Rydych chi yn:  > 
English

SCAN

Mae SCAN yn broject Amgueddfa Cymru sy'n cynorthwyo ysgolion i hyrwyddo Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.

Ionawr 2008

Dyddiadur Lluniau Crocws

Postiwyd gan Gareth Bonello ar 25 Ionawr 2008
5 Chwe 2008. Mae fy mlodau wedi agor! Rwy'n meddwl eu bod nhw'n brydferth iawn. Mae'r petalau'n lliw porffor golau — ac mae gan rai linellau lliw lelog tywyll. Welwch chi'r stigma? Hwn yw'r darn oren tywyll y tu fewn i'r petalau. Y darnau oren golau yw'r antherau.
27 Ion 2008. Mae'r planhigion ychydig gentimedrau o uchder. Fel y gwelwch chi, mae'r petalau ar gau o hyd. Maen nhw'n barod i agor unrhyw ddiwrnod nawr!
» View full post to see all images

Dyma Ddyddiadur Lluniau fy Nghrocws.

Bob wythnos, byddaf i'n postio lluniau newydd o flodau'r Crocws wrth iddyn nhw dyfu. Cymharwch nhw â'ch lluniau chi.

Cofiwch i gymryd rhan yn y Cystadleuaeth darlunio crocysaui ennill wobrau!

Athro’r Ardd

Nol at Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion