Amgueddfa Cymru

Hafan

Ers y blog diwethaf mae’r gwaith ar y safle wedi datblygu cryn dipyn. Rydym wedi gorffen y to gwellt ac mae camau olaf y gwaith tirlunio wedi dechrau. Mae banc pridd wedi’i godi o amgylch y ddau dŷ crwn i efelychu amddiffynfeydd cadarn gwreiddiol Fferm Bryn Eryr ar Ynys Môn. Adeiladwyd cysgod to glaswellt y tu ôl i’r tai a fydd yn cael ei ddefnyddio fel gweithdy awyr agored a gofod addysg ychwanegol. Mae’r waliau o ‘glom’ - sef cymysgedd o glai, isbridd a cherrig mân - yn union fel y tai crwn, ond mae’r to glaswellt yn esiampl arall o ddeunydd toi sydd bron mor hen â gwellt. Gosodwyd arwyneb cobl o flaen y tai crwn, sydd hefyd yn efelychu’r lleoliad gwreiddiol.

Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn canolbwyntio ar ddodrefnu’r tai. Bydd y mwyaf o’r ddau yn gymharol wag (dim ond aelwyd a mainc bren yn dilyn y waliau) er mwyn ei ddefnyddio fel ystafell ddosbarth ac ardal arddangos. Mae’r tŷ llai yn dangos bywyd cartref fel yr oedd yn ystod Oes yr Haearn ac yn cynnwys dodrefn cyffredin i’r cyfnod – tân i gynhesu, gwely i gysgu, gwŷdd i greu dillad a blancedi - a cistiau pren yw storio, ynghyd a chrochan i goginio bwyd. Seiliwyd bron pob eitem ar esiamplau o’r cyfnod sydd wedi llwyddo goroesi dros 2000 o flynyddoedd. Mae’r grochan yn replica o lestr coginio copr a haearn a ganfuwyd yn Llyn Cerrig Bach, prin 25km o Bryn Eryr, ac wrth y tân bydd fersiynau syml o’r brigwrn a ganfuwyd yng Nghapel Garmon yn Sir Ddinbych. Mae’r llestri pren wedi eu seilio ar rhai a ganfuwyd ym mryngaer Breiddin ym Meirionydd tra bod y maeniau melin yn efelychu y rhai a ganfuwyd yn Bryn Eryr ei hun. Rydyn ni wedi cynhyrchu set lawn o offer trin coed yn dilyn esiamplau o fryngaerau fel Tre’r Ceiri a Castell Henllys. Mae hyd yn oed y blancedi wedi eu copïo o ddarnau o ddefnydd sydd wedi goroesi.

Gyda’r tŷ wedi ei ddodrefnu fel y byddai yn y cyfnod gallwn ni ddefnyddio’r lleoliad i ail-greu bywyd mewn tŷ crwn. Gyda chymorth crefftwyr, actorion a gwirfoddolwyr gallwn ni ddod i ddeall bywyd Oes yr Haearn yn well a helpu troi’r tŷ hwn yn gartref.

Gaeaf yn y Pentre Celtaidd, cyfle i deuluoedd wylio sut mae darparu ar gyfer y gaeaf, dewch i droi eich llaw at wehyddu gwiail a chawen.

4 a 5 o Rha 12:00 i 13:00 a 14:00 i 15:30

Diolch o galon i ddisgyblion Ysgol Rhos Helyg, Rhosesmor, Sir Fflint ac Ysgol y Berllan Deg, Caerdydd am ymuno gyda ni wrth ddathlu creu'r Moel y Gaer newydd ddoe. Roedd hi'n wych cael ysbrydoliaeth gan Dewi Pws Morris, Bardd Plant Cymru. Buom yn creu perfformiad a darn o farddoniaeth. Byddaf yn cerfio'r geiriau hyn ar ddarn o bren dros yr wythnosau nesaf i'w harddangos nhw ger Moel y Gaer. Dyma'r gerdd i chi

Ti yw cartref y Celtiaid

Yn llawn o atgofion henfyd

Pobol cryf a dyfeisgar ein gorffennol

A ni? Dani yma o hyd

 

Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn dysgu sgiliau newydd. Treuliodd Paul Atkin rai diwrnodau yn y Pentref yn dysgu fi sut i droi pren a chreu powlen. Adeiladodd durn ar fy nghyfer a gyda chefnogaeth ein crefftwyr yma, y gof a'r gwneuthurwr lledr, rydym ni'n gobeithio cynhyrchu ein powlenni ein hunain! Ymunwch gyda fi dros y misoedd nesaf wrth i mi baratoi ar gyfer y gaeaf.

Dewch i weld sut, yn fy marn i, yr oedd pobl yr Oes Haearn yn storio bwyd a phlanhigion ar gyfer y gaeaf

8-10 Hyd 11.00 - 13.00 a 14.00 - 16.00

Gwyliwch fi'n paratoi ar gyfer y gaeaf a dewch i droi eich llaw at wehyddu gwiail a chawen                       

4 - 5 Rhag 12.00 - 13.00 a 14.00 - 15.30

 

Pwy sy'n gwenu heddiw ar y t? crwn newydd? Mae Dafydd a'r tim adeiladu yn mwynhau ffrwyth eu llafur wedi misoedd o waith caled. Wrth ddathlu agoriad Moel y Gaer mae pawb wedi bod yn eu llongyfarch am eu gwaith. Diolch i bawb a ddaeth i ddathlu gyda ni ar yr achlysur arbennig hwn. Rwyf wedi mwynhau'n fawr trafod y gwaith gyda chi i gyd.