Rydych chi yn:  > 

Ebrill 2010

First hatchlings for 2 years!

Postiwyd gan Ciara Hand ar 29 Ebrill 2010

It's official - the Peregrines on the Clock Tower have successfully produced young - the first since 2008.  On Thursday 22 April at 2.40pm the female bird Stacey was seen at the nest with a fresh kill, carefully distributing pieces of it in the nest - but annoyingly we couldn't actually see any chicks. 

However, our suspicions were confirmed over the next few days as we saw a white fluffy head appear in the nest....then another on Tuesday 27 April, then finally one more today!  Today the male seemed to be doing a good job of bringing lots of food for the chicks, before taking a well earned rest right on the top of the tower - the rain wasn't going to spoil his kip!

The chicks are expected to fledge in late May, but will remain at the nest for several months, relying on their parents for food while they learn how to fly and hunt.  As the parents teach their young the awesome flying and hunting skills that peregrines are renowned for, it will mean fantastic aerial displays and some amazing views for us down on the ground.

Adeiladu tŷ crwn

Postiwyd gan Ian Daniel ar 29 Ebrill 2010
Adeiladu tŷ crwn gydag Ian Daniel
Dathlu gorffen y ffram newydd ar gyfer y drws
Adeiladu tŷ crwn
Y ffram newydd ar gyfer y drws
Adeiladu tŷ crwn
Y bangorwaith wedi ei orffen
Adeiladu tŷ crwn
Creu bangorwaith rhwng y pyst
» View full post to see all images

Ers rhai wythnosau rydym wedi bod wrthi'n adeiladu t? crwn yma. Dewch i ymuno gyda ni dros yr wythnosau nesaf i weld y gwaith yn mynd rhagddo. Dafydd Wiliam sydd wrthi’n adeiladu ac fe fyddaf fi o gwmpas i esbonio’r hyn sy’n digwydd i chi. Gallwch ddilyn yr hanes yn ddyddiol ar

 http://www.theroundhouse.org/dafsdiary.htm

Ar ddydd Sadwrn a dydd Llun (1af a'r 3ydd o Fai) dewch draw i brofi technegau cynnau tân a choginio. Tybed sut fyddai pobl yn ystod yr Oes Haearn wedi gwneud y pethau hyn?

Gweithgareddau i Oedolion yn Eglwys Teilo Sant

Postiwyd gan Sara Huws ar 28 Ebrill 2010

Reit, o'n i angen hynna! Ar ôl treulio'r Pasg yn Eglwys Teilo Sant, roedd cael treulio deuddydd yn yr haul ym Mharis yn siwtio i'r dim. Mi dreuliais i'r rhan fwyaf o'n amser yno mewn amgueddfeydd, am ryw reswm, yn arbennig y Musée Cluny. Ro'n i'n hapus iawn i ail-ymweld â'r lle - mae'r casgliad wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ers blynyddoedd a roeddwn ar ben fy nigon. Mae gan y Cluny (nid y Clooney, sydd yn amgueddfa ddychmygol wahanol iawn) gasgliad heb-ei-ail o wrthrychau canoloesol. Cerfluniau wedi'w dinistrio yn y Diwygiad; gwydr lliw llawn storïau fwy lliwgar fyth; coronnau cywrain; llawysgrifau gwerthfawr: dyma'r math o le sy'n rhoi ias lawr cefn gîcs fel fi.

Roedd awyrgylch debyg yn Eglwys Teilo Sant adeg y Pasg, gydag ymwelwyr yn ymweld (ac ail-ymweld) i brofi'r "teimlad 'na" ac i siarad am bob math o bethe eglwysig. Ro'n i'n rhedeg teithiau tywys ar thema'r Pasg ym 1520: beth fyddai wedi bod yn digwydd yn yr Eglwys, pwy fyddai yno, a sut y byddai'r murluniau a'r cerfluniau yn chwarae rhan bwysig yn yr holl weithgarwch. Daeth dros 800 o bobl i ymuno â'r teithiau - fe ges i'r teimlad eleni mod i wedi gwneud rhywbeth i haeddu'n wy Pasg, am unwaith!

