Rydych chi yn:  > 

Addysg

Gorffennaf 2014

Gwyddonwyr Gwych Cymru

Postiwyd gan Catalena Angele ar 8 Gorffennaf 2014

[delwedd: ]

Gwyddonwyr Gwych Cymru o Ysgol Clocaenog yn Amgueddfa Lechi Cymru

 

[delwedd: ]

Yr ‘adar bach’ yn eu nyth newydd

[delwedd: ]

Hela bwystfilod bach

O’r chwe deg naw o ysgolion o Gymru a gymerodd ran yn ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion eleni, dyfarnwyd y wobr gyntaf i Ysgol Clocaenog o Sir Ddinbych.

Dyma’r Gwyddonwyr Gwych lwcus yn ennill trip llawn hwyl i Amgueddfa Lechi Cymru lle dyma nhw’n dysgu am Stori Llechi, yn chwilio am fwystfilod bach ac yn adeiladu nythod anferth yn y chwarel!

Athro’r Ardd: “Dyma Ysgol Clogaenog yn gwneud gwaith gwych ar gyfer ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn a nhw anfonodd y mwyaf o ddata tywydd o bob ysgol yng Nghymru! Roedd y gystadleuaeth yn gryf wrth i ysgolion wella eu sgiliau casglu ac anfon data bob blwyddyn. Roedd yn braf cael cwrdd â Gwyddonwyr Gwych Ysgol Clocaenog, a dyma ni’n cael llawer o hwyl yn adeiladu nythod ac yn esgus bod yn adar bach! Dyma ni hefyd yn dysgu llawer am Lechi, a dwi’n credu taw fy hoff foment i o’r diwrnod oedd hollti’r llechi!”

Os hoffech chi gymryd rhan yn y project hwn y tymor nesaf, llenwch y ffurflen gais ar-lein:

Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – Ffurflen Gais.

 

Mai 2014

Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014

Postiwyd gan Catalena Angele ar 30 Mai 2014

[delwedd: ]

1af - Abbey, Ysgol Eglwys Plwyf Coppull

[delwedd: ]

2il - Louise, Ysgol Gynradd SS Philip a James CE (Pinc 3)

 

[delwedd: ]

3ydd - Amelie, Ysgol Gynradd Stanford in the Vale CE

Llongyfarchiadau i enillwyr y gystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014! Dyma’u darluniau botanegol gwych.

  • 1af: Abbey – Ysgol Eglwys Plwyf Coppull
  • 2il: Louise – Ysgol Gynradd SS Philip a James CE (Pinc 3)
  • 3ydd: Amelie – Ysgol Gynradd Stanford in the Vale CE

Roeddwn i’n chwilio am ddarluniau botanegol – sef darluniau o blanhigion mewn arddull wyddonol. Yn ogystal â thynnu llun gwych, roedd angen labelu gwahanol rannau’r blodyn yn glir hefyd.

Roedd pob un o’r darluniau a dderbyniais i yn wych, felly gallwch chi eu gweld nhw i gyd ar y wefan! Da iawn bawb.

Gallwch chi weld y darluniau i gyd yma.

Diolch yn fawr,

Athro’r Ardd

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: Canlyniadau 2005-2014

Postiwyd gan Catalena Angele ar 27 Mai 2014

Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.

Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol  wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.

Mae tystysgrifau wedi cael eu hanfon at yr holl ddisgyblion yn 4,075 a gwblhaodd y prosiect eleni.

Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau!

  • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau.
  • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer?
  • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd?
  • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru.

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

www.museumwales.ac.uk/scan/bylbiau

Twitter http://twitter.com/Professor_Plant

Diwrnod Budd a Roi 2014

Postiwyd gan Hywel Couch ar 19 Mai 2014

[delwedd: ]

Creu min ar y pyst

[delwedd: ]

Morthwyl mawr!

[delwedd: ]

Adeiladu'r gwrych

[delwedd: ]

Y Gwirfoddolwyr!

» View full post to see all images

Wythnos diwethaf, fel rhan o Ddiwrnod Budd a Roi 2014, daeth 50 o wirfoddolwyr o Lloyds Banking Group i Sain Ffagan i helpu gyda nifer o brosiectau. Wnaeth rai helpu’r Adran Garddio, wnaeth rai ymuno a’r Adran Adeiladau Hanesyddol tra gwnaeth rai gweithio ynghyd a’r Gymdeithas Alzheimer. Wnaeth 11 o’r gwirfoddolwyr gweithio gyda fi a Bernice i adeiladu gwrych newydd yn y goedwig wrth ymyl y guddfan adar.

