Amgueddfa Cymru

Hafan

Mae bron i 50 o adeiladau hanesyddol yma’n Sain Ffagan. Fel staff, mae gennym ni’n hoff rai. Dweud y gwir, mae gen i sawl categori o hoff adeiladau - yr adeilad hefo fy hoff stori, y tŷ yr hoffwn i fyw ynddo fo fwyaf, fy hoff yn ei gyfnod dehongli ac ati. Ar gyfer taith ffefrynnau, roedd angen i mi ystyried hyn i gyd, dewis fy ffefrynnau, yna mynd ac ymwelwyr ar daith o’u cwmpas.

Ar ôl cysidro, a newid fy meddwl ychydig o weithiau, gwnes benderfyniad. Dewisais y Tolldy, gyda’i gysylltiadau i hanes cymdeithasol a gwleidyddol cyfoethog ac anhygoel o ddiddorol. Yna Nantwallter, sydd â stori wych i’w adrodd, a Llainfadyn, o ran o Gymru sydd ddim yn rhy bell o fy milltir sgwâr. Sylwais hefyd fod cysylltiadau rhwng y tri, ac nid yn unig eu cyfnod dehongli.

Adeiladwyd waliau Nantwallter allan o glom, sef cymysgedd o wellt, clai a cherrig mân, wedi ei bacio mewn haenau. Pan oedd y tŷ yn cael ei dynnu i lawr, daethpwyd o hyd i ddarn o bapur newydd yn y wal. Arno, roedd hysbyseb ar gyfer lle ar y Halton Castle, llong a oedd am hwylio ar y 25ain o Ebrill am Batagonia, y ‘wladychfa Gymreig’, yn 1865. Ni hwyliodd y llong yma ond yn ei lle, hwyliodd y Mimosa. Mae’n beth anhygoel i ddod ar ei draws. Fedrwn i ddim peidio dychmygu os aeth y darn yma o bapur a nhw am ennyd ar fordaith, o orllewin Cymru i diroedd pell i ffwrdd, cyn llenwi’r twll yn y wal.

Yr adeilad nesaf oedd Llainfadyn, bwthyn chwarelwr o Rostryfan ar gyrion Eryri, a ddim yn rhy bell o ble gefais i fy magu. Roedd yn gyfle i mi drafod y chwareli, a dod a’r Gogledd i lawr i Sain Ffagan. Mae digonedd o ddodrefn ac eitemau diddorol wedi eu gwneud o lechi y tu mewn hefyd. Roeddwn i wedi bod yn cerdded yn ddiweddar yn agos i’r ardal o ble daw’r tŷ yn wreiddiol felly dangosais ambell lun wedi ei dynnu ar y daith, ai dyma’r golygfeydd welodd chwarelwyr Llaindafyn a’r ardal ar eu ffordd i’r gwaith yn y chwarel? Aeth y teulu a oedd yn byw yno ar droad yr 20fed Ganrif i fyw i America, i weithio yn chwareli Vermont tra roedd y diwydiant yn cilio yma yng Nhgymru.

Mae’r Tolldy o Aberystwyth yn cynrychioli gorffennol aflonydd, ac mae’n gyfle i ddweud stori sydd yn llawn anghydraddoldeb a thensiwn yn yr 1840au. Roedd yn rhaid i ffermwyr dalu tollau gormodol, fwy nac unwaith ar un taith. Ar ben trethi, rhent a degwm yn daladwy i eglwys nad oeddent yn perthyn iddo, roedd yn ormod, crynhodd y tensiwn ac ymosododd Ferched Beca ar y tolldai. Ymosodwyd ar y tlotai hefyd, ac aeth y blwch rhwng y ffermwyr a’r tir-feddianwyr yn fwy fyth. Roedd bod y tu fewn i’r Tolldy yn Sain Ffagan yn gwneud i chi feddwl am y rheini oedd yn cadw’r tolldai, ac eu safbwynt nhw. Cosbwyd arweinwyr y terfysg yn llym, gyda rhai yn cael eu halltudio i Awstralia.

