Rydych chi yn:  > 

Tachwedd 2009

Plannu coeden gyda Tree o'clock

Postiwyd gan Chris Owen ar 23 Tachwedd 2009

[delwedd: ]

[delwedd: ]

Gyda dyfodiad y gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm wythnos diwethaf dwi'n ymbaratoi at ddiwedd yr hydref a dechrau'r gaeaf. Mae'n drueni gorfod ffarwelio â'r tywydd mwyn a bydd colled ar ôl lliwiau cynnes y dail yn Sain Ffagan. Ond mae'r tywydd garw wedi llarpio'r coed o'u dail sy'n gorwedd yn swp ar lawr.

Er nad ydynt ar eu prydferthaf, ar goed byddaf yn canolbwyntio wrth ddathlu Wythnos Genedlaethol y Goeden. Dros benwythnos olaf Tachwedd edrychwn ar y gwahanol fathau o goed yn Sain Ffagan a'u hadnabod wrth graffu ar y dail, yr hadau, y rhisgl a'r blagur. Bydd yr RSPB yma hefyd yn cynnal gweithgareddau sy'n ystyried pwysigrwydd y coed i'n hadar brodorol. Gan son am adar mae'r bwydo adar-gam yn brysyr iawn ar y foment, ac fe allwch dilyn y datblygiadau diweddaraf trwy'r tudalen Twitter yma

.

Dewch i ymuno â ni ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr pan fyddwn yn ceisio gosod record newydd y byd yn Llyfr Guinness ar gyfer plannu'r nifer uchaf o goed mewn awr. Mae'r ymdrech ar y cyd â llefydd i natur y BBC. Gallwch aros wedyn i greu addurniadau Nadolig cynaliadwy o'r perthi yn y T? Gwyrdd.

Nadolig cynaliadwy hefyd fydd thema fy ngweithgareddau yn y

Egin yn barod?

Postiwyd gan Danielle Cowell ar 19 Tachwedd 2009

[delwedd: ]

Llun gan Pentrepoeth Junior school - Egin cyntaf - 15 Tachwedd 2009

[delwedd: ]

Llun llynedd. Cennin Pedr yw'r rhai mwyaf. 10/02/09

Gofynnodd disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yng Nghaerdydd: 'Pryd bydd y bylbiau'n egino?'

Fel arfer 'nid tan ar ôl Nadolig' fyddai f'ateb ond mae rhai wedi dechrau egino'n barod.

Dywedodd disgyblion o Ysgol Gynradd Pentre-poeth yn Abertawe: 'Cawsom syndod o weld egin ac erbyn hyn gwelsom rai yn y gwelyau blodau. Dyma lun i chi eu gweld.'

O edrych ar y llun er nad wyf gant y cant yn si?r maent yn ymddangos fel egin cennin Pedr. Edrychwch ar fy llun o'r llynedd - beth ydych chi'n ei feddwl?

Gadewch sylwadau os gwelwch unrhyw egin cynnar. Danfon lluniau at scan@aocc.ac.uk

Diolch, Athro'r Ardd

Pop Peth Music & Me

Postiwyd gan Sian Lile-Pastore ar 17 Tachwedd 2009

The Pop Peth exhbition in Oriel 1, St Fagans:National history Museum ends on January 10th, so there's still time to come and look at Gari Melville's superb collection of memorabilia, play Llwybr Llaethog's keyboard, see how a fanzine is made, learn about Spillers Records, watch music videos and leave your memories of your best gig ever!

We've been getting some lovely memories of best gigs and here are a few of my favourites....

Ashley McAvoy went to see Super Furry Animals in Clwb Ifor Bach in 1994, Nicola Stingl walked into Stuart Cable (previously of Stereophonics), Liz Magee saw The Beatles in the early 1960s but couldn't hear them because of all the screaming, Irwin Richards played tambourine with Supertramp (even though he wasn't invited to...), Beth Thomas saw CSN&Y, The Band and Joni Mitchell in Wembley in 1974, Jared lost his shoe at an Oasis concert in 1996, and lost three days in Glastonbury...Kevin Williams sat next to Robert Plant for an entire football match (Barry Town v UWIC), Stu saw Lift to Experience in Barfly in 2002, and as well as walking into Stuart Cable, Nicola Stingl also goes out with the guitarist in Through Solace. And my absolute favourite of today's bunch of best gigs goes to Laura Kemp who saw Motley Crue in the Cardiff International Arena in 2005 and writes 'I fainted when I saw Nikki Sixx for the first time.'