Da ni di bod yn bwriadu adeiladu gwrych wrth ymyl y guddfan adar am sbel, am nifer o resymau. Yn gyntaf, bysai’r gwrych yn actio fel sgrin wrth nesai’r guddfan, gyda’r gobaith bysai’r adar ddim yn cael ei ofni gan ymwelwyr yn cerdded ar hyd y llwybr. Ma’ wrych hefyd yn gallu gweithio fel coridor wrth i fywyd gwyllt symud drwy’r goedwig. Hefyd, mae nifer o ymwelwyr wedi bod yn creu llwybr wrth dorri drwy’r goedwig, ac felly, wrth adeiladu gwrych, da ni’n gobeithio nawr bydd llai o ymwelwyr yn gwneud hyn.

Tasg cyna’r dydd oedd minio’r pyst. Mae’r pyst yn bwysig er mhoen neud yn siŵr bod y gwrych yn cael ei adeiladu ar sylfaen solet. Mae creu min yn neud e’n haws i yrru’r pyst mewn i’r ddaear. Ar ôl creu tyllau arwain, defnyddiwyd morthwyl  mawr i yrru’r pyst i lawr. Unwaith roedd y pyst yn ei le, roedd hi’n bosib i ni ddechrau adeiladu’r gwrych.

Ma’ na nifer o wahanol fathau o wrych, a phenderfynon ni ddefnyddio pren a choed wedi marw. Dros yr wythnosau diwethaf, dwi di fod yn gofyn i’r adrannau garddio ag amaethyddiaeth i gasglu unrhyw bren ac yn y blaen a’i anfon draw i’r guddfan adar. Am fod angen cymaint o bren, es i a rai o’r gwirfoddolwyr mewn i’r goedwig i gasglu hyd yn oed mwy.

Ar ôl cinio, fel grŵp, aethon ni i fyny i Fryn Eryr, safle’r ffarm Oes Haearn newydd sy’n cael ei adeiladu. Mae’r goedwig yma wedi cael ei chlirio yn ddiweddar, felly llanwyd trailer yn barod i’w cludo i’r guddfan. Erbyn diwedd y prynhawn, llwyddon ni i orffen y gwrychoedd. Gorffennwyd y gwrychoedd efo toriadau palalwyf er mwyn ychwanegu bach o je ne sais quois.

Fel mae’r lluniau yma’n dangos, mi oedd y diwrnod yn llwyddiant enfawr! Gallwn ni ddim di gofyn am dywydd gwell a dwi’n meddwl gwnaeth pawb mwynhau’r profiad. Gorffennwyd y 2 darn o wrych oeddem ni am adeiladu, a dwi eisoes wedi meddwl am brosiectau am y dyfodol! Cyflawnwyd llwyth o waith mewn un diwrnod, bysai’r gwaith di cymryd amser maeth i mi a Bernice i orffen heb help y gwirfoddolwyr. Diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth helpu ni a’r prosiectau arall hefyd!

Ebrill 2014

Gwobrau Gwyddonwyr Gwych 2014

Postiwyd gan Catalena Angele ar 28 Ebrill 2014

[delwedd: ]

Athro'r Ardd

[delwedd: ]

SS Philip and James CE Primary School yn Lloegr

[delwedd: ]

Blodau yn Ysgol Y Plas, Cymru

Bydd Amgueddfa Cymru yn dyfarnu Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych i naw deg pump o ysgolion ar draws y DU eleni, i gydnabod eu cyfraniad i Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn – Newid Hinsawdd.

Llongyfarchiadau anferth i bob un o’r ysgolion! Mae rhestr o’r enillwyr isod, ydy’ch ysgol chi yno?

Diolch i bob un o’r 4200 disgybl a helpodd eleni! Diolch am weithio mor galed yn plannu, arsylwi, mesur a chofnodi – rydych chi i gyd yn Wyddonwyr Gwych! Bydd pob un yn derbyn tystysgrif a phensel Gwyddonydd Gwych, ac fe fyddan nhw’n cyrraedd eich ysgol tua canol mis Mai.

Diolch yn fawr i Ymddiriedolaeth Edina am eu nawdd ac am helpu i wireddu’r holl  broject!

 

Enillwyr 2014

Diolch i’r tri enillydd wnaeth anfon y nifer fwyaf o ddata tywydd.  Bydd pob un yn derbyn trip ysgol llawn hwyl i atyniad natur.

  • Ysgol Clocaenog yng Nghymru
  • Ysgol Gynradd Abronhill yn yr Alban
  • Ysgol Gynradd Gymunedol Dallas Road yn Lloegr

 

Ail safle

Bydd pob ysgol yn derbyn tocyn anrheg i brynu offer ar gyfer eich projectau garddio.

  • Ysgol Gynradd Cross Hands yng Nghymru
  • Ysgol Gynradd Wormit yn yr Alban
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Cymun Bendigaid yn Lloegr

 

Clod uchel

Bydd pob ysgol yn derbyn tystysgrifau, pensiliau, hadau blodau’r haul a hadau perlysiau.

