Rydych chi yn:  > 

Ionawr 2009

Bwydwch yr adar!

Postiwyd gan Gareth Bonello ar 20 Ionawr 2009

[delwedd: ]

[delwedd: ]

Mae’r dyddiau’n fyr, mae’r glaw yn oer, mae rhew ar y dail ac mae’r gwynt yn rhewi ’nhrwyn; mae’n rhaid ei bod hi’n fis Ionawr! Ond mae’r oerfel yn cael effaith ar greaduriaid eraill heblaw am bobl. Mae’n rhaid i adar fwyta llawer mwy yn ystod misoedd y gaeaf i gadw rhag rhewi i farwolaeth yn y nos. Edrychwch ar y i weld pa mor brysur yw hi!

Mae’r gaeaf yn amser gwych i ddenu adar i’ch gardd gan eu bod yn llai swil wrth ddod i gael bwyd. Efallai y byddwch chi’n denu rhai rhywogaethau nad ydynt yn ymweld â bwydwyr gardd fel arfer.

Mae yna gyngor ardderchog am ddenu adar i’ch gardd ar wefan yr RSPB, a thra eich bod chi yno beth am ymuno â Gwylfa Adar yr Ardd y penwythnos hwn? Gallwch gymryd rhan yn arolwg adar mwya’r byd o gysur eich ystafell fyw!

St Teilo's Church - the book

Postiwyd gan Mari Gordon ar 14 Ionawr 2009

We're getting really stuck in now. We've had a complete set of pages, which is our chance to move or replace any images, or perhaps move pages around. Once we've done that the layout is set in stone and we start proofreading. While we proofread the English, the designer will work on the Welsh pages - that's why it's important that nothing moves around after we've agreed on the layout!

We had some new external shots of the church done, so that we'd have a wider choice to try out for the cover. I think we're pretty close to deciding on the image. And I think the title is decided too:

Saving St Teilo's: bringing a medieval church to life.

I hope it's a strong title, and I like the fact that we get the name 'St Teilo's' right in there at the beginning!

We're also moving ahead with the launch event. It will be in the spring, March or maybe April. It should be a lovely event, it will be lighter then - and warmer!

Dyddiadur Lluniau Crocws

Postiwyd gan Gareth Bonello ar 12 Ionawr 2009

Dyma Ddyddiadur Lluniau fy Nghrocws.

Bob wythnos, byddaf i'n postio lluniau newydd o flodau'r Crocws wrth iddyn nhw dyfu. Cymharwch nhw â'ch lluniau chi.

Ionawr 19fed - Dyma'r llun cyntaf, mae'r blagur yn dechrau codi uwchben y pridd. Ydy eich blagur chi wedi dechrau tyfu eto?

[delwedd: ]

Blagur Crocws 19/01/09

Ionawr 15fed - Mi oeddwn yn gallu gweld pennau'r blagur yn codi uwchben y pridd am y tro cyntaf y bore yma. Dewch nol wythnos nesaf i weld y lluniau!

Athro’r Ardd

Nol at Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.