Amgueddfa Cymru

Hafan

Blog yr Amgueddfa

Amgueddfa Cymru

Rwyf newydd gychwyn fy mhedwaredd wythnos fel Prif Guradur Adeialdau Hanesyddol yma yn Sain Ffagan, a dyma fy mlog cyntaf. Archaeoleg yw fy nghefndir, ac yn bennodol, archaeoleg arbrofol.

Mae’r math yma o ymchwil archaeolegol yn arbrofi’r syniadau sydd wedi tyfu fel canlyniad o waith cloddio archaeolegol. Yn y bôn rydym yn trio codi rhywbeth a fyddai yn gadael yr un tystiolaeth a ddarganfyddwyd, os cloddiwyd yn y dyfodol. Mae hwn yn herio ein syniadau a codi mwy o gwestiynau.

Tai Crwn o'r Oes Haearn

Dros y blynyddoedd rwyf wedi adeiladu pedwar tŷ crwn wedi seilio ar archaeoleg cartrefi Oes yr Hearn. Gan bod yr archaeoleg yma yn gallu bod yn fâs iawn (ond rhyw 30cm o drwch), mae pob elfen o ail-greuad uwchben y ddaear wedi’i seilio ar waith dyfalu – ei hun wedi seilio ar y dystioilaeth sydd wedi goroesi. Fel allech ddychmygu, mae gweithio allan strwythur adeilad sydd heb yw weld mewn 2,000 o flynyddoedd yn eitha sialens, ond un boddhaol. Felly, mae gen i bleser mawr i fod yn rhan o gyweithiau arbrofol newydd yr Amgueddfa - ailgreuad o ffermdy o Oes yr Haearn, wedi ei seilio ar dystiolaeth o Fryn Eryr yn Ynys Môn, a neuadd ganoloesol Llys llywelyn, wedi ei seilio ar dystiolaeth o Llys Rhosyr, eto yn Ynys Môn.

Mae tô y ffermdy yn cael ei doi gyda gwellt ar y funud, ag yn fuan mi fydd y tŷ yn ddiddos. Mi fydd hwn yn rhyddhâd mawr gan bod glaw trwn dros y Gaeaf wedi atal y waliau clai, 1.8m o drwch i sychu mor gyflym a gobeithio. Mae waliau o glai yn gymharol anarferol gan taw waliau gwial a dŵb neu cerrig sydd wedi eu darganfod gan amlaf. Hwn fydd yr ail-greuad cyntaf o dŷ crwn o’i fath.

Llys Rhosyr - Llys Canoloesol

Mae waliau y ddau adeilad sydd o’r Llys mor uchel a fy mrest, ac mae’r saer maen yn barod i gychwyn y fframau ffenestri. Fe ddarganfyddwyd y Llys yn Ynys Môn, ac fe’i gloddiwyd rhwng 1992 ag 1996. Mae’r waliau cerrig ond yn sefyll ryw fetr o daldra. Felly, yn yr un modd a’r ffermdy, ail-greuad wedi seilio ar dystiolaeth archaeolegol yw hwn.

Mae hanes ysgrifennedig o’r cyfnod, fel ‘Brut y Tywysogion’ yn awgrymmu fod neuadd frenhinol yma, a fu yn un o Lysoedd Llywelyn ap Iorwerth yn ystod hanner cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg. Y peth dydyn ni ddim yn gwybod gyda sicrwydd yw pa olwg oedd ar y neuadd. Mae’r wybodaeth yma wedi ei seilio ar gymhariaethau gyda neuaddau Brenhinol eraill, ag adeialdwyd yn yr un cyfnod, fel a welid yng Nghastell Conwy a Phalas yr Esgob yn Nhŷ Ddewi.

Gan fy mod yn bwriadu ysgrifennu blogiau cyson ynglyn a’r datblygiadau diweddaraf, fe wnaf anelu hefyd I amlinellu y gwaith sydd wedi digwydd hyd yn hyn, felly fydd genych fwy o syniad ô’r adeilad hynod yma, ac ein ymgeision i ddod ar Llys yn fyw unwaith eto.

To gwellt
Rhoi to gwellt spelt ar y tai crwn Oes Haearn - bron â gorffen!
Tai crwn efo to gwellt
Gorffen y gwaith toi ar y tai crwn Oes Haearn
Adeiladu Llys Rhosyr
Gwaith adeiladu Llys Rhosyr yn parhau
Seiri maen yn gweithio ar adeilad carreg
Gwaith ar agoriad y ffenestri, sy'n defnyddio technegau saer maen traddodiadol

@DyddiadurKate - Gwneud Menyn

Mared McAleavey, 25 Mawrth 2015

Yn ei dyddiadur ddoe, nododd Kate ei bod wedi 'Corddi y boreu. Modryb Erwfedig yma yn nol ymenyn.'