  • Abergwili VC Primary
  • Archbishop Hutton's Primary School
  • Arkholme CE Primary School
  • Balshaw Lane Community Primary School
  • Bleasdale CE Primary School
  • Burscough Bridge Methodist School
  • Carnforth North Road Primary School
  • Christchurch CP School
  • Combe Primary School
  • Coppull Parish Church School
  • Cutteslowe Primary School
  • Darran Park Primary
  • Freuchie Primary School
  • Gladestry C. in W. Primary
  • Glyncollen Primary
  • Kilmaron School
  • Raglan VC Primary
  • SS Philip and James CE Primary School
  • St Athan Primary School
  • St Blanes Primary School
  • St Ignatius Primary School
  • St Mary's Catholic Primary School, Leyland
  • St Mellons Church in Wales Primary School
  • St Michael's CE (Aided) Primary School
  • St Nicholas Primary School
  • St Patrick's Primary School
  • Stanford in the Vale CE Primary School
  • Ysgol Bro Eirwg
  • Ysgol Deganwy

 

Cydnabyddiaeth arbennig

Bydd pob ysgol yn derbyn tystysgrifau, pensiliau a hadau blodau’r haul.

  • Auchengray Primary School
  • Britannia Community Primary School
  • Cawthorne's Endowed Primary School
  • Coleg Meirion-Dwyfor
  • Culross Primary School
  • Greyfriars RC Primary School
  • Holy Trinity CE Primary School
  • John Cross CE Primary School
  • Llanishen Fach Primary School
  • Red Marsh School
  • St Anne's Catholic Primary School
  • St Laurence CE Primary School
  • Woodplumpton St. Anne's Primary School
  • Ysgol Gynradd Dolgellau
  • Ysgol Terrig
  • Ysgol Y Plas

 

Ysgolion i dderbyn tystysgrifau

Bydd pob ysgol yn derbyn Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych a phensiliau.

  • All Saints' CE Primary School
  • Balcurvie Primary School
  • Ballerup Nursery
  • Blenheim Road Community Primary School
  • Brockholes Wood Community Primary School
  • Brynhyfryd Junior School
  • Catforth Primary School
  • Chatelherault Primary School
  • Cleddau Reach VC Primary School
  • Cobbs Brow Primary School
  • Coed-y-Lan Primary School
  • Flakefleet Primary School
  • Glencairn Primary School
  • Golden Hill School
  • Henllys C/W Primary
  • Hillside Specialist School
  • Ladywell Primary School
  • Lakeside Primary
  • Lea Community School
  • Manor Road Primary School
  • Manor School
  • Milford Haven Junior School
  • Newport Primary School
  • Pinfold Primary School
  • RAF Benson Primary School
  • Rogiet Primary School
  • Rougemont Junior School
  • Scotforth St Paul's CE Primary School
  • St Bernadette's Primary School
  • St Gregory's Catholic Primary School
  • St John's CE Primary School
  • St Nicholas C/W primary school
  • Trellech Primary School
  • Tynewater Primary School
  • Woodstock CE Primary School
  • Ysgol Bro Tawe
  • Ysgol Glan Cleddau
  • Ysgol Iau Hen Golwyn
  • Ysgol Nant y Coed
  • Ysgol Rhys Prichard
  • Ysgol Santes Tudful
  • Ysgol Sychdyn
  • Ysgol Y Berllan Deg
  • Ysgol Y Faenol

 

Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2014

Llongyfarchiadau i’r disgyblion canlynol am greu darluniau botaneg arbennig! Gwobr yr enillwyr fydd pecynnau gwylio adar yn cynnwys binocwlars bach.

  • 1af: Abbey – Coppull Parish Church School
  • 2il: Louise – SS Philip and James CE Primary School (Pink 3)
  • 3ydd: Amelie – Stanford in the Vale CE Primary School

 

Da iawn, rydych chi wedi gwneud gwaith ANHYGOEL.

Athro'r Ardd

Constable goes down a storm in Cardiff

Postiwyd gan Stephanie Roberts ar 25 Ebrill 2014

Last week we created a storm in the galleries at National Museum Cardiff with our Easter workshops. Families who took part got to make their own pop-up landscapes inspired by John Constable’s Salisbury Cathedral from the Meadows 1831. This activity was part of the Aspire programme, funded by the Heritage Lottery Fund and the Art Fund.

Here are some of the mini masterpieces created.

We were impressed by the variety of skies! Some were stormy and brooding. Others filled with colour and light. Butterflies, bees, and a murder of crows all made an appearance – and, of course, some beautiful rainbows.

If Constable were alive today he surely would have approved! For him the sky was the most important part of a painting. It creates feelings, mood and emotions. I wonder what mood our families were in when they created theirs?