Yn hwyrach yn y gwyliau, dyma droi asgell ddeheuol yr Eglwys yn weithdy bychan, i artistiaid o bob oed gael tro ar beintio'n defnyddio deunyddiau naturiol. Daeth dros 300 egin-Holbein atom i ddefnyddio stensiliau, ocr, pownswyr a phaent wy i greu portread Tuduraidd, gan ddefnyddio'r un technegau ac y gwnaethom ni wrth ail-addurno'r adeilad. Fel y gwelwch ar flog Oriel 1 Sian isod, roedd cyfle i greu ffrâm Duduraidd i arddangos y portread yn ei lawn ogoniant. Dwi'n credu y galla i fentro a dweud bod y weithgaredd wedi bod yn un hwylus iawn, er i mi gael fy ngorchuddio mewn ocr. Erbyn diwedd yr wythnos, ro'n i'n edrych fel petawn i 'di cael anffawd gyda photel o liw-haul ffug.

A finne wedi sgrwbio tu ôl i fy nghlustiau, ac wedi rhoi fy nhrwyn yn ôl ar y maen, mae'r cylch yn troi eto: amgyffred â'r gweithgareddau, ymchwilio, gwerthuso, paratoi ac yna aros, aros, aros i chi bobl hyfryd i'n ffonio i archebu lle! A chan fy mod i'n arfer cloi bob post gyda hysbyseb bach digywilydd: dyma grynodeb o'r gweithgareddau i oedolion y gwelwch chi o gwmpas yr Eglwys yn ystod y misoedd nesaf.

Diwrnod o Gelf i Oedolion dros 50, 6 Mai, sy'n cynnwys gweithdy pigmentau naturiol, cinio a deunyddiau am ddima llawer mwy! Mae'r niferoedd yn gyfyngedig, felly cofiwch alw o flaen llawn i osgoi cael eich siomi.

Gwyddoniaeth a'r Eglwys yn y Canol Oesoedd, 29-31 Mai: sgwrs i bryfocio'r meddwl yn Eglwys Teilo Sant.

Y Gwr Kadarn, 26 Mehefin. Y cyfle cyntaf ers 1640 i weld y chwip o ddrama Gymraeg hon yn cael ei pherfformio yn yr awyr agored.

Gwyrth y Gwanwyn

Postiwyd gan Gareth Bonello ar 27 Ebrill 2010

Ar ôl un o’r gaeafau oeraf a hiraf a gofnodwyd erioed, mae’r gwanwyn wedi cyrraedd o’r diwedd. Dros yr wythnosau diwethaf mae’r tywydd wedi bod yn gynhesach na nifer o hafau diweddar. Golyga hyn, ynghyd â’r ffrwydradau o flodau sydd i’w gweld ymhob cae, gardd a hollt yn y pafin bod y gwanwyn hwn yn argoeli i fod yn drawiadol dros ben.

Wedi gaeaf hirach nag arfer mae nifer o rywogaethau sydd fel arfer yn blodeuo’n gynnar yn y tymor wedi ymatal tan nawr. Er enghraifft y Cenau Cyll (‘Cynffonnau Ŵyn Bach’ i chi a fi), a flodeuodd yma ddiwedd Ionawr 2009, ond na ddechreuodd ddod i’r golwg nes dechrau Mawrth eleni. Yn Sain Ffagan mae’r blodeuo hwyr wedi golygu bod sawl rhywogaeth gynnar a hwyr yn blodeuo gyda’i gilydd; Eirlysiau, Llysiau’r Llew, Cennin Pedr a Chlychau’r Gog, felly mae gwledd a hanner i’r llygaid ar hyn o bryd! Am erthygl ddifyr am y tywydd anarferol eleni a’r goblygiadau i fywyd gwyllt cliciwch yma.

Ond mae’r gwanwyn yn fwy na blodau, ac mae crïoedd yr adar wedi bod yn cryfhau wrth i’r tywydd wella. Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan mae ein cyfeillion pluog yn ceisio denu cymar a gwarchod eu tiriogaeth drwy ganu mor uchel ac mor aml â phosibl. Wedi cyflawni’r dasg hon rhaid iddynt adeiladu nyth a magu nythaid (neu ddwy hyd yn oed os oes ganddynt ddigon o egni). Mae hyn yn fy arwain at newyddion cyffrous sydd gen i am y Titw Mawr sy’n nythu yn ein blwch nythu arbennig. Ar hyn o bryd adeiladu’r nyth a chlwydo yno yn y prynhawn yn unig y mae hi, ond unwaith y bydd yn dodwy wyau (dyma fi’n croesi ‘mysedd) bydd yn hynod o gyffrous! Byddaf yn cadw llygad barcud ar ddigwyddiadau ac yn rhoi unrhyw newyddion ar fy nhudalen Twitter – felly agorwch gyfrif os hoffech dderbyn ‘tweets’ am ein nythaid o gywion ar Twitter!