Dychwelyd gweddillion ysgerbydol Maori adref

Postiwyd gan Michael Houlihan ar 16 Tachwedd 2009

Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyda seremoni breifat yn cael ei chynnal ar gyfer paratoi gweddillion ysgerbydol 12 Maori ar gyfer cael eu dychwelyd adref o Gymru i Seland Newydd. Dyma’r tro cyntaf mae’r Amgueddfa wedi cynnal seremoni o’r fath, a credaf ei bod yn bwysig fod y gweddillion yn cael eu dychwelyd adref. Mae’r seremoni yn sicr yn wahanol iawn i’r math yr ydyn yn arfer eu gweld yma! Mae’r seremoni, sy’n rhan o Karanga Aotearoa - awdurdod mandad llywodraeth Seland Newydd sy’n trefnu dychwelyd gweddillion Mäori ar ran y Mäoriaid, yn para tuag awr. Cyn i’r gweddillion gael eu lapio, bydd galwad yn cael ei llafarganu fel cydnabyddiaeth i’r k?iwi tangata. Wedyn caiff y köiwi tangata eu cyfarch.

Ar ôl gweddi i gloi, bydd pob cyfrannwr i’r seremoni yn cyffwrdd trwynau ac yn taenu d?r dros eu pennau a’u cyrff. Rwyf yn fawr obeithio y bydd hyn yn rhoddi cyfle i ni ddatblygu perthynas gyda’r Amgueddfa Te Papa ar gyfer cydweithio’n mhellach yn y dyfodol.

Miloedd o wyddonwyr ifainc yn astudio'r newid yn yr hinsawdd

Postiwyd gan Danielle Cowell ar 9 Tachwedd 2009

[delwedd: ]

Ysgol Gynradd Penllwyn - yn ystod eu taith fuddugol i fferm cennin Pedr y cwmni Really Welsh

[delwedd: ]

Disgyblion Ysgol Gymunedol Doc Penfro

[delwedd: ]

Disgyblion yn plannu yn Ysgol Hubberston (Sir Benfro)

[delwedd: ]

Rhai sy'n cael eu haddysgu gartref yn dysgu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

» View full post to see all images

Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda 3,600 o wyddonwyr ifainc i archwilio a deall y newid yn yr hinsawdd.

Yn ddiweddar mae bylbiau, potiau ac adnoddau wedi cyrraedd ysgolion a phobl sy'n cael eu haddysgu gartref ledled Cymru yn barod am y diwrnod plannu ar 20 Hydref. Mae rhai ysgolion wedi anfon ffotos hyfryd atom gan ddweud cymaint o gyffro oedd ymhlith y plant.

O nawr tan ddiwedd Mawrth 2010 bydd pob gwyddonydd ifanc yn cofnodi'r tywydd a dyddiadau blodeuo'r bylbiau cennin Pedr a saffrwm fel rhan o astudiaeth hir dymor o effeithiau newidiadau yn y tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn. Dechreuodd yr astudiaeth yn 2005 a gobeithio bydd yn para am flynyddoedd lawer i ddod. I weld y canlyniadau hyd yn hyn neu i ymgofrestru am y flwyddyn nesaf ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau

Bydd pob disgybl yn gweithio drwy dasgiau Athro'r Ardd cyn cael Tystysgrif Gwyddonydd Gwych. Bydd yr ysgol orau'n ennill taith i fferm cennin Pedr y cwmni Really Welsh a Gwarchodfa Natur Cynffig. Rhodd ar gyfer yr arbrawf hwn gan y cwmni Really Welsh yw'r holl gennin Pedr sydd wedi'u tyfu yng Nghynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Cadwch lygad barcud ar y blog i weld adroddiadau ac arsylliadau'r ysgolion neu yn y gwanwyn cewch weld y dyddiadur â lluniau.