Whatever mood they were in at the time, they left the workshop feeling happy! Families were asked to complete the sentence ‘the workshop made me feel...’, and to hang it on our specially-created comments cloud. ‘Happy’ was the most popular response! Here are some others:

The workshop made me feel…

  • Happy happy and I loved it a lot - Jack
  • Interested because I like learning about Constable
  • Hapus fel y gog achos rwy’n hoffi celf a chrefft
  • Welcome ♥

 

Find out more:

Explore Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 with this interactive guide.

Download a free pack for teachers from our Learning Resources page.

Download our Landscape and Lights family trail

 

Aspire

Salisbury Cathedral from the Meadows was purchased by Tate with assistance from the National Lottery through the Heritage Lottery Fund, The Manton Foundation, the Art Fund (with a contribution from the Wolfson Foundation) and Tate Members in partnership with Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Colchester and Ipswich Museum Service, National Galleries of Scotland, and Salisbury and South Wiltshire Museum, 2013.

To secure the painting, a unique partnership initiative was formed between five public collections: Tate Britain, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Colchester and Ipswich Museums, Salisbury and South Wiltshire Museum and the National Galleries of Scotland. This initiative, named Aspire, is a five-year project supported by the Heritage Lottery Fund and the Art Fund enabling the work to be viewed in partner venues across the UK. National Museum Cardiff is the first venue to display the work.

Llwch Llundain

Postiwyd gan Catalena Angele ar 14 Ebrill 2014

[delwedd: ]

Y llwch yn Llundain bbc.co.uk

[delwedd: ]

Beth am warchod y Ddaear drwy helpu i leihau llygredd aer

[delwedd: ]

Mae nifer o'r gwyddonwyr gorau yn cytuno bod lefelau llygredd yn cyfrannu at gynhesu byd-eang

Os oeddech chi yn ymweld â Llundain yr wythnos diwethaf mae’n siŵr eich bod chi wedi sylwi bod yr awyr yn llawn llwch – fel edrych drwy gwmwl brwnt! Ond beth yw mwrllwch, a beth yw’r gwahaniaeth rhyngddo â niwl?

Beth yw niwl?

Cwmwl ar y llawr yw niwl! Llawer o ddiferion dŵr mân yn hofran yn yr awyr yw niwl ac mae’n rhan naturiol o’r tywydd. Mae niwl yn helpu i ddyfrio planhigion ac yn ddiogel i chi ei anadlu i mewn.

Beth yw mwrllwch?

Llygredd aer yw mwrllwch. Mae’n cael ei gynhyrchu wrth i niwl gymysgu â mwg a nwyon cemegol ceir a ffatrïoedd ac mae rhai o’r cemegau yma’n wenwynig! Mae’n niweidio planhigion ac anifeiliaid a gall fod yn beryglus ei anadlu i mewn.

Mae’r mwrllwch diweddar yn Llundain yn gymysgedd o niwl, llygredd a thrydydd cynhwysyn – tywod o’r Sahara! Anialwch anferth yn Affrica yw’r Sahara ac mae peth o’r tywod yno yn fân iawn, iawn fel llwch. Weithiau bydd stormydd gwynt yn codi’r llwch a’i chwythu filoedd o filltiroedd i’r DU. Dyna siwrnai hir!

Yn anffodus, mae’r gymysgedd o niwl, llygredd a llwch yr anialwch yn golygu bod mwrllwch Llundain yn niweidio’r ysgyfaint, ac mae wedi gwneud rhai pobl yn sâl. Mae mwrllwch yn un rheswm da iawn pam y dylen ni i gyd geisio lleihau llygredd aer!

Beth alla i ei wneud i leihau llygredd aer?

Meddyliwch am lygredd aer… beth sy’n ei achosi? Allwch chi feddwl am 3 pheth y gallech chi ei wneud i leihau llygredd aer? Trafodwch yn y dosbarth cyn gwirio eich atebion yma (gwefan Saesneg).

Dilynwch y ddolen hon i ddysgu mwy am fwrllwch. Dilynwch y ddolen hon.

Eich cwestiynau, fy atebion:

Glyncollen Primary School: Sorry we were late again. We had a busy week as we are going to Llangrannog. We have had great fun doing this investigation. We can't wait to find out who has won the competition. We are going to tell the year3 class about it as they will be doing it next year. Thank you Professor Plant. Yr. 4. Prof P: Hope you had fun at Llangrannog! I am so glad you have enjoyed the investigation Glyncollen. Thank you so much for taking part!

Ysgol Clocaenog: Pen wedi disgyn ffwrdd! Athro'r Ardd: Wedi colli ei ben!

