blodeuo. Cyn blodeuo mae’r petalau yn cael eu gwarchod gan gasyn tynn fel hwn:

Blagur yw hyn.

Blagur yw hyn. Pan fydd y blodyn wedi aeddfedu, a’r tywydd yn ddigon cynnes, bydd y casyn yn dechrau agor. Gall hyn gymryd ychydig oriau neu rai dyddiau! Efallai y gallwch weld hyn yn digwydd, os wnewch chi wylio’r planhigion yn ofalus iawn! Pan fyddwch yn gallu gweld yr holl betalau a’r casyn wedi disgyn gallwch fesur taldra’r blodau a chofnodi hyn ar y wefan. Wedi i chi wneud hynny bydd blodyn yn ymddangos ar fap yn dangos lle mae eich ysgol.

Gallwch fesur uchder eich planhigion i weld pa mor sydyn mae nhw’n tyfu. Os yw’r planhigion yn dal yn fach gallwch eu mesur o dop y pridd. Ond, pan fyddwch yn mesur er mwyn cofnodi ar y wefan, dylech fesur o dop y pot blodau i bwynt uchaf y blodyn.

Ydych chi wedi cymharu uchder y blodau yn eich dosbarth? Oes yna wahaniaeth mawr yn uchder y planhigion a pha mor aeddfed ydyn nhw, neu ydyn nhw i gyd yn debyg? Beth am y planhigion sydd wedi’u plannu yn y ddaear? Yw’r rhain yn fwy na’r rhai mewn potiau? Pam hynny tybed? Gallwch ddweud beth ydych chi’n feddwl yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd yr wythnos hon!

Gyrrwch eich straeon a lluniau i’r blog blodau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter!

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn!

Athro’r Ardd

O.N. Peidiwch â phoeni os nad yw eich planhigion wedi dangos eto. Mae’n dal yn gynnar ac rwy’n sicur bydd yn gwneud cyn bo hir! Rhwy'n dal yn aros am rai o'n planhigion i dangos uwchben y pridd...

Mae fy Nghennin Pedr a Chrocws yn tyfu hefyd !!

Wythnos diwethaf, fel rhan o Ddiwrnod Budd a Roi 2014, daeth 50 o wirfoddolwyr o Lloyds Banking Group i Sain Ffagan i helpu gyda nifer o brosiectau. Wnaeth rai helpu’r Adran Garddio, wnaeth rai ymuno a’r Adran Adeiladau Hanesyddol tra gwnaeth rai gweithio ynghyd a’r Gymdeithas Alzheimer. Wnaeth 11 o’r gwirfoddolwyr gweithio gyda fi a Bernice i adeiladu gwrych newydd yn y goedwig wrth ymyl y guddfan adar.

Da ni di bod yn bwriadu adeiladu gwrych wrth ymyl y guddfan adar am sbel, am nifer o resymau. Yn gyntaf, bysai’r gwrych yn actio fel sgrin wrth nesai’r guddfan, gyda’r gobaith bysai’r adar ddim yn cael ei ofni gan ymwelwyr yn cerdded ar hyd y llwybr. Ma’ wrych hefyd yn gallu gweithio fel coridor wrth i fywyd gwyllt symud drwy’r goedwig. Hefyd, mae nifer o ymwelwyr wedi bod yn creu llwybr wrth dorri drwy’r goedwig, ac felly, wrth adeiladu gwrych, da ni’n gobeithio nawr bydd llai o ymwelwyr yn gwneud hyn.

Tasg cyna’r dydd oedd minio’r pyst. Mae’r pyst yn bwysig er mhoen neud yn siŵr bod y gwrych yn cael ei adeiladu ar sylfaen solet. Mae creu min yn neud e’n haws i yrru’r pyst mewn i’r ddaear. Ar ôl creu tyllau arwain, defnyddiwyd morthwyl  mawr i yrru’r pyst i lawr. Unwaith roedd y pyst yn ei le, roedd hi’n bosib i ni ddechrau adeiladu’r gwrych.

Ma’ na nifer o wahanol fathau o wrych, a phenderfynon ni ddefnyddio pren a choed wedi marw. Dros yr wythnosau diwethaf, dwi di fod yn gofyn i’r adrannau garddio ag amaethyddiaeth i gasglu unrhyw bren ac yn y blaen a’i anfon draw i’r guddfan adar. Am fod angen cymaint o bren, es i a rai o’r gwirfoddolwyr mewn i’r goedwig i gasglu hyd yn oed mwy.

