Rydych chi yn:  > 

Casglwyr a Chasgliadau

Mehefin 2008

O'r diwedd

Postiwyd gan Gareth Bonello ar 9 Mehefin 2008

O'r diwedd, dwi'n gallu canolbwyntio am hanner awr ar sgwennu'r blog yma, y blog cyntaf ers dros chwe mis. Y prif reswm fod gen i amser i sgwennu ydi fy mod wedi stopio gweithio dau ddiwrnod yr wythnos yn Oriel 1, felly rwy'n araf bach ddal i fyny gyda'r gwaith curadurol oedd yn dioddef oherwydd y ddau ddwrnod coll yna.

Ers y blog diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio ar ardddangosfeydd Saethyddiaeth, Meddygol, Yr Urdd, Pop ac Eidalwyr yng Nghymru.

Dwi hefyd wedi bod yn ceisio cydlynu digwyddiadau Sain Ffagan ar gyfer 2009, pryd mai Cerddoriaeth fydd y thema, a gweithio ar y Ddresel Gymunedol nesaf, pryd bydd Clwb Bocsio Cwm Carn yn dangos eu metel.

Dwi hefyd wedi mynychu sawl cynhadledd, yn Stockholm, Llundain, Birmingham, Bolton a Llandrindod, wedi dysgu llawer, ac wedi rhannu profiadau am faterion casglu cyfoes. Mae drafft o Gynllun Casglu Cyfoes yr amgueddfa wedi ei anfon at fy nghyd-guraduron, a caiff ei drafod mewn cyfarfod ar ddiwedd y mis.

Dwi dal heb dderbynodi gwrthrych eto, sydd ychydig yn rhwystredig. Yn rhannol, da ni dal yn disgwyl canlyniad y cyfarfod uchod, ond dwi'n eithaf hyderus fy mod yn gwybod-ish beth i'w gasglu. Bydd rhaid i fi fod yn amyneddgar - wedi'r cyfan, bydd deunydd cyfoes dal o gwmpas mewn ychydig fisoedd...neu fydd yna?

Na'i drio sgwennu hwn yn fwy rheolaidd, ond, byddwch yn gwybod, os na welwch chi ddim, fydda i mor brysur yn casglu, fydd dim amser gen i. Hwyl wan.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.