Gladestry C.I.W. School: Although the flowers were open earlier in the week, they have closed up again at the drop in temperature. Prof P: I can tell that you have learnt a lot about your planrs Gladestry, well done!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

10 Uchaf yr Adar

Postiwyd gan Catalena Angele ar 7 Ebrill 2014

[delwedd: ]

Beth yw’r 10 aderyn mwyaf cyffredin yng ngerddi Prydain?

[delwedd: ]

Cennin Pedr gyda da neu dri blodyn – rhyfedd iawn!

[delwedd: ]

Blodau hyfryd yn Ysgol Gynradd SS Philip a James yr Eglwys yn Lloegr

[delwedd: ]

Wnaeth pob blodyn ddim agor yn llawn – ys gwn i pam?

Shwmae gyfeillion y gwanwyn!

Canlyniadau Big Garden Birdwatch

Beth yw’r 10 aderyn mwyaf cyffredin yn eich gardd chi? Cyfrannodd bron i hanner miliwn o bobl at Big Garden Birdwatch 2014 yr RSPB (y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar). Dyma nhw’n cyfri dros 7 miliwn o adar! Wnaethoch chi helpu? Os na, beth am ddechrau eleni er mwyn gallu helpu y flwyddyn nesaf? I weld y 10 aderyn mwyaf cyffredin, dilynwch y ddolen hon

Pa ysgolion sydd wedi gweld eu blodau cyntaf?

Mae Trellech Primary School yng Nghymru, ac Britannia Community Primary School yn Lloegr i gyd wedi anfon eu cofnodion blodau cyntaf. Da iawn a diolch yn fawr i’r ysgolion yma!

Dyma un o fy nghydweithwyr yng Nghaerdydd yn dangos y ffotograff yma i fi o gennin Pedr yn ei gardd. Allwch chi weld rhywbeth rhyfedd am y blodau? Mae’r llun ychydig yn aneglur ond wrth edrych yn ofalus gallwch chi weld bod gan rai o’r coesynnau ddau neu dri o flodau! Rhyfedd iawn. Ydych chi wedi gweld unrhyw blanhigion anarferol?

Diolch i Ysgol Gynradd SS Philip a James yr Eglwys yn Lloegr am anfon y ffotograff hwn o’u holl flodau hyfryd. Yn y trydydd ffotograff gallwch chi weld eu bod nhw hefyd wedi gweld blodau anarferol – wnaeth rhai o’r cennin Pedr ddim agor yn llawn. Mae hyn yn ddiddorol iawn, alwch chi feddwl am unrhyw reswm pam na fyddai’r blodau yn agor? Wnaeth hyn ddigwydd i’ch blodau chi?

Cot Cennin Pedr!

Ydych chi am weld llun doniol o ddyn yn gwisgo cennin Pedr? Dyma chi! James yw ei enw ac mae’n gwisgo siwt wedi’i gwneud o gennin Pedr i godi arian at elusen. Da iawn James!

Your comments, my answers:

Prof P: I had lots and lots of comments from Dallas Road Community Primary School so I thought I would put them all on the blog this week, thank-you all for sending me your messages! Congratulations to all of you, even if your flower did not grow, was stepped on, got broken or died, you are ALL Super Scientists! Prof P.

Dallas Road Community Primary School: 

I think it didn't open because the daffodil was hovering over it and so it didn't get enough sun and rain. :(

I think my daffodil was in the shade so it did not open.

Someone cut its head off

It didn't open because somebody stepped on it

It died

Someone broke the bud off

Mine did not open!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

My Bulb disappeared

It was a bit floppy so we did not get chance to tie it up. But it is still open.

I am quiet sad my daffodils have not opened but they are growing so I will believe that soon they will and they are really tall.

My daffodil is growing very tall but it is a bit floppy.

My crocus is beautiful some of them are starting to die but still i'm happy because some are still growing and some have opened and some of them are fully beautiful i'm really happy about every crocus. My crocus's are quiet tall some are small as well

my crocus is really beautiful i have got another 3-4 crocuses opening i really enjoy seeing my plant grow.

My crocus has flowered well and is growing quite tall which is good and happy about it all.

I did not get a daffodil so it did not grow.

Daffodil has broke and I had to tie it up.

My plant head fell off. I haven't seen it since so I don't know if it has grown back.

My daffodil didnt open. I dont think mine had enough sunlight

Prof P: Culross Primary School sent me messages to tell me they had named their flowers, thanks Culross! Here are some of the names they gave their Daffodils and Crocuses: Danny, Dafty, Crocy, Abby, Croaky, Dave, Chris, Cassy, Ceeper, Bob, Jim.

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

 

Mawrth 2014

Y Dyddiad Cau!

Postiwyd gan Catalena Angele ar 28 Mawrth 2014

[delwedd: ]

Diolch yn fawr gyfeillion y gwanwyn, oddi wrth Athro’r Ardd a babi bwlb!