Beth daniodd fy nychymyg i, oedd gweld yr hanesion a’r straeon cyfarwydd, bywyd dydd i ddydd y bobl a oedd yn byw yn yr adeiladau yma, wrth edrych yn agosach, yn cael eu taflu i’w cyd-destun ehangach ac i ben draw’r byd. Hanes y ffermwyr yn cysylltu gyda anghyfiawnderau cymdeithasol y 19eg ganrif, a’r ymgyrchu a newidiadau gwleidyddol a oedd ynghlwm. Ond hefyd, y gwrthgyferbyniad rhwng y cartrefi cyfarwydd o ardaloedd cyfarwydd yn Nghymru, a’u cysylltiadau sy’n cyrraedd gwledydd ar gyfandiroedd ar draws y byd. A gadwon nhw ‘chydig bach o’r ‘adref’ cyfarwydd yma, yr adref sy’n cael ei gynrychioli yma’n Sain Ffagan, gyda nhw – ar diroedd pell eu byd newydd ar ben eu taith. 

Yn wobr am gymryd rhan ym mhroject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2014-15 enillodd Ysgol Gynradd Santes Ffraid yn Sir Ddinbych daith i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Gweithiodd dosbarth blwyddyn 6 yn galed iawn ar y project eleni gan gymryd mesuriadau dyddiol a’u cofnodi ar wefan Amgueddfa Cymru yn wythnosol. Gofalodd pob disgybl am ei blanhigion a chofnodi eu dyddiau blodeuo a’u taldra ar y wefan.

Gwaith anodd oedd dewis enillwyr eleni oherwydd bod sawl ysgol wedi darparu cofnodion tywydd oedd bron yn gyflawn. Er mwyn dewis yn deg, rhoddwyd enwau’r ysgolion gorau i gyd mewn het cyn tynnu enillydd ar hap ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban. Derbyniodd yr ysgolion oedd yn dal yn yr het docynnau gwerth £40 i wario ar offer garddio ar gyfer yr ysgol. Dyma’r ysgolion gyda ‘chlod uchel’ yn derbyn pecynnau Adnodd Addysg y Ddôl Drefol a hadau ar gyfer y ddôl. Er mwyn cydnabod eu gwaith gwych yn helpu Amgueddfa Cymru gyda’r ymchwiliad, derbyniodd bob ysgol a gyflwynodd eu data dystysgrifau Gwyddonwyr Gwych a phensiliau.

Ymwelodd disgyblion Santes Ffraid â Llanberis ar 22 Mai, a chael eu croesawu gan Dafydd Roberts, Ceidwad yr Amgueddfa, a fi, Cydlynydd Project Bylbiau’r Gwanwyn. Dyma ni’n trafod canlyniadau project 2014-15 ac yn eu cymharu â blynyddoedd blaenorol. Gallwch chi astudio adroddiad 2005-2015 yma.

Yna dyma ni’n cael ein harwain at Dai Chwarelwyr Fron Haul a mwynhau gwrando ar Wyn Lloyd-Hughes yn esbonio sut y byddai bywyd y trigolion wedi newid dros 100 mlynedd. Roedd e’n wych yn dod â hanesion trigolion bro’r chwareli yn fyw i ni a dyma’r plant yn mwynhau chwilio drwy’r tai a thrafod y newid yn y dodrefn rhwng 1861, 1901 a 1969.

Wedi gadael Fron Haul, dyma ni’n rhuthro draw i’r iard i wylio ffilm fer am hanes diwydiant llechi gogledd Cymru –  ‘Dwyn y Mynydd’. Wrth wylio’r ffilm llawn naws yn y tywyllwch aeth y dosbarth i gyd yn dawel, ond dyma nhw’n neidio yn ystod y digwyddiadau dramatig (swnllyd). Wedi hyn dyma’r grŵp yn gwylio Carwyn Price, yn hollti a naddu llechi i siâp calon. Dyma fe’n dangos esiamplau o gelf wedi’i greu yn yr un dull, fel gwyntyll a llwyau caru. Roedd Carwyn yn barod i roi cyfle i rywun roi cynnig ar hollti llechi a dyma’r plant yn enwebu eu hathro, Mr Madog! Roedd e’n dda iawn a’r plant yn gweiddi eu cefnogaeth!