Roedd gwaith y llaethdy yn amlwg yn rhan ganolog o’i bywyd, a hithau’n cael ei disgrifio fel “merch ffarmwr gwaith llaethdy” yng Nghyfrifiad 1911. Dwi eisoes wedi disgrifio’n fras y broses o gorddi yn Tyhen, ond beth oedd y camau nesaf er mwyn gwneud menyn? Dyma ddyfynnu Kate unwaith eto yn disgrifio’r prosesau mewn cyfweliad hanes llafar gyda Minwel Tibbott nôl ym 1970. 

Wedi i’r menyn ffurfio, byddai Kate yn “i godi o wyneb y llaeth” gyda llaw a’i roi mewn noe, sef “fel bywlen bren fawr.” ‘Doedd dim yn cael ei wastraffu, ac unai byddai’r llaeth enwyn yn cael ei roi i’r anifeiliaid, neu byddai’r teulu yn “iwsho hwnnw i neud siot a phethe felly te, a gneud glasdwr [sef dŵr a llaeth enwyn] i fynd allan i’w yfed adag g’neud gwair … Fydde llawer iawn yn rhoi blaw’ ceirch hefyd, jesd i sgatro fo ar wyneb y can ‘n te wrth fynd â fo allan i’r cae gwair.”

I drin y menyn, roedd angen ei olchi’n lân mewn dŵr oer, “oedd raid chi ga’l y llaeth i gyd allan ne fysa fo’m yn cadw dim.” Wedi ei olchi, roedd rhaid cael gwared ar yr hylif. Yn y cyfweliad, mae Kate yn disgrifio'r hyn rwy’n ei adnabod fel clapiwr menyn, sef teclyn siâp madarch a ddefnyddid i weithio’r menyn yn y noe i gael y dŵr allan - “sgimer fydde ni’n galw beth o’ gynno ni yn i drin o’n te.”  Byddai Kate “yn gwbod yn syth” pan fo’r menyn yn barod “fydde chi’n sprinclo halen a’no fo a’i gymysgu’ o reit dda, a wedyn i godi o a neud o’n bwysi wedyn.”  Roedd ganddi “glorian i bwyso fo’n te, ‘dyn godi o, hynny o’chi’n feddwl fysa gneud pwys ‘n te a wedyn roi o mewn cwpan fenyn … ‘dyn o’dd o’n dŵad yn grwn … Roi o wedyn ar y slab carreg ‘n te, yna fydda ni’n roi’r print arno fo … Oedd pob ffarm a’i brint i hunan … Weles i ddeilen derwen, o’ hwnnw’n neis a wyddo chi mesen a’n o fo te … Welish i fuwch genno ni hefyd ryw dro … O’dda ni’n werthu o’n lleol i siop yn y pentre y rhan fwya” ac yn cyfnewid y menyn am “neges yn y siop.”

Cyfrifiad 1911 yn disgrifio Kate fel “merch ffarmwr gwaith llaethdy” © Crown Copyright Images, The National Archives.

Cyfrifiad 1911 yn disgrifio Kate fel “merch ffarmwr gwaith llaethdy” © Crown Copyright Images, The National Archives.

Dynes yn gafael mewn teclyn pren siâp madarch ac yn clapio menyn

Mrs Rachel Davies, Castellnewydd Emlyn yn clapio menyn.

Print menyn gyda patrwm dail derwen a mês

Print menyn o’r casgliad, gyda patrwm dail derwen a mês wedi ei gerfio arno.

Print menyn gyda buwch wedi ei gerfio arno.

Print menyn o’r casgliad, gyda buwch wedi ei gerfio arno.

The final countdown

Bernice Parker, 25 Mawrth 2015

Another successful lambing season at St Fagans is drawing to a close. We hope you’ve enjoyed watching all the action live on Lambcam along the way. There are still a few ewes left to deliver, as I write this the lamb-o-meter has clocked up 144. We’re on course to beat our target of 150 lambs, and hope to pass 160. That figure includes:

  • 5 sets of triplets
  • One set of quads (our first ever).

There’s been some losses along the way:

  • One set of twins - early miscarriage.
  • One set of twins – stillborn.
  • Four lambs accidentally smothered by their mothers
  • One triplet failed to thrive – died at 2 days old.

We are expecting to finish with two lambs being bottle fed – that’s Herbert, the smallest of the quads, and another lamb whose mother's milk dried up due to mastitis. So until next year, here is a picture of Herbert enthusiastically tucking into his lunch yesterday.

 

Herbert yr oen yn bwyta ei ginio - a hanner ohono fo drost ei wyneb

See you in 2016 Lambcam-ers!

I Spy…Nature out and about

Katie Mortimer-Jones, 24 Mawrth 2015

Last year Staff from the Departments of Natural Sciences, and Learning, Participation and Interpretation took their I Spy…Nature themed pop-up museum out into the community. This year we have been delivering I Spy…Nature related workshops throughout March as part of the I Spy…Nature Exhibition outreach programme. Workshops at National Museum Cardiff allowed members of the public to carry out fieldwork within the museum, bringing the outside in! Visitors were able to explore the miniature world of British Slugs and Snails, go pond dipping, explore a rocky shore (utilising our brand new portable 3D Rocky shore) and go worm charming with our OPAL Community Science officer. During the middle part of March, staff ran a series of school workshops both at National Museum Cardiff and within a local primary school, where pupils could explore the seafloor, Fossils and Minerals before trying their hand at scientific illustration with a local artist.  The aim of these sessions was to inspire children to explore their natural environment and also to give them a chance to experience the work that museum scientists do. For British Science and Engineering Week, staff held an I Spy…Nature Open day in the main Hall at National Museum Cardiff, with a plethora of specimens from our collections and even a giant lobster, fly and squirrel!