[delwedd: ]

Blodau yn Ysgol Gynradd Rogiet, Cymru.

[delwedd: ]

Gweirglodd blodau gwyllt Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dechrau blodeuo

Mae dyddiad cau Bylbiau’r Gwanwyn wedi cyrraedd! Diolch yn fawr IAWN i chi gyd am gasglu eich cofnodion tywydd a blodau a’u hanfon ata i mewn pryd.

Pa ysgolion sydd wedi gweld eu blodau cyntaf?

Mae Balcurvie Primary School, Chatelherault Primary School, Glencairn PrimarySchool, St. Blanes Primary School, St. Patrick's Primary School, Tynewater Primary School ac Wormit Primary School yn yr Alban, ac Brynhyfryd Junior School, Cleddau Reach VC Primary School,Coed-y-Lan Primary, St Athan Primary,St Mellons Church in Wales Primary School, Ysgol Bro Eirwg, Ysgol Iau Hen Golwyn ac Ysgol Y Plas yng Nghymru i gyd wedi gweld eu blodau cyntaf. Yn Lloegr, mae ysgolion Bleasdale CE Primary School, Combe Primary School, Cutteslowe Primary School ac Flakefleet Primary School i gyd wedi anfon eu cofnodion blodau cyntaf. Da iawn a diolch yn fawr i’r ysgolion yma!

Daliwch ati i anfon eich cofnodion blodau!

Fel y dwedais i yn y blog diwethaf, os oes blodau ar eich planhigion ond eu bod nhw heb agor eto, daliwch ati i wylio ac anfonwch eich cofnodion pan fyddan nhw’n agor. Fyddan nhw ddim mewn pryd i gael eu cynnwys yn Adroddiad Bylbiau’r Gwanwyn eleni, ond byddan nhw’n gwneud adroddiad y flwyddyn nesaf yn fwy cywir.

 

Planhigion heb flodeuo?

Diolch i bob disgybl anfonodd gofnodion yn dweud fod eu planhigion heb flodeuo, neu’r blodau heb agor (gwnewch hyn drwy glicio ‘Heb agor’ yn y Cofnod Blodau). Mae’n gallu bod yn deimlad siomedig os nad yw’r planhigion y blodeuo, ond peidiwch â phoeni! Un o’r gwersi pwysig fyddwn ni’n dysgu fel Gwyddonwyr Gwych yw na fydd pob arbrawf yn rhoi’r canlyniad oedden ni’n ei ddisgwyl. Ond nid yw’r arbrawf yn fethiant. Mae cofnodi pan fydd rhywbeth ddim yn digwydd YR UN MOR BWYSIG i wyddonydd â chofnodi pan fydd rhywbeth yn digwydd.

Does dim ots os agorodd eich blodyn neu beidio, os weithioch chi’n galed a helpu gydag Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn, byddwch chi’n derbyn tystysgrif a phensel Gwyddonydd Gwych!

 

Gweirglodd blodau gwyllt Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rydyn ni’n arbrofi wrth dyfu gweirglodd blodau gwyllt. Oes gweirglodd blodau gwyllt yn eich ysgol chi? Rydyn ni wedi plannu rhai hadau a bylbiau a’r blodau cyntaf i ymddangos yw’r crocysau a’r cennin Pedr! Dyma ffotograff ohonyn nhw. Dyw e ddim yn edrych yn debyg iawn i weirglodd eto, ond gobeithio y bydd e’n llawn blodau erbyn yr haf. Yn y cylch mwdlyd, rydyn ni wedi plannu llawer o babïau coch i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf. Eleni rydyn ni’n cofio 100 mlynedd ers dechrau’r Rhyfel a byddwn ni’n cynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd yn Amgueddfa Cymru i adrodd hanes pobl Cymru yn ystod y Rhyfel. Cliciwch yma i ddysgu mwy.

 

Eich cwestiynau, fy atebion:

Dallas Road Community Primary School: Hi Proffeser Plant!! Prof P: Hi everyone at Dallas Road!

Pinfold Primary School: nearly all the bulbs have opened. The mystery bulbs are blooming very well. The crocus is growing purple flowers. Prof P: What were your mystery bulbs Pinfold?

Glyncollen Primary School: Hello Professor Plant, We're excited because our bulbs have now sprung and we can't wait to get our certificates. From, Year 4. Prof P: Congratulations Year 4! I look forward to sending them to you, you are Super Scientists!
Ysgol Terrig: Our Bulbs have opened and they are 15cm tall :). Prof P: Great measuring Ysgol Terrig.

Rougemont Junior School: What a warm a dry week Professor Plant, our crocuses are all blooming as are our daffodils. Prof P: All the colours look so lovely don’t they?