Beth am anfon cwestiwn at Athro'r Ardd? Byddai wrth ei fodd yn clywed gennych.

Werth ei weld

Postiwyd gan Michael Houlihan ar 5 Tachwedd 2009

[delwedd: ]

Mae darlun Rembrandt o Catrina Hooghsaet i'w weld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o heddiw tan yr 21ain o Fawrth flwyddyn nesaf. Rydym wrth ein boddau ei gael yma, ac rydym yn hynod ddiolchgar i fod wedi cael ei fenthyg gan Gastell Penrhyn yng Ngogledd Cymru. Mae'r gyfle arbennig i'r Amgueddfa, ac rwyf yn siwr y bydd yn atyniad poblogaidd.

Disgrifiodd Prif Weinidog Cymru Rhodri Morgan fel llwyddiant mawr i Gaerdydd, gan ddweud: "Mae Rembrandt yn ffigwr aruchel mewn hanes celf. Nesaf at gael benthyg Mona Lisa, ni allaf feddwl am atyniad gwell y mae'n rhaid ei gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol." Wel, dyma un ymwelydd hapus. Cofiwch ddod yma i'w weld drostoch eich hunain!

Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2009 yn Big Pit

Postiwyd gan Rhodri Viney ar 2 Tachwedd 2009

[delwedd: National Poetry Day 2009, Big Pit]

[delwedd: ]

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ym mis Hydref 2009 roedd bardd preswyl Big Pit, Mike Jenkins, yn annog ymwelwyr i gyfrannu at Gerdd Big Pit. Thema Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth oedd arwyr ac arwresau. Ysgrifennodd y cyfranwyr am y bobl arwrol a fu'n gweithio'n galed yn y pyllau glo.

Cyfrannodd tair ysgol: Ysgol Gynradd Goetre ym Merthyr Tudful, Ysgol Gynradd Heol y Frenhines yn Abertyleri ac Ysgol Uwchradd Oldbury Wells yn Swydd Amwythig. Rhoddodd Mike gopi llofnodedig o'i lyfr o gerddi i blant Poems for Underage Thinkers i'r dosbarthiadau iau am eu hymdrechion gwiw.

Dyma'r oedolion a fu'n barddoni:

Mike Tanner o Flaenafon, Justin Hamilton o Kilbirnie, Derek Edmondson o Woodford, Mr a Mrs Gilbert o Little Witcombe a staff Big Pit.

Am fwy o wybodaeth am farddoniaeth a rhyddiaith arobryn Mike ewch i www.mikejenkins.net.

BIG BIG PIT POEM
A communal poem created at Big Pit on National Poetry Day 2009

Underground what will we see?
Underground is dangerous
Ponies hauled dram after dram 
Thrusters and hurriers pushing tram after tram 
Pickers hitting as hard as they can 
Children crying and crying.
The canary was a warning.
Lots of water on the ground
It was leaking into the pit 
Getting deeper and deeper.
It was dark like night when the lights went out,
It was scary. Slippery like water.
The cage went fast then slow. 
Down the pit there were tracks.
Struggling by the light of lamps. 
The axes and sledgehammers were dirty as muddy water.
Some were very old.

The men were heroes because they worked twelve hard hours.
The fireman who risked himself to save his workmate’s face,
After a fall, threw himself down to protect his friend.
The horses were heroes because they saved people.
Masks protected the ponies’ faces, some of the ponies died.
Seventy two worked down the mine.
Many of them became blind.
The miner had to pull the drams. 
The girls were heroines because they helped.
Dad and son worked side by side 
Deprived of sunlight from day to day.
Some men died.
Some men cried. 
Coughing up black dust 
Working like navvies from dawn till dusk.
Mothers sad when there was an explosion.
A message home when there’s no hope left
Scratched into a bottle.
Day and night death always occurred.

But everyone pulled together
Washing away the day’s toil. 
A hot bath, joke and a laugh.
To the hole in the wall, have a fag
Desperate for that first drag.

Figures hunched against the driving rain
Thirsting for the hoppy nectar 
To soothe away the pain.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.