Ar ôl cinio, fel grŵp, aethon ni i fyny i Fryn Eryr, safle’r ffarm Oes Haearn newydd sy’n cael ei adeiladu. Mae’r goedwig yma wedi cael ei chlirio yn ddiweddar, felly llanwyd trailer yn barod i’w cludo i’r guddfan. Erbyn diwedd y prynhawn, llwyddon ni i orffen y gwrychoedd. Gorffennwyd y gwrychoedd efo toriadau palalwyf er mwyn ychwanegu bach o je ne sais quois.

Fel mae’r lluniau yma’n dangos, mi oedd y diwrnod yn llwyddiant enfawr! Gallwn ni ddim di gofyn am dywydd gwell a dwi’n meddwl gwnaeth pawb mwynhau’r profiad. Gorffennwyd y 2 darn o wrych oeddem ni am adeiladu, a dwi eisoes wedi meddwl am brosiectau am y dyfodol! Cyflawnwyd llwyth o waith mewn un diwrnod, bysai’r gwaith di cymryd amser maeth i mi a Bernice i orffen heb help y gwirfoddolwyr. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth helpu ni a’r prosiectau arall hefyd!

Penwythnos diwethaf, ymunodd miloedd o bobl mewn gyda’r arolwg adar mwya’r byd - Gwylio Adar yr Ardd gyda’r RSPB! Ar ddydd Sadwrn, wnes i ymuno gyda’r hwyl trwy wneud trîts bach i’r adar gydag ymwelwyr i’r amgueddfa. Wedi fy ysbrydoli, nes i dreulio ychydig amser yn y guddfan adar yma yn Sain Ffagan. Dyma gwpwl o lunie o be welais…

Wnaethoch chi gymryd rhan yn yr arolwg? Be welsoch yn eich gardd? Cofiwch i adrodd yn ôl i’r RSPB - Big Garden Bird Watch

Dilynwch bywyd gwyllt Sain Ffagan ar Twitter

Wel, ma gwyliau haf arall wedi hedfan heibio, ac mae  hi bron yn amser eto i groesawu grwpiau ysgol yn ôl i Sain Ffagan ar ddechrau flwyddyn ysgol newydd! 

Mae’r haf eleni wedi bod bach yn wahanol i mi yma yn Sain Ffagan. Oherwydd y gwaith ail-ddatblygu da ni di colli’r Tŷ Gwyrdd fel adeilad, felly mae’r gweithgareddau natur wedi bod bach mwy nomadig nai’r arfer! Roedd hi’n gyfle neis i mi ddefnyddio ardaloedd gwahanol o’r amgueddfa ac i edrych ar ba fywyd gwyllt sydd i’w ffeindio o amgylch y lle. 

Dros fis Awst, ddaeth tua 1000 o bobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau natur o amgylch yr amgueddfa, o archwilio yn y goedwig am fwystfilod bach i’n teithiau ystlumod gyda’r nos. Mae’r teithiau ystlum eleni wedi bod yn hynod o boblogaidd! 

Ar ddechrau’r haf naethon ni ail-agor y guddfan adar yn ei leoliad newydd ger ysgubor Hendre Wen. O’n i’n poeni falle byse dim cymaint o adar i’w weld yn yr ardal newydd, ond ar ôl treulio hanner awr yn gwylio’r adar nes i weld 11 rywogaeth wahanol. Gobeithio neith niferoedd tebyg parhau i ymweld â’n bwydwyr o amgylch y guddfan. Mae’r guddfan nawr ar agor bob dydd, felly ar eich ymweliad nesa i’r amgueddfa byddwch yn siŵr i bipio draw i weld be welwch chi! 

Ym mis Awst cawsom bach o fraw ar ôl tan fach yn y Tanerdy. Mae’r Tanerdy yn gartref i grŵp o ystlumod Pedol Lleiaf prin iawn. Torrodd tan drydanol bach allan un bore yn yr ystafell islaw ble mae’r ystlumod yn clwydo fel arfer. Diolch byth, nath y tan ddim cydio diolch i ymateb cyflym gan Wasanaeth Tan ac Achub De Cymru. Yn ystod y digwyddiad nath yr ystlumod hedfan i ardal o’r adeilad yn bell o’r tan. Nath y stori hyd yn oed cyrraedd tudalennau wefan y BBC! Diolch i Anwen am y llunie!

Mae’r ystlumod nawr wedi dychwelyd i’w ardal clwydo arferol ac i’w weld yn iawn. Yn anffodus, nid yw’r un peth yn wir am y camera ystlumod a oedd yn yr adeilad. Mae cyfuniad o ddifrod dwr a mwg yn golygu bydd angen camera newydd arnom, gobeithio cyn gynted â phosib! 