St. Ignatius Primary School: We have uploaded our weather records for this week but unfortunately our bulbs have not flowered just yet. We are disappointed as this is the last week and we can see them coming along but not as quick as we would have hoped. We will continue to keep an eye on them and let you know when they have flowered. Our teacher will need to do this next week as P7 are off to Kilbowie in Oban for an outward bound trip. Prof P: Please don’t be disappointed P7, your results are still really important, even if your flowers didn’t open by the deadline. Enjoy your trip it sounds like fun!

Kilmaron Special School: We are using the findings of our daily temperature readings and rainfall as evidence in our SQA National 1 Measurement unit. Prof P: That is fantastic Kilmaron, I am so glad it is helping you with your qualification.

Stanford in the Vale Primary School: Thank you very much we really enjoyed it and are datherdils are blooming and are very healthy and strong through all of these conditions. Stanford in the vale gardening club. Prof P: I am so glad you enjoyed it Stanford, that makes me very happy!

St. Blanes Primary School: Hi Professor Plant, the start of the week felt much warmer. It's the first time we saw the temperature in double figures! Prof P: I hope you enjoyed the warm weather.

Gladestry C.I.W. School: it has grown well i'm a mum. Prof P: Congratulations! You must have looked after your baby bulb very well.

Chatelherault Primary School: Some of our plants are starting to bloom the daffodils are showing the most. The crocuses are still growing but not as much as the daffodils. Prof P: That is very interesting as crocuses usually flower before daffodils.

Ysgol Gynradd Cross Hands: Dyma ein blodyn cyntaf gan LM o Ysgol Gynradd Cross Hands. Mwy o haul plis!Prof P: Llongyfarchiadau LM o Ysgol Gynradd Cross Hands!

The Blessed Sacrament Catholic Primary School: my plant is just the same as the plant I got at my home it has grown twenty cm. Prof P: It’s wonderful to hear that you are growing flowers at home too, well done!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

 

Mae blodau Athro’r Ardd wedi agor!

Postiwyd gan Catalena Angele ar 21 Mawrth 2014

[delwedd: ]

Mae blodau Athro’r Ardd wedi agor.

[delwedd: ]

Mae blodau Athro’r Ardd wedi agor.

[delwedd: ]

Cennin Pedr cyntaf Clwb Garddio Stanford.

Dwi wedi cyffroi yn lân! Mae fy mlodau i wedi agor o’r diwedd, ac mae nhw mor brydferth alla i ddim peidio gwenu wrth edrych arnyn nhw. Blodeuodd y crocws ar 16 Mawrth ac roedd e’n 90mm o daldra. Blodeuodd y cennin Pedr y diwrnod wedyn ac roedd e’n 240mm o daldra. Dyma ffotograff o’r ddau.

Diolch yn fawr i Glwb Garddio Stanford o Ysgol Gynradd Stanford in the Vale CE yn Lloegr am eu ffotograff o’u cennin Pedr cyntaf! Oes unrhyw un arall am anfon ffotograffau o’u planhigion ata i, i fi gael eu rhoi nhw ar y wefan hefyd?

Pa ysgolion sydd wedi gweld eu blodau cyntaf yn agor?

Mae Abronhill Primary School, Culross Primary School, ac Glencairn Primary School yn yr Alban, ac Christchurch CP School, Coleg Meirion Dwyfor, Gladestry C.I.W. School, Rogiet Primary School, Ysgol Clocaenog, Ysgol Gynradd Cross Hands, Ysgol Deganwy ac Ysgol Santes Tudfulyng Nghymru i gyd wedi gweld eu blodau cyntaf. Yn Lloegr, mae ysgolion Arkholme CE Primary School, Burscough Bridge Methodist School, Coppull Parish Primary School, Hillside Specialist School, John Cross CE Primary School, Pinfold Primary School, Scotforth St. Paul's CE Primary School, SS Philip and James CE Primary School, St Laurence CE Primary School ac Woodplumpton St. Anne's Primary School i gyd wedi anfon eu cofnodion blodau cyntaf. Llongyfarchiadau i chi gyd!

Un wythnos ar ôl…

Dim ond un wythnos sydd ar ôl tan ddyddiad cau project Bylbiau’r Gwanwyn. Cofiwch anfon eich cofnodion ata i erbyn 28 Mawrth.

Beth i wneud os nad yw’r blodau wedi agor erbyn y dyddiad cau?

Daliwch ati i anfon eich data blodau! Os nag yw eich blodau wedi agor, mae croeso i chi barhau â’r ymchwiliad. Pan fydd y planhigion yn blodeuo byddwch chi’n dal i allu cofnodi y dyddiad a’r uchder ar ein gwefan.