 For more information on the I Spy…Nature activities see our Storify Story.

@DyddiadurKate – y rhyfel yn nesau at y Sarnau

Elen Phillips, 18 Mawrth 2015

Wrth ddarllen cofnodion diweddar @DyddiadurKate, mae’n hawdd anghofio am gysgod y rhyfel ar fywydau trigolion y Sarnau. Heblaw am un nodyn byr am orymdaith y milwyr drwy Feirionnydd ac ambell gyfeiriad at gasglu arian er budd y Belgiaid, dyw Kate ddim yn ymhelaethu rhyw lawer am y rhyfel yn ei dyddiadur.

Mae’n rhaid cofio nad oedd effaith y rhyfel ar y ffrynt cartref mor amlwg yn ystod misoedd cynnar y brwydro. Wrth gwrs, dyma’r cyfnod cyn gorfodaeth filwrol a chyn i ddinistr y cyfandir ddylanwadu ar bob cymuned a theulu mewn rhyw fodd. Ar ddechrau 1915, nid oedd prinder llafur ar ffermydd Cymru, nac ychwaith gofid am gynhyrchiant bwyd – roedd bywyd bob dydd yn mynd yn ei flaen fel arfer.

Ond er hyn, erbyn diwedd Mawrth 1915 rydym yn gweld yn nyddiadur Kate ambell awgrym fod y rhyfel yn nesau at adref. Ar 18 Mawrth, mae’n nodi’r canlynol:

18 Mawrth – Myfi yn mynd ir seiat. Seiat ymadawol a R. Daniel Jones

Mae enw Robert Daniel Jones yn ymddangos droeon yn y dyddiadur rhwng Ionawr a Mawrth 1915. Roedd ymhlith cylch cymdeithasol Kate a’i theulu ac yn ymwelydd cyson â Tyhen. Hyd y gwela i, roedd yn byw yn y Derwgoed ac yn gweithio fel gwas ffarm efallai?

22 Chwefror – Berwi pen mochyn, a thoddi lard. Myfi yn mynd ir Hendre. Tomi a Richard yma min nos. Robert Daniel Jones yn ymadael or Caerau ir Derwgoed yn wael.

Yng nghefn ei dyddiadur, roedd Kate yn cadw cofnod o gyfeiriadau ffrindiau oddi cartref. Ymhlith yr enwau, mae tri cyfeiriad ar gyfer Robert Daniel Jones – pob un yn gysylltiedig â 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Wrth bori dogfennau milwrol y Rhyfel Mawr ar-lein, mae’n dod yn amlwg pam fod seiat ymadawol iddo ar 18 Mawrth 1915 – pum niwrnod yn ddiweddarach ymrestrodd â’r fyddin. Gallwch weld ei gerdyn medalau fan hyn.

Ffurfiwyd 7fed Bataliwn y Ffiwsilwyr Cymreig yn y Drenewydd ym Medi 1914. Bataliwn Meirionnydd a Maldwyn oedd hon â grewyd i wasanaethu gartref, yn hytrach na thramor. Ar 22 Ebrill 1915, symudodd y bataliwn i Northampton – ffaith sy’n cael ei ategu yng nghefn dyddiadur Kate:

Pte R. Daniel Jones

3679 2/7th Batt RWF Co. D

c/o Mrs Callon

78 Adams Avenue

Northampton

Prin iawn yw’r sôn am Robert Daniel yn y dyddiadur wedi Mawrth 1915. O’r cerdyn medalau sydd i’w ganfod yn y National Archives yn Kew, rydym yn gwybod iddo oroesi’r rhyfel.  Cafodd ei ryddhau o’r fyddin ar 22 Ebrill 1916 oherwydd gwaeledd. Mae natur ei salwch yn ddirgelwch, ond mae un cyfeiriad yng nghefn y dyddiadur yn ei leoli yn ysbyty filwrol Cherryhinton, ger Caergrawnt:

Pte R. D. Jones 3679

2/7 Battalion RWF D Coy

Transport Section

Cherryhinton Military Hospital

War 6. C.

Cambridge

Roedd Robert Daniel ymhlith y cyntaf o gyfoedion Kate i ymuno â’r fyddin. Cadwch lygad ar y blog dros y misoedd nesaf i glywed mwy am hanes y lleill.

Os oes rhagor o fanylion gennych am Robert Daniel Jones, neu unrhyw berson neu leoliad sy’n cael eu crybwyll yn y dyddiadur, ebostiwch neu gadewch neges isod. Diolch yn fawr!

Cerdyn bychan gyda manylion personol y Preifat Robert Daniel Jones

Cerdyn medalau Robert Daniel Jones © Crown Copyright Images The National Archives.