Amgueddfa Cymru

Hafan

9 Mawrth 1946: Ir Bala hefo’r bus 12.30. Prynu shuttle o nodwyddau i Es ir machine wnio.

Yn ei dyddiadur heddiw, mae Kate Rowlands yn sôn ei bod wedi prynu nodwyddau ar gyfer peiriant gwnïo ei merch, Elsie. Yn ystod y 1940au, roedd medr gyda'r nodwydd a'r peiriant gwnïo yn fantais fawr i fenywod Cymru. Dyma ddegawd o ddogni ac ailgylchu, trwsio a phwytho.

Dogni dillad (1941 - 1949)

Yn dilyn cyflwyno dogni ar fwyd yn 1940, daeth dogni dillad i rym ym Mehefin 1941. Roedd sawl rheswm tu ôl i’r penderfyniad, ond y prif nod oedd lleihau’r galw am ddeunyddiau crai ac ailgyfeirio llafur at waith rhyfel. Erbyn 1941, roedd mewnforio cynnyrch o’r cyfandir yn amhosibl. Ar ben hyn, roedd y ffatrïoedd hynny a fyddai, fel rheol, wedi cynhyrchu brethyn a gwisgoedd parod yn ceisio ymdopi â’r galw newydd am lifrai milwrol. O ganlyniad, rhoddwyd llyfr dogni dillad i bob unigolyn. I brynu dilledyn, rhaid oedd talu gyda chyfuniad o arian parod a thocynnau o’r llyfr.

Roedd pob unigolyn yn cael cwota o docynnau i’w gwario yn flynyddol, gyda phob tocyn yn gyfwerth â hyn a hyn o bwyntiau. Pe bai angen ffrog newydd ar Kate Rowlands, byddai wedi gorfod ildio un-ar-ddeg tocyn. Crys newydd i Emrys? Wyth tocyn. Pâr o ’sgidiau i Dwa? Saith tocyn. Ar ddechrau’r cynllun, roedd pob unigolyn yn derbyn 66 o bwyntiau bob blwyddyn, ond wrth i’r Rhyfel fynd yn ei flaen, bu’n rhaid gostwng y cwota. Roedd y sefyllfa ar ei waethaf rhwng 1 Medi 1945 a 30 Ebrill 1946 – dim ond 24 tocyn oedd ar gael y pryd hynny.

Make do and Mend

Yng ngwyneb y prinderau hyn, cyhoeddodd y Bwrdd Masnach lyfryn bychan o'r enw Make do and Mend er mwyn annog menywod Prydain i fod yn ddyfeisgar a chreadigol â'u dillad. I gyd-fynd â'r ymgyrch, lluniwyd cymeriad o'r enw 'Mrs Sew and Sew' i hyrwyddo'r neges mewn cylchgronau a phapurau newydd. Sefydlwyd dosbarthiadau gwnïo mewn neuaddau bentref ac ysgolion ledled y wlad i gynorthwyo menywod ar bob agwedd o fywyd yn y cartref.

Mae sawl enghraifft yng nghasgliad tecstiliau'r Amgueddfa o waith llaw'r cyfnod hwn. Un o fy ffefrynnau i yw'r gorchudd clustog a welir yma a wnaed drwy ailgylchu hen sach ac edafedd lliw.

 

 

28 Chwefror 1946 – Dwa yma y bore i nol benthyg bwyell a phlaen i drwsio braich y gadair freichiau. Tywydd gaeafol a hynod o oer. San yn dod adref efo Septic Ulcer ar ei choes.

Ar ddiwrnod olaf y mis bach, cofnododd Kate Rowlands bod ei mab, Dwa (Edward), wedi dod i fenthyg offer gwaith coed i drwsio braich y gadair freichiau.

Byddai troi llaw at drwsio, pwytho neu ailgylchu pethau wedi bod yn ailnatur i’r rheini a fu’n byw yn ystod y rhyfeloedd. Gan fod adnoddau mor brin doedd prynu o’r newydd ddim yn opsiwn i’r rhan fwyaf. Ychydig o ddodrefn newydd a gynhyrchwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a dim ond rhai pobl fyddai’n gymwys i’w prynu gyda thalebau pwrpasol.

