English

Amgueddfa Cymru

Hafan

Blog yr Amgueddfa

Amgueddfa Cymru

O Gymru i Seland Newydd

Dafydd James, 13 Ionawr 2010

Fel y gwelsoch efallai yn y wasg, rwyf wedi penderfynnu cymryd swydd fel Prif Weithredwr Amgueddfa Seland Newydd, Te Papa Tongarewa. Bu hyn yn benderfyniad anodd iawn i mi am nifer o resymau personol a phroffesiynol; mae’n gam mawr a dweud y lleiaf.

Bu’n anrhydedd gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi dod i werthfawrogi pa mor ganolog yw diwylliant i seice cenedlaethol Cymru, ac ni ddylid anghofio ei bwysigrwydd i gynnal cymdeithas Cymru a llunio dyfodol y genedl. Mae ein gwaith diweddar ynglyn a'r cyfraniad cadarnhal mae ein hamgueddfeydd yn ei wneud i Gymru yn tanseilio hyn, ac rydym wedi ymrwymo fel sefydliad i weithio gyda sefydliadau diwyllianol eraill i fynd a'r ymchwil yma yn ei flaen. Mae gan Gymru gyfoedd o adnoddau diwyllianol, ac mae yna waith i'w wneud i ddatblygu rhain mewn i 'frand' cadarnach fel ein bod yn medru marchnata Cymru yn fwy effeithiol, o fewn Cymru a tu hwnt. Mae yna berygl go iawn i anghofio ynglyn a diwylliant yn ystod dirwasgiad, ond mae’n hynod bwysig o ran y wlad a hefyd yr economi.

'Rwyf yn teimlo'n gyffrous am y sialensiau a’r persbectifau gwahanol y byddaf yn eu hwynebu yn y rôl newydd hon, ond heb-os bydd fy agwedd yn cael ei llunio gan fy mhrofiadau yma yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon. Ni all amgueddfeydd osgoi adrodd straeon cenedlaethol, waeth pa mor gymhleth neu ddadleuol ydyn nhw, ac mae Te Papa yn fyd-enwog am ei dull blaengar o ddangos sut mae diwylliant a chof cymunedol wedi mowldio hanes a hunaniaeth cymunedau Seland Newydd.

Ni fyddaf yn gadael yn syth. Dros y chwe mis nesaf, rwyf yn edrych ymlaen i barhau gyda’r blog hwn ac i fod yn rhan o’n holl brosiectau, gan gynnwys Sain Ffagan ac ail-ddatblygiad Adain Orllewinol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Dychwelyd gweddillion ysgerbydol Maori adref

Michael Houlihan, 16 Tachwedd 2009

Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyda seremoni breifat yn cael ei chynnal ar gyfer paratoi gweddillion ysgerbydol 12 Maori ar gyfer cael eu dychwelyd adref o Gymru i Seland Newydd. Dyma’r tro cyntaf mae’r Amgueddfa wedi cynnal seremoni o’r fath, a credaf ei bod yn bwysig fod y gweddillion yn cael eu dychwelyd adref. Mae’r seremoni yn sicr yn wahanol iawn i’r math yr ydyn yn arfer eu gweld yma! Mae’r seremoni, sy’n rhan o Karanga Aotearoa - awdurdod mandad llywodraeth Seland Newydd sy’n trefnu dychwelyd gweddillion Mäori ar ran y Mäoriaid, yn para tuag awr. Cyn i’r gweddillion gael eu lapio, bydd galwad yn cael ei llafarganu fel cydnabyddiaeth i’r k?iwi tangata. Wedyn caiff y köiwi tangata eu cyfarch.

Ar ôl gweddi i gloi, bydd pob cyfrannwr i’r seremoni yn cyffwrdd trwynau ac yn taenu d?r dros eu pennau a’u cyrff. Rwyf yn fawr obeithio y bydd hyn yn rhoddi cyfle i ni ddatblygu perthynas gyda’r Amgueddfa Te Papa ar gyfer cydweithio’n mhellach yn y dyfodol.

Helpu Cymru yn ystod y dirwasgiad

Michael Houlihan, 13 Hydref 2009

Bore yma, ynghyd a’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mi fyddaf yn lawnsio papur trafod diweddaraf Amgueddfa Cymru – Cyfraniad cadarnhaol i fywyd y genedl yng nghanol dirwasgiad. Mae’r papur wedi datblygu o dros flwyddyn o ymchwil, ac mae’n esbonio sut mae Amgueddfa Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn cefnogi economi Cymru ynghyd a chyrraedd craidd cymdeithas sydd yn gwerthfawrogi ein bod yn amddiffyn ei hunaniaeth unigryw.

