Rydych chi yn:  > 
English

Ymchwilio ein Coedwigoedd

Rhagfyr 2010

Ias oer y gaeaf

Postiwyd gan Gareth Bonello ar 7 Rhagfyr 2010
Mwyalchen benywaidd oer
Coed rhewllyd
Robin goch oer

Meddwl baswn yn postio'n gyflym gydag ambell i lun o'r tywydd oer yma yn Sain Ffagan. Mae hi'n oer ond yn brydferth ar yr un pryd - yn enwedig wrth i'r haul godi a machlyd (digwyddiadau sydd bum munud ar wahan bellach dwi'n siwr 'bo chi 'di sylwi).

Os ydych am dod i'r Nosweithiau Nadolig yr wythnos yma dewch a torch a ddillad cynnes. Mae yna lwyth o bethau i wneud ond fydd hi ddim yn dwym! Mi fyddwn ni yn dangos i chi siwd i wneud addurnau nadoligaidd trwy defnyddio 'mond papur newydd, sisiwrn, glud a'r pŵer tywyll y gelwir yn 'celf a chreft'.

Hefyd, bwydwch yr adar mân gan eu bod nhw'n oer. Edrychwch ar y Robin bach yn sythu. Druan.