Ym 1941, dechreuodd Bwrdd Masnach y Llywodraeth fynd ati i ddylunio casgliad o ddodrefn utility fel rhan o’r cynllun dogni dodrefn. Y bwriad oedd creu darnau o safon, o ddyluniad syml a oedd yn rhad i’w cynhyrchu.

Cyhoeddwyd y catalog cyntaf o ddodrefn utility ym 1943 gyda chasgliad o tua thrideg darn. Dyluniwyd y dodrefn gan aelodau o'r pwyllgor ymgynghorol o dan arweiniad y dylunydd dodrefn, Gordon Russell. Roedd y dodrefn yn syml ac yn fodern, gydag ôl dylanwad y mudiad celfyddyd a chrefft (arts and crafts). Ni chynhyrchwyd dodrefn nad oedd yn cydymffurfio â safonau utility a rhoddwyd y bathodyn utility, ‘CC41’, ar bob darn fel arwydd o safon.

Gellid archebu’r dodrefn o’r catalog neu eu prynu o siopau lleol a thalwyd amdanynt gyda thalebau. Ond nid pawb oedd yn gymwys - rhaid oedd llenwi ffurflen i sicrhau trwydded cyn derbyn y talebau gwerth trideg uned. Rhoddwyd blaenoriaeth i’r rheini a oedd wedi colli eu cartrefi adeg y rhyfel o ganlyniad i'r bomiau ac i gyplau priod ifanc yn symud i gartrefi newydd, fel y prefabs.

Yn ychwanegol at ddodrefn utility byddai cyplau ifanc wedi etifeddu hen ddodrefn gan eu teuluoedd. Pwy a ŵyr, efallai mai hen gadair freichiau gan ei fam yr oedd Dwa’n mynd ati i’w thrwsio ym 1946.

Dyma fi o’r diwedd yn cael cyfle i ’sgwennu pwt o gyflwyniad i brosiect @DyddiadurKate 1946. I ble aeth Ionawr a Chwefror?! Ta waeth, roedd wythnosau cyntaf 1946 yn gyfnod prysur i Kate Rowlands hefyd. Rhwng mynychu’r capel ac ymweld â chymdogion, "ymosod a chlirio y pantri o ddifrif" a mynd ar wibdaith i weld bedd Lloyd George – roedd ei bywyd cymdeithasol mor orlawn ag erioed.

Erbyn 1946, roedd hi'n wraig briod 54 mlwydd oed, yn fam i bedwar, yn fam-yng-nghyfraith i dri, ac yn nain i Dilys Wyn. Dw i’n hynod ddiolchgar i Eilir Rowlands – wyr Kate – am gysylltu gyda rhagor o wybodaeth am hanes y teulu rhwng 1915 – 1946. Mae atgofion Eilir am ein nain yn haeddu blog ehangach, ond yn y cyfamser, dyma grynodeb o bwy di pwy yn nyddiadur 1946.

B.P – Robert Price Rowlands

Gŵr Kate – fe briododd y ddau yn Chwefror 1916.

R.E a Dwys – Robert Ellis Rowlands a Dwysan Rowlands

Ei mab hynaf a’i wraig. Roedd Dwysan yn ferch i Bob Lloyd (Llwyd o’r Bryn).

E.O (Dwa) – Edward Owen Rowlands

Y mab canol a oedd yn briod â Greta. Rhieni Dilys Wyn.

Em – Emyr Price Rowlands

Ei mab ieuengaf a oedd ar y pryd yn ddi-briod ac yn byw adref.

Es – Elsie

Ei hunig ferch a briododd yn 1944.

Mam a Dad – Alice Jane Ellis ac Ellis Ellis

Ei mam a'i llystad. Yn 1915, roedden nhw’n byw yn Ty Hen, ond erbyn 1946 roedd y ddau wedi symud i’r Hendre, sef hen gartref teulu Alice Jane.

