Amgueddfa Cymru

Hafan

Helo Cyfeillion Gwanwyn,

Dim ond wythnos i fynd cyn diwrnod plannu ar 20 Hydref! Ydych chi'n barod? Dyma rai adnoddau defnyddiol i'ch paratoi ar gyfer plannu eich bylbiau ac am ofalu amdanynt yn ystod y misoedd nesaf! Mae'r rhain hefyd ar safle we Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: http://www.amgueddfacymru.ac.uk/bylbiau-gwanwyn/

Cyn y diwrnod plannu dylech ddarllen y dogfennau hyn:

• Llythyr oddi wrth Athro'r Ardd (cyflwyniad i'r prosiect)

• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich Bylbiau)

• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg)

A chwblhawyd y gweithgareddau hyn:

• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau

• Creu Labelai Bylbiau

Mae'n bwysig eich bod yn darllen y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod pa mor ddwfn mae angen i chi blannu eich bylbiau? Neu sut i labelu fel mae’n glir lle mae'r Cennin Pedr a Chrocws wedi eu plannu?

Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu i gystadlu yn y Gystadleuaeth Ffotograffydd Diwrnod Plannu!

Pob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd!

Athro'r Ardd a Bwlb Bychan

Chalkie Davies: Ei Stamp ar yr NME

Mae'r arddangosfa wedi dod i ben ac felly mae'n amser datgan pwy sydd wedi ennill ein cystadleuaeth! Roedd yn wych gweld bod cymaint o bobol wedi ymweld a chreu gwaith wedi'i ysbrydoli gan y sioe.

Mae'r dyn ei hun wedi cael cyfle i feirniadu'r ceisiadau a rydym yn falch iawn o allu rhannu enwau'r enillwyr efo chi!

Gwobr Gyntaf:

@3gsdevtrust - Da iawn! Mae print Chalkie wedi'i lofnodi a bag rhoddion ar ei ffordd i Ymddiriedaeth Ddatblygu 3Gs, sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn ardal Gurnos, Penydarren and Dowlais. 

Ail Wobr:

@fezzer64 - rhannodd y llun o'r rebel hapus hwn ac mae'n ennill taleb Recordiau Spillers a bag rhoddion:

Trydydd Wobr:

@CaronAooper

Bydd taleb Seetickets ar ei ffordd i Aaron am ein lun gwyrdroedig a thywyll, a dynnwyd ym Mharc Cathays.

Dewisodd Chalkie 5 llun oedd hefyd yn haeddu cymeradwyaeth, felly bydd bag rhoddion yn y post i David Jones, @tflathers, @daniellestalbot, paulhurlow a @softfun - cewch weld eu lluniau, a llawer mwy, ar storify #fyllunchalkie.

Diolch yn Fawr

Diolch i bawb a gymerodd ran - cymerwch olwg ar yr holl ffotograffau yn ein storify #fyllunchalkie. Os na gawsoch chi gyfle i weld y sioe, cewch gip ar waith eiconig Chalkie yn y fideo isod:

The Natural Sciences Department at National Museum Cardiff have once again taken their 'I Spy...Nature' Pop-up museum to the Capitol Shopping Centre in Cardiff during this year's summer holidays. 

Our younger visitors were encouraged to utilise their drawing skills to draw some of the fantastic specimens from Amgueddfa Cymru Collections on display as part of a drawing competition. Examples were fossils, minerals, marine creatures, flowers and bugs from all around the world. We had some fantastic entries and it was extremely difficult to pick the winners. However, after much deliberation we eventually managed to pick a 1st, 2nd and 3rd place in three age categories (under 6, 6-9 and 10-13 years). Due to the fact that it was so hard to choose winners we also selected a couple of highly commended drawings.

Each winner will receive a natural history inspired prize from the Museum's shop and will receive a special behind the scenes tour of the museum to find out what museum scientists do and where we house the museum's natural history collections, which comprise of over 3 million specimens.

We very much look forward to welcoming our prize-winners and their families to the museum.

Mae bron i 50 o adeiladau hanesyddol yma’n Sain Ffagan. Fel staff, mae gennym ni’n hoff rai. Dweud y gwir, mae gen i sawl categori o hoff adeiladau - yr adeilad hefo fy hoff stori, y tŷ yr hoffwn i fyw ynddo fo fwyaf, fy hoff yn ei gyfnod dehongli ac ati. Ar gyfer taith ffefrynnau, roedd angen i mi ystyried hyn i gyd, dewis fy ffefrynnau, yna mynd ac ymwelwyr ar daith o’u cwmpas.