Y rheswm am y dyddiad cau yw fy mod i’n ysgrifennu adroddiad arbennig bob blwyddyn yn crynhoi yr holl ddata fyddwch chi’n ei anfon. Rhaid i fi ysgrifennu’r adroddiad ym mis Ebrill. Bydd cofnodion fydd yn cyrraedd cyn y dyddiad cau yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad eleni. Bydd cofnodion fydd yn cyrraedd ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hychwanegu at y bas data ac yn cael eu cynnwys yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

Mae eich cofnodion i gyd yn bwysig iawn. Rwy’n addo y bydd eich data i gyd yn cael ei gynnwys yn y project ac yn helpu i wneud yr ymchwiliad yn fwy cywir yn y dyfodol.

Ydych chi wedi gweld unrhyw arwyddion o’r gwanwyn wrth chwarae? Fe welais i gacynen flewog dros y penwythnos, buwch goch gota ac ŵyn bach! Dyma fi’n edrych mewn llyn ond welais i ddim grifft llyffaint. Ydych chi wedi gweld grifft llyffaint neu unrhyw arwyddion eraill o’r gwanwyn?

Hoffech chi fod yn Dditectif Natur? Mae Coed Cadw wedi paratoi gweithgareddau gwych y gwanwyn ar eich cyfer chi. Dysgwch sut i adnabod arwyddion cyntaf y gwanwyn yma ac am ragor o syniadau gwych y gwanwyn cliciwch yma.

Eich cwestiynau, fy atebion:

Ysgol Bro Eirwg: Roedd y mesurudd glaw yn llawn ar ddydd Llun gan ei fod wedi casglu'r holl law dros hanner tymor. Rydym ni yn gyffrous iawn bod rhai o'r bylbiau wedi dechrau agor. Rydym wedi sylwi bo'r bylbiau sy'n agor yn hwyrach llawer yn llai, oes rheswm am hyn? Athro’r Ardd: Rydw i’n falch iawn bod eich blodau chi yn agor Ysgol Bro Eirwg! Da iawn chi am arsylwi mor ofalus ar y planhigion a gofyn cwestiwn gwyddonol gwych. Yr ateb yw… dwi ddim yn siŵr!! Efallai bod rhai o’r bylbiau yn llai na’r lleill wrth gael eu plannu. Gallai hyn olygu eu bod nhw’n cymryd mwy o amser i flodeuo a’u bod nhw’n llai o faint. Oes gennych chi unrhyw syniadau i’w esbonio? Sut fyddech chi’n profi eich syniadau wrth dyfu rhagor o blanhigion y flwyddyn nesaf?

Raglan VC Primary: Our flowers are blooming now! The shoots are 85 cm tall! Prof P: Do you mean 85mm tall Raglan? An 85cm tall flower would be HUGE!

Glencairn Primary School: It was very foggy on Thursday night and Friday morning! Prof P: Great weather reporting. I love fog, it’s quite spooky isn’t it?

Hillside Specialist School: Our first flower opened. By K. Prof P: Well done K and everyone else at Hillside School.

Greyfriars RC Primary School: It was fun me and R. really enjoyed it. Prof P: Hooray!

SS Philip and James CE Primary: A lot of our crocus flowers had come out over the holidays! Prof P: Fantastic! A lot of people’s flowers opened during the holidays.

Pinfold Primary School: Mystery bulbs started opening on Monday. We think they're daffodils. Other bulbs are growing very well. Prof P: Great news Pinfold.

Ysgol Terrig: our bulbs are growing great they are now 7cm tall !!!!! Prof P: Fantastic news Ysgol Terrig!

Chatelherault Primary School: During the week it has been sunny and because of this our plants has started to blossom although the flowers are still closed. We have had a lot of spiders in our pots. Prof P: Oooh, how cool! I love spiders! Their webs are so beautiful and the way they make them is so clever.

Culross Primary School: We have been very busy in P5-7 recently with trips to Scottish Parliament and also the Foodbank with a collection we organised. Sorry for the lack of records for Tuesday and Thursday! Matt is the name of my daffodil and he was the first one to flower here at Culross PS. It has been quite warm here at Culross and we haven't had any snow, so the daffodils are now beginning to grow. O's crocus is called Coco and measures 50mm. Her’s is the first crocus to flower here at Culross. Well done to O.! Prof P: Wow you sound like you have had some really interesting school trips Culross Primary. Well done for collecting for the Foodbank. I love the names you have given to your plants!

Darran Park Primary: The first crocuses flowered on the 7th of march. Their colour is purple\violet. The bees have already started collecting the pollen and they are 6 cm tall. Some of the other crocus bulbs have only just started to sprout through the soil. Prof P: Great observations Darran Park, I like your description of the crocuses as purple/violet.

Arkholme CE Primary School: Sun shining at last it is doing the flowers a world of good they have come out to see it!!! Prof P: It is doing me the world of good too Arkholme!

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.