Gyda llaw, bron i mi roi’r pennawd Helo Kitty i’r blog yma, oherwydd i bobl y Sarnau a’i theulu, roedd Kate yn cael ei hadnabod fel "Kitty Ty Hen". Mwy am hyn tro nesaf.

Cyn i ni ddechrau o ddifri ar y bennod nesaf ym mhrosiect @DyddiadurKate (oes, mae dilyniant!), yn y blog hwn mi fyddai’n ffarwelio â dyddiadur 1915 drwy gyflwyno stori Tomi’r Hendre.

Mae enw Tomi’r Hendre yn gyfarwydd iawn i’r rhai ohonoch sydd wedi dilyn @DyddiadurKate o’r cychwyn cyntaf. Ynghyd â’i chwaer Win, roedd Tomi yn ymwelydd cyson â Ty Hen – cartref Kate a’i rhieni – drwy gydol 1915. Fe’u magwyd yng Nghwm Main, ble roedd eu rhieni – John ac Ann Jones – yn rhedeg Siop yr Hendre. Mae llyfrau cyfrifon a thalebau’r busnes bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa, ac os gofiwch chi, mewn blog blaenorol, fe fues i’n trafod ymgyrch John Jones i gael blwch post cyfleus i drigolion yr ardal.

Ond i droi nôl at Tomi’r mab, yn 1915 roedd yn fyfyriwr yn y Coleg Normal ym Mangor, ac eisoes wedi hyfforddi fel athro. Yn Rhagfyr y flwyddyn honno – tri mis cyn ei benblwydd yn 21 – ymunodd â’r fyddin. Nid oes cofnod o hyn yn nyddiadur Kate Rowlands.

Erbyn Ionawr 1916, roedd Tomi wedi ei leoli gydag 21ain Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng ngwersyll hyfforddi Parc Cinmel. Wrth chwilota drwy archifau Siop yr Hendre, fe ddes i ar draws cerdyn post a anfonodd Tomi at ei rieni yn ystod y cyfnod hwn.

Derbyniais y parcel ond oherwyd[d] prysurdeb yr wyf wedi bod yn anabl i atteb [sic] o’r blaen. Yr wyf wedi symud i Hut 30 fel y gwelwch ac wedi cael fy ngwneyd [sic] yn ben arno ac felly yr wyf yn hollol gartrefol. Yr wyf yn hynod o hapus a digon o fwyd ac mewn iechyd rhagorol ac yn mynd yn dew ac yn gryf. Nid wyf yn med[d]wl y byd[d] yn rhaid imi byth fynd i’r front gan y byd[d]wn yn cael ein gwneyd [sic] yn officers… Gyrwch fy nghyllell boced a fy spectol mor fuan ag a alloch.

Er nad oedd yn rhagweld cyfnod yn y ffosydd, ym Mehefin 1916 roedd Tomi ar ei ffordd i Ffrainc. Llai na mis yn ddiweddarach, ar 20 Gorffennaf, fe’i hanafwyd yn ddifrifol yn ei frest ym mrwydr Coedwig Delville. Cludwyd Tomi i ysbyty yn Boulogne, ac yna i Ysbyty Ryfel Leith, ger Caeredin. Mae’r adroddiadau gan feddygon Leith yn anodd iawn i’w darllen. Dyma grynodeb o’i gyflwr pan gyrhaeddodd yr ysbyty ar 31 Gorffennaf.

Admitted from No 18. Gen. Hospt. Boulogne. There is a small wound size of 5/ on right side about the level of the 8th rib. Dulness all over this side absolute at base, breath sounds faint over upper lobes. Pat. states that he spat blood but only very little at first. X-ray shows piece of metal at level of 8th rib.

Bu farw Tomi’r Hendre o’i anafiadau ar 27 Awst 1916.

I hereby certify that No. 29606 Pte Thomas Jones… who died to-day of Empyeme and septicaemia… stated to me that he was wounded inaction [sic] at Delville Wood on July 20th 1916. There was a wound in right side of the chest, haemothorax and X. Ray showed a piece of metal in chest. Patient was operated upon and portion of rib resected to allow of free drainage on the 13th, but septic condition was very bad. L. Stewart Sandman M.D.