Ar ôl cysidro, a newid fy meddwl ychydig o weithiau, gwnes benderfyniad. Dewisais y Tolldy, gyda’i gysylltiadau i hanes cymdeithasol a gwleidyddol cyfoethog ac anhygoel o ddiddorol. Yna Nantwallter, sydd â stori wych i’w adrodd, a Llainfadyn, o ran o Gymru sydd ddim yn rhy bell o fy milltir sgwâr. Sylwais hefyd fod cysylltiadau rhwng y tri, ac nid yn unig eu cyfnod dehongli.

Adeiladwyd waliau Nantwallter allan o glom, sef cymysgedd o wellt, clai a cherrig mân, wedi ei bacio mewn haenau. Pan oedd y tŷ yn cael ei dynnu i lawr, daethpwyd o hyd i ddarn o bapur newydd yn y wal. Arno, roedd hysbyseb ar gyfer lle ar y Halton Castle, llong a oedd am hwylio ar y 25ain o Ebrill am Batagonia, y ‘wladychfa Gymreig’, yn 1865. Ni hwyliodd y llong yma ond yn ei lle, hwyliodd y Mimosa. Mae’n beth anhygoel i ddod ar ei draws. Fedrwn i ddim peidio dychmygu os aeth y darn yma o bapur a nhw am ennyd ar fordaith, o orllewin Cymru i diroedd pell i ffwrdd, cyn llenwi’r twll yn y wal.

Yr adeilad nesaf oedd Llainfadyn, bwthyn chwarelwr o Rostryfan ar gyrion Eryri, a ddim yn rhy bell o ble gefais i fy magu. Roedd yn gyfle i mi drafod y chwareli, a dod a’r Gogledd i lawr i Sain Ffagan. Mae digonedd o ddodrefn ac eitemau diddorol wedi eu gwneud o lechi y tu mewn hefyd. Roeddwn i wedi bod yn cerdded yn ddiweddar yn agos i’r ardal o ble daw’r tŷ yn wreiddiol felly dangosais ambell lun wedi ei dynnu ar y daith, ai dyma’r golygfeydd welodd chwarelwyr Llaindafyn a’r ardal ar eu ffordd i’r gwaith yn y chwarel? Aeth y teulu a oedd yn byw yno ar droad yr 20fed Ganrif i fyw i America, i weithio yn chwareli Vermont tra roedd y diwydiant yn cilio yma yng Nhgymru.

Mae’r Tolldy o Aberystwyth yn cynrychioli gorffennol aflonydd, ac mae’n gyfle i ddweud stori sydd yn llawn anghydraddoldeb a thensiwn yn yr 1840au. Roedd yn rhaid i ffermwyr dalu tollau gormodol, fwy nac unwaith ar un taith. Ar ben trethi, rhent a degwm yn daladwy i eglwys nad oeddent yn perthyn iddo, roedd yn ormod, crynhodd y tensiwn ac ymosododd Ferched Beca ar y tolldai. Ymosodwyd ar y tlotai hefyd, ac aeth y blwch rhwng y ffermwyr a’r tir-feddianwyr yn fwy fyth. Roedd bod y tu fewn i’r Tolldy yn Sain Ffagan yn gwneud i chi feddwl am y rheini oedd yn cadw’r tolldai, ac eu safbwynt nhw. Cosbwyd arweinwyr y terfysg yn llym, gyda rhai yn cael eu halltudio i Awstralia.

Beth daniodd fy nychymyg i, oedd gweld yr hanesion a’r straeon cyfarwydd, bywyd dydd i ddydd y bobl a oedd yn byw yn yr adeiladau yma, wrth edrych yn agosach, yn cael eu taflu i’w cyd-destun ehangach ac i ben draw’r byd. Hanes y ffermwyr yn cysylltu gyda anghyfiawnderau cymdeithasol y 19eg ganrif, a’r ymgyrchu a newidiadau gwleidyddol a oedd ynghlwm. Ond hefyd, y gwrthgyferbyniad rhwng y cartrefi cyfarwydd o ardaloedd cyfarwydd yn Nghymru, a’u cysylltiadau sy’n cyrraedd gwledydd ar gyfandiroedd ar draws y byd. A gadwon nhw ‘chydig bach o’r ‘adref’ cyfarwydd yma, yr adref sy’n cael ei gynrychioli yma’n Sain Ffagan, gyda nhw – ar diroedd pell eu byd newydd ar ben eu taith.