Mae ystlumod Sain Ffagan i’w weld yn mynd o nerth i nerth! Mae gennym ni 11 o’r 18 rhywogaeth sy’n byw ym Mhrydain yn clwydo yn yr amgueddfa, yn cynnwys yr ystlum Nathusius Pipistrelle sy wedi bod yn clwydo yn 2 o’n hadeiladau. Cyn hyn, dim ond 2 clwyd o’r ystlum yma sy ‘di cael ei ffeindio yng Nghymru. Dyma stori arall eleni nath newyddion

Eleni cynhaliwyd 3 Taith Ystlum gyda’r Cyfnos yn yr amgueddfa, a bob un yn llawn! Diolch i bawb ddaeth ac ymddiheuriadau i bawb nath trio bwcio ond oedd methu cal lle! Da ni’n bwriadu cynnal 4 taith mis Awst nesa gyda phosibilrwydd o fwy os oes galw! Os daethoch ar un o’n teithiau eleni ac os oes gennych unrhyw adborth, rhowch wybod i ni yma neu trwy anfon e-bost i’r amgueddfa! 

Un peth arall, hoffwn roi diolch mawr i’n tîm newydd o wirfoddolwyr sy ‘di bod yn helpu dros yr haf! Trwy gael pâr ychwanegol o ddwylo i helpu gyda digwyddiadau a gweithgareddau, mae’n bosib i ni gynnig gwell profiad ac ymweliad i’n hymwelwyr. Diolch yn fawr i chi gyd!

Bu pythefnos Pasg, unwaith eto, yn adeg prysur iawn yma yn Sain Ffagan. Daeth dros 4000 o ymwelwyr trwy ddrysau’r Tŷ Gwyrdd. Roedd amryw o weithdai gennym dros y gwyliau, o weithdy uwchgylchu i blannu hadau tomato ag hyd yn oed cwis arbennig Ffŵl Ebrill. 

Yn un o’n gweithdai - Plannu, Tyfu, Bwyta – roedd cyfle i deuluoedd meddwl am dyfu bwyd eu hun. Roedd cyfle i blannu hadau tomato a mynd a’r hadau yma gatref. Y gobaith yw, ar ôl misoedd o feithrin yr hadau bydd gan bawb planhigion tomato iach a hyd yn oed tomatos blasus erbyn yr haf. Nai gadael i chi wybod sut mae fy nhomatos yn tyfu dros y misoedd nesa! 

Fe ddaeth Wood for the Trees Wales i ymuno a ni am gwpwl o ddyddiau i gynnig un o’i gweithdai uwchgylchu. Yn y gweithdy yma roedd cyfle i droi hen fframiau lluniau a theils corc mewn i fyrddau neges newydd sbon. Roedd hyn yn boblogaidd dros ben, erbyn diwedd y sesiwn roedd pob un hen ffrâm wedi cael ei ddefnyddio! Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithdai tebyg, cadwch lygaid ar dudalen Facebook Wood for the Trees!

Eleni, wnaeth Dydd Llun y Pasg digwydd cwympo ar y 1af o Ebrill, sef dydd Ffŵl Ebrill. Roedd hyn yn gyfle gwych i ni gael cwis i ffeindio allan os yw ymwelwyr i’r Tŷ Gwyrdd yn Eco Cŵl neu yn ffyliau Ebrill ffôl. Neis oedd ffeindio mas bod y mwyafrif o’n hymwelwyr yn Eco Cŵl… gyda dim ond cwpwl o eithriadau. Ar ôl cwblhau’r cwis roedd cyfle i wneud bathodyn i dangos i ffrindiau faint more eco cŵl ydych. 

Fel rhan o’r prosiect Creu Hanes, mi fydd defnydd y Tŷ Gwyrdd yn newid. Tra bod y brif fynedfa yn cael ei uwchraddio, bydd y Tŷ Gwyrdd yn cael ei ddefnyddio fel rhan o fynedfa dros dro i’r amgueddfa. 

Dros y blynyddoedd, da ni di cael llawer o hwyl yn rhedeg gweithdai niferus yn y Tŷ Gwyrdd ac yn cwrdd â miloedd o bobl ddiddorol. Diolch mawr i’r sawl sydd wedi helpu ni i gyflawni hyn. Peidiwch â phoeni, mi fydd dal nifer o weithdai a digwyddiadau natur ac amgylcheddol yn digwydd, ond mewn mannau gwahanol yn yr amgueddfa.