Mae nifer o adar wedi hedfan o’r cyfandir, neu hyd yn oed Affrica, i fanteisio ar yr holl bryfaid sy’n deor yma yr adeg hon o’r flwyddyn. Teloriaid fel y Siff-saff, yr Helygddryw, Telor y Coed a’r Telor Penddu yw’r mwyafrif o’r adar mudol hyn, ac maent yn ychwanegu digonedd o leisiau newydd i gorws y wawr, sydd ar ei orau ar hyn o bryd. Mae ambell le ar ôl ar daith corws y wawr dydd Sadwrn, os ydych chi awydd codi’n gynnar a mynd am dro o amgylch Sain Ffagan.

Ta waeth, mae’n well i mi ei throi hi. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n galw’n ôl yn fuan oherwydd mae’n mynd i fod yn dymor prysur!

Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2010

Postiwyd gan Danielle Cowell ar 27 Ebrill 2010

Enillwyr 2009-10

Gofynnwyd i'r disgyblion dynnu llun cennyn pedr a'u labelu. Cawson ni lwyth o luniau gwych!

Rhoddodd Athro'r Ardd wobrau i'r bobl a gyflwynodd y darluniau gorau. 

Oed:12

Alexandra Jones - Home educated

Oed:10

Tabitha Jones - Home educated

Oed:9

Huw Butterworth - Home educated

Leon Queely - Cwmfelin Primary

Oed:8
Thomas Minen - Cwmfelin Primary

Oed:7

Tom Butterworth - Home educated.

Goreuon y Gweddill:

Morgan Lawrence - Cwmfelin Primary.
Francesca Rees - Cwmfelin Primary
Thomas Minen - Cwmfelin Primary

 

Tystysgrifau a gwobrau i Wyddonwyr Gwych!

Postiwyd gan Danielle Cowell ar 21 Ebrill 2010
Enillwyr y gystadleuaeth! Ysgol Gynradd Pentrepoeth a theuluoedd sy'n addysgu eu plant gartref yn casglu cennin pedr ar y Really Welsh Farm.
Casglu a bwndelu.
Cyfarwyddwr y Really Welsh Company, Richard Arnold, yn egluro sut i fod yn ffermwr cennin pedr da.
Y disgyblion wrthi'n casglu.
» View full post to see all images

Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni! Bu’r plant yn cwblhau heriau ac yn cadw cofnodion o’r tywydd i ennill tystysgrifau a gwobrau Gwyddonwyr Gwych. Diolch yn fawr i’r Really Welsh Company am gyflenwi cennin pedr a’r wobr 1af – diwrnod yn casglu cennin pedr ar eu fferm ger Pen-y-bont ar Ogwr – a diolch yn fawr iawn hefyd i staff Gwarchodfa Natur Cynffig.

Roedd y safon yn uchel iawn eleni ac fe hoffai Athro’r Ardd ddiolch i’r holl ysgolion sydd wedi sicrhau llwyddiant yr ymchwiliad hwn! Dyma’r ysgolion a’r plant sy’n cael eu haddysgu gartref a ddaeth i’r brig.

1af: Ysgol Iau Pentrepoeth, Treforys, Abertawe. Dan arweiniad yr athrawes Kay Mills. Gwobr: Taith i’r Really Welsh Farm a Gwarchodfa Natur Cynffig. 

2il: Ysgol Gynradd Glyncollen hefyd o Dreforys, Abertawe. Dan arweiniad yr athrawes Ann Richards. Gwobr: Ysbienddrych digidol.

Buddugwyr plant sy’n derbyn addysg yn y cartref: Mae’r teulu Jones o Landrindod a’r teulu Butterworth o Sir Gaerfyrddin wedi dangos llawer o ymroddiad gyda’u gwaith cofnodi. Gwobr: Taith i’r Really Welsh Farm a Gwarchodfa Natur Cynffig. 