Mae’n dorcalonnus meddwl am fawredd y golled i’w deulu a’i gymdogion yng Nghwm Main. Cynhaliwyd ei angladd yng Nghefnddwysarn ar 31 Awst, ac mae’n debyg fod tad Kate yn un o’r rhai fu’n talu teyrnged iddo mewn seiat gyda’r hwyr. Cyhoeddwyd adroddiad manwl, di-flewyn-ar-dafod, am yr angladd yn Y Cymro (Lerpwl a’r Wyddgrug).

Angladd Tom yr Hendre yw y condemiad mwyaf ynddo’i hun fu ar y rhyfel yng Nghefnddwysarn… Y mae ei ysbryd caredig yng nghartref Caredigrwydd ei hun. Nid oes yno orfodaeth, nid oes yno glwyfo, nid oes yno ladd a llofruddio, nid oes yno neb yn cael ei gablu a’i regi gan ei salach. Yno y mae cydwybod yn rhydd, yno ni chlwyfir cariad mam, yno rhoddir ei le i gariad tad, yno ni chwelir cartrefi, ac yno ni thorrir calonnau.

Fel y byddai’n gwneud i goffau Hedd Wyn maes o law, cyfansoddodd R. Williams Parry – cyn ysgolfeistr y Sarnau –  englynion er cof amdano.

Ger ei fron yr afon rêd – dan siarad

Yn siriol wrth fyned;

Ni wrendy ddim, ddim a ddwed

Dan y clai nid yw'n clywed.

 

Ond pridd Cefnddwysarn arno – a daenwyd

Yn dyner iawn drosto;

A daw'r adar i droedio

Oddeutu'i fedd ato fo.

 

Mae’r flwyddyn yn dod i ben a dw i’n adlewyrchu ar ddwy ran o fy ngwaith sy’n gorffen fuan. Mae @DyddiadurKate (1915) yn gorffen yn mis yma, a fy ngwaith ar Chynllun Addysg Y Rhyfel Byd yn Cyntaf dod i ben yn Mawrth 2016.

Mae Cynllun Addysg y Rhyfel Byd yn brosiect rhwng Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n cynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion. Ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol am Gymru yn ystod y Rhyfel. Trwy’r flwyddyn, gweithiais gyda chydweithwyr o’r curaduron i’r archif i ddewis y deunyddiau gorau i fynd gyda phob thema yn y cynllun. Y themâu y gweithiais arnynt yw ‘Bywyd ar Ffrynt y Gorllewin’, ‘Meddygaeth’, ‘Cymru ar draws y Byd’ a ‘Straeon Personol’.

Ar y prosiect @DyddiadurKate, dwi’n casglu'r ystadegau o Twitter a ‘di creu dau flog, un ar recriwtio yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac un ar alcohol a dirwest. Trwy’r flwyddyn mwynheais y gweithgareddau dyddiol ar y blogiau gahanol gan y curaduron a’r archif, oedd yn rhoi mwy o wybodaeth am y prosiect.

Yn Hydref ces y cyfle i ddod â’r ddau brosiect at ei gilydd, yn yr adnodd ‘Straeon Personol’. Mae’r adnodd yn edrych ar bobl dros Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac effaith y rhyfel arnyn nhw. Roedd stori Kate Ellis yn rhoi cyferbyniad i straeon milwyr a nyrsus, i ddangos bywyd sifiliad. Un peth sy’n ddiddorol imi yw fod pobl yn ymladd yn y rhyfel, ac ar yr un pryd, roedd llawer o’r gweithgareddau dyddiol Kate yn cario ‘mlaen heb lawer yn newid.

Dyw’r adnoddau ‘Straeon Personal’ a 'Cymru ar Draws y Byd' ddim ar yr HWB eto, ond mae llawer o’r adnoddau arall lan nawr. Dilynwch y linc i HWB i ddefnyddio’r adnoddau am ddim.