Yna, dyma Peredur Hughes yn mynd â ni i weld olwyn ddŵr yr Amgueddfa gan esbonio sut mae hi’n troi a sut y byddai’r pŵer yn cael ei ddefnyddio i droi peiriannau yng ngweithdai Gilfach Ddu. Gyda diamedr o 15.4 metr, dyma’r olwyn ddŵr fwyaf ar dir mawr Prydain, ac roedd mewn defnydd rhwng 1870 a 1925 pan ddaeth olwyn Pelton i gymryd ei lle. Mae sefyll dan yr olwyn wrth iddi droi, gyda’r dŵr yn tasgu a’r metel yn gwegian, yn brofiad a hanner ac mae’n gwneud i chi werthfawrogi sgiliau dylunio ac adeiladu’r peirianwyr. Fel rhan o broject Bylbiau’r Gwanwyn mae’r ysgolion yn derbyn adnoddau i sbarduno trafodaeth am newid hinsawdd a ffynonellau ynni – roedd gweld olwyn ddŵr anferth wrth ei gwaith yn helpu’r plant i ddeall y gwaith hwnnw’n well.

Ar ôl cinio cyflym dyma fynd i’r chwarel ar gyfer y gweithgareddau natur. Dyma ddechrau drwy drafod beth oedd i’w weld a’i glywed, ei gyffwrdd a’i arogli yn y coetir. Yna dyma ni’n mynd i chwilio am fwystfilod bach a thrafod sut i ddosbarthu gwahanol rywogaethau a hoff gynefinoedd y bwystfilod. Ar ôl creu ‘persawr y goedwig’ a dysgu sawl coes sydd gan wrachen ludw a’u bod nhw’n codi cyfog ar fechgyn a merched dyma symud at y dasg nesaf – creu nyth! Gweithiodd y plant yn galed iawn, fel y galwch chi weld o faint y brigau/coed yr oedden nhw’n symud gyda’u pigau (dwi’n siŵr bod rhywun wedi bod yn twyllo!). Roedd e’n llawer o hwyl ac yn gyfle gwych i dynnu lluniau.

Daeth Peredur i gyfarfod â ni wrth Chwarel Vivian ac esbonio ychydig o’i hanes i ni, gan ddangos y clogwyni llechi ac esbonio arwyneb y graig a sut fyddai’r chwarelwyr yn gweithio. Dyma fe’n esbonio’r geiriau y byddai’r chwarelwr yn ei ddefnyddio i ddisgrifio gwahanol fathau o lechi, a’r prosesau daeareg a ffurfiodd y graig. Dysgodd y plant sut i adnabod ‘trwyn’ a ‘chefn crwn’ a sut oedd hyn yn helpu’r chwarelwr i ddehongli’r graig, a’i drin i gael y canlyniadau gorau, a lleihau risg drwy ragweld sut byddai’r graig yn chwalu. Roedd hi’n sgwrs ddiddorol mewn lleoliad prydferth, ac yn ddiwedd hyfryd i’r diwrnod.

Dyma fi’n mwynhau cwrdd â disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Santes Ffraid a diolch yn bersonol iddyn nhw am eu cyfraniad i broject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion. Roedd yn ddiwrnod gwych a hoffwn i ddiolch i staff Amgueddfa Lechi Cymru am eu croeso, eu hamser, a’u hymdrech.

Mae amser o hyd i ysgolion yng Nghymru wneud cais i gymryd rhan ym mhroject Bylbiau’r Gwanwyn 2015-16. Bydd cyfle i’r enillwyr fwynhau taith wych yn llawn gweithgareddau byd natur yn un o leoliadau agosaf Amgueddfa Cymru.