Y neges glir yr ydym eisiau i bobl Cymru fod yn ymwybodol ohoni ydi ein bod yn fwy na dim ond casgliad o adeliadau ac eitemau. Mae’n gwaith yn digwydd ym mhob cornel o Cymru, drwy ein casgliad allestyn, ein hymchwil a’n gwaith gyda patneriaethau. Rydym hefyd yn cynnig cyfleodd i bobl Cymru fod yn rhan o’n gwaith. Mae nifer o gyfloedd i wirfoddoli, o brofiad gwaith i leoliadau gwaith i wirfoddoli a prentisiaethau sydd yn creu cyfleodd gwerthfawr pam mae drysau eraill yn cau.

"Rydym hefyd eisiau atgoffa pawb fod mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd cenedlaethol"

Rydym hefyd eisiau atgoffa pawb fod mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd cenedlaethol. Ar adeg pan all prisiau mynediad wahaniaethu yn erbyn pobl sydd wedi’u heffeithio waethaf gan y cyni ariannol, rydym ni’n cynnig profiadau fforddiadwy, sy’n codi’r ysbryd y gall pobl eu mwynhau ar eu liwt eu hinain neu gyda ffrindiau a pherthnasau.

Cliciwch yma i ddarllen copi o’r papur trafod. Os oes gennych unrhyw sylwadau, cwestiynnau neu syniadau, fe fyddem wrth ein bodd clywed gennych fel plis gadewch sylw ar y blog. Cofiwch alw nol yma i glywed sut aeth y lawnsiad, ac i glywed sut ymateb gafwyd i’r papur trafod.

Diweddariad y lansiad

Michael Houlihan, 13 Hydref 2009

Wel, fe gawsom ein lansiad bore 'ma ac fe fynychodd criw da o bobl. Roedd yr ymateb yn wych (a nid jest gan bod ni wedi gweini brechdanau cig moch a choffi!), ac yn sicr roedd pobl yn deall ac yn uniaethu gyda'n negeseuon ynglyn a'r dirwasgiad. Cafwyd cryn ddiddordeb gan y wasg, gyda Radio Cymru'n darlledu'n fyw ynghyd â chriw ffilmio yno ar gyfer y newyddion heno. Yn fy araith, fe ofynais y cwestiwn - 'a fedrwn ni fforddio diwylliant yn ystod dirwasgiad?' Yn sicr, mae'n anodd dirnad gwerth economaidd diwylliant o ran y genedl. Gallwn, mi allwn ni restru ambell faith a ffigwr, ond y gwir plaen ydi, mae diwylliant yn tanlinellu popeth mae cenedl fach fel Cymru'n ei wneud. I gloi felly, dadleuais na allwn fforddio i beidio buddsoddi mewn diwylliant gan ei fod yn ran hanfodol o'n hunaniaeth.

Fe fynychodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, gan ddweud ambell i air gan gynnwys ein llongyfarch ar gynhyrchu papur difyr sy'n adlewyrchu'r egni yr ydym yn ei gyfrannu drwy ein gwaith ym mhob cornel o Gymru. Dywedodd bod ein neges ecomonaidd yn hynod o amserol, gan gytuno ei bod hi'n amhosib mesur gwerth diwylliant yn unig yn nhermau economaidd. Roeddem yn lwcus iawn i'w gael yn bresennol, ac yn sicr roedd yn amlwg o wrando ar ei gyfweliadau o'r lansiad ei fod yn parchu ac yn cefnogi ein gwaith.

Dros yr wythnosau nesaf, fe fyddwn yn datblygu nifer o'r themau sydd yn y papur ynghyd a chwilio am gyfleon i ddatblygu ein cynlluniau gwirfoddoli ynghyd a'r rhai prentisiaeth. Rhaid i ni gadw momentwm i fynd, ac atgoffa pawb yng Nghymru pa mor bwysig ydi diwylliant i'r genedl. A pha mor bwysig ydi ariannu diwylliant! Byddaf yn eich diweddaru ynglyn ag unrhyw ddatblygiadau ar y blog hwn.