Ysgolion a gafodd ganmoliaeth uchel: Ysgol Nant Y Coed, Ysgol Talhaiarn, Ysgol Howells Llandaf, Ysgol y Ffridd, Ysgol Porth y Felin, Ysgol Gymunedol Doc Penfro, Ysgol Penycae (Ystradgynlais) Gwobrau: Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac eginblanhigion i’w hysgol.

Ysgolion a gafodd ganmoliaeth am eu hymroddiad a’u cofnodion da: Ysgol Gynradd Deganwy, Ysgol Iau Aberdaugleddau, Ysgol Gatholig Joseff Sant, Coleg Powys, Glan Conwy, Ysgol Iau Hen Golwyn, Ysgol Pen y Garth, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Bishop Childs, Ysgol Iau Murch, Ysgol Gynradd Newton, Ysgol Gynradd Oakfield, Ysgol Gynradd Windsor Clive, Ysgol Gynradd Brynconin, Ysgol Gynradd Deganwy. Gwobrau: Pob disgybl i dderbyn tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych ac eginblanhigion i’w hysgol.

Blodau hwyr = adroddiad hwyr: Fel arfer, erbyn yr adeg hon o’r flwyddyn rydym yn gallu dyddiadau blodeuo eleni gyda’r rhai a gofnodwyd yn y blynyddoedd blaenorol, ond gan fod y tywydd wedi bod mor oer, rydym yn dal i dderbyn rhai cofnodion. Dros yr wythnosau nesaf, bydd Athro’r Ardd yn gweithio ar yr adroddiad hwn a’i gyhoeddi ar wefan Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau

 

 

 

 

Gardd Llechi

Postiwyd gan Ffion James ar 20 Ebrill 2010
4-2-2010 Penderfynom greu ein gardd newydd mewn cornel ar ein safle, drws nesaf i'r caffi. Edrychwch - doedd yna ddim byd o gwbl yma!
10.2.2010 Peiriannau'n gweithio ar y safle
25.3.2010 Y gweithwyr yn gosod y 'sleepers' pren.
9-4-2010 Gosod y llwybr...
» View full post to see all images

Dechreuodd y gwaith cynllunio a pharatoi ar gyfer yr Ardd Lechi cyn y Nadolig, ond cychwynodd y gwaith caled ar yr ardd ei hun yn ôl ym mis Chwefror. Bûm yn cydweithio gyda Gwasanaethau Preswyl a Dydd Cyngor Gwynedd er mwyn creu yr ardd, a dyma i chi rai o luniau'r gweithwyr wrthi'n ddyfal trwy gydol y broses o greu ein gardd.

Mae'r lluniau isod yn dangos y broses gyfan o greu yr ardd, o'r dechrau i'r diwedd.

Rydym wrth ein boddau gyda'n Gardd Llechi ac yn gobeithio y cewch chithau gyfle i ddod am dro i Lanberis i fwynhau'r ardd hefyd!

 

 

Tudor portraits and Tudor Patterns

Postiwyd gan Sian Lile-Pastore ar 12 Ebrill 2010

We have been busy making Tudor patterns and Tudor portraits! The plan was that visitors could paint a tudor portrait in the Church and a frame for their portrait in Oriel 1. As the portraits were a little bit tricky to make the activity was suitable for ages 7 and up, but littler ones could still get to work on those patterns!

So here are some frames ready for a portrait to be placed inside them...

... and here are some wonderful framed portraits!

Lots of you made some beautiful patterns inspired by the murals in the church....

...and then there were a couple that perhaps weren't so tudor inspired but were wonderful nonetheless.

Calling all peregrine watchers!

Postiwyd gan Ciara Hand ar 6 Ebrill 2010

The Peregrines on the Clock Tower viewing scheme is now open. 

The RSPB will be showing you the Peregrines on the live nest camera in the main hall of the National Museum Cardiff from now until the end of August.

On certain days there will also be an information marquee outside the museum, where you can get an even closer view of the birds with telescopes.

Don't miss out on any of the action! 

Cennin pasg!

Postiwyd gan Danielle Cowell ar 1 Ebrill 2010

Finally, my daffodils opened on the 28th of March. Here are a few pictures. Many more have now opened in the schools across Wales. Happy Easter!

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.