Er mwyn ymgeisio, ewch i: http://www.amgueddfacymru.ac.uk/bylbiau-gwanwyn/


Mae ceisiadau ar gyfer ysgolion yn Lloegr a’r Alban bellach wedi cau, ond gall ysgolion sydd â diddordeb ganfod gwybodaeth am broject 2016-17 ar wefan Ymddiriedolaeth Edina.


Astudiaeth newid hinsawdd ar dir eich ysgol!
Daearyddiaeth & Gwyddoniaeth (CA2)


Defnyddiwch eich dosbarth awyr agored! Ymunwch â'r 175 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf arbennig hwn!


Mae Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn rhoi cyfle i ddisgyblion cynradd fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o rwydwaith gwylio'r gwanwyn. Caiff pob disgybl fwlb Cennin Pedr Dinbych, Crocws ac photyn gardd er mwyn cofnodi'r tyfiant a'r amserau blodeuo.

Trwy gasglu a chymharu data mae disgyblion yn darganfod sut mae'r newid yn ein hinsawdd yn effeithio ar ein tymhorau, a beth mae hyn yn ei olygu i ni ac i'r natur o'n cwmpas. Mae disgyblion yn cymryd rhan yn Her Athro'r Ardd i gael tystysgrif gwyddonydd gwych.

Gall ysgolion ledled Cymru gymryd rhan gan bod y canlyniadau yn cael eu casglu drwy'r we (neu'r post os oes rhaid). Mae'r prosiect yn un parhaus a gall ysgolion gymryd rhan yn flynyddol.

Er mwyn gwneud cais i gymryd rhan yn Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2015-2016 llenwch y ffurflen gais ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.

Ceisiadau nawr ar agor ond mae niferoedd yn gyfyngedig felly wnewch gais yn fuan i sicrhau eich lle ar y prosiect! Ceisiadau ar agor i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae’r dyddiad cau wedi pasio ar gyfer ysgolion o’r Alban a Lloegr ond mae croeso i chi gysylltu ag Ymddiriedolaeth Edina am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y project yn 2016-2017.

Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais.

E-bost SCAN


Astudiaeth newid hinsawdd ar dir eich ysgol!
Daearyddiaeth & Gwyddoniaeth (CA2)


Defnyddiwch eich dosbarth awyr agored! Ymunwch â'r 175 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf arbennig hwn!


Mae Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn rhoi cyfle i ddisgyblion cynradd fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o rwydwaith gwylio'r gwanwyn. Caiff pob disgybl fwlb Cennin Pedr Dinbych, Crocws ac photyn gardd er mwyn cofnodi'r tyfiant a'r amserau blodeuo.

Trwy gasglu a chymharu data mae disgyblion yn darganfod sut mae'r newid yn ein hinsawdd yn effeithio ar ein tymhorau, a beth mae hyn yn ei olygu i ni ac i'r natur o'n cwmpas. Mae disgyblion yn cymryd rhan yn Her Athro'r Ardd i gael tystysgrif gwyddonydd gwych.

Gall ysgolion ledled Cymru gymryd rhan gan bod y canlyniadau yn cael eu casglu drwy'r we (neu'r post os oes rhaid). Mae'r prosiect yn un parhaus a gall ysgolion gymryd rhan yn flynyddol.

Er mwyn gwneud cais i gymryd rhan yn Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion 2015-2016 llenwch y ffurflen gais ar-lein drwy ddilyn y ddolen isod.

Ceisiadau nawr ar agor ond mae niferoedd yn gyfyngedig felly wnewch gais yn fuan i sicrhau eich lle ar y prosiect! Ceisiadau ar agor i ysgolion yng Nghymru yn unig. Mae’r dyddiad cau wedi pasio ar gyfer ysgolion o’r Alban a Lloegr ond mae croeso i chi gysylltu ag Ymddiriedolaeth Edina am wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn y project yn 2016-2017.

Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais.

E-bost SCAN