Amgueddfa Cymru

Hafan

Blog yr Amgueddfa

Amgueddfa Cymru

Dim ond pythefnos i fynd Cyfeillion Gwanwyn!

Penny Tomkins, 13 Mawrth 2015

Helo Gyfeillion y Gwanwyn,

Wel, rydych chi wedi bod yn brysur! Rwyf wedi derbyn 75 o gofnodion blodeuo dros yr wythnos ddiwethaf, sy'n creu cyfanswm o 175 planhigyn wedi blodeuo!

I'r rhai ohonoch sy’n dal i aros am eich blodau dyma rai awgrymiadau:

  1. Bydd eich planhigyn wedi blodeuo pan fyddwch yn gallu gweld yr holl betalau, heb y casyn allanol sy'n eu diogelu tra eu bod yn datblygu (gweler y llun ar y dde).
  2. Cofiwch fesur mewn mm!
  3. Mesurwch o bwynt uchaf y pot i bwynt uchaf y blodyn.
  4. Cofiwch gofnodi'r dyddiad wrth rannu gwybodaeth flodeuo ar wefan Amgueddfa Cymru!
  5. Gadewch sylwadau wrth wneud cofnodion, dyma eich cyfle i ddweud wrthyf beth ydych chi wedi’i fwynhau neu beidio am y project!
  6. Rhannwch eich lluniau! Rwyf wedi rhannu lluniau ysgolion ar Twitter. Os nad yw eich ysgol yn defnyddio Twitter gall eich athro neu athrawes e-bostio lluniau i mi.

Does dim llawer i fynd nawr! Dim ond dwy wythnos o gasglu a chofnodi data tywydd sydd ar ôl!

Cofiwch, y 27ain o Fawrth yw'r diwrnod olaf i gofnodi eich data tywydd. Mae'n rhaid i chi wneud hyn er mwyn ennill eich tystysgrifau Gwyddonydd Gwych a chael cyfle i ennill taith natur yn yr amgueddfa!

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn,

Athro’r Ardd

Eich cwestiynau:

Your comments:

The Blessed Sacrament Catholic Primary School: We were very excited this week as there were lots of buds on our crocuses. The weather has been getting warmer and today the first crocus flowers opened in the sunshine and we had to measure them carefully, H and J. Prof P: Well done H and J! I hope you have enjoyed studying the development of your plants. There are other experiments you can do that demonstrate how your flowers respond to light and heat. I will send these to your teacher but you can also find them on the website under ‘Professor Plant’s investigation ideas’. Keep up the good work!

Rivington Foundation Primary School: On Monday we had snow! And on Thursday we were on a school trip. Prof P: Well Rivington Foundation Primary School, you’ve had quite an exciting week! And you still managed to document your weather records, thank you very much!

Stanford in the Vale Primary School: Still no sign of bulbs in pots flowering yet, we think the ones in the ground are doing better, as the roots have more space to grow, unlike the pots which have restricted space! It’s lovely and sunny here today, with a good sunny forecast for the weekend. When we return to school on Monday we should hopefully start to see our bulbs flowering. Prof P: Hi Stanford in the Vale Primary, I’m pleased to hear that you are observing other plants and discussing the effects of environment on growth and development. I hope the sun over the weekend spurs on your plants, it shouldn’t be long now so watch them closely!

Our Lady of Peace Primary School: The bulb's still have not came out yet but one of them is almost out. Prof P: It shouldn’t be long now Our Lady of the Peace Primary! Watch the flower buds carefully to see how they open. The spathe will begin to split lengthways as the bud grows! If your teacher has a camera you might be able to take pictures that show the different stages of the bud flowering!

Thorn Primary School: We are very sorry but we were unable to submit plants data this week as there was building work taking place at school and we could not safely get to the thermometer and rain collector. We will be fine to collect our data this week. Prof P: Thank you for letting me know Thorn Primary School, and not to worry! I look forward to seeing your data next week.

Our Lady of Peace Primary School: My name is T and my flower was first to open. It was outside when it opened but when we brought it inside it opened even more. We were amazed. Even our teacher was amazed. Prof P: Hi T. I’m glad that you have been studying your plants so closely, they are fascinating things! Did you discuss why the flower reacted to being moved inside? I suspect your classroom was a lot warmer than the playground!!

Swiss Valley School: Hello how do we record the mystery bulbs please? Prof P: Hi Swiss Valley School. You can record the mystery bulbs flowering dates for your own records in the class room, but there is no need to record them on the NMW website. Schools that are taking part in the Edina Trust extension projects were given an extra 20 daffodil bulbs to plant in the ground, and those schools are asked to document the flowering dates for these on the Edina Trust website. This is so that they can compare the flowering dates of those in the ground to those in pots and think of reasons why these might be different. Have you noticed differences in the development of your mystery bulbs to your bulbs in pots? Can you think of reasons for this?

Ysgol Iau Hen Golwyn: We enjoyed measuring them. Prof P: I’m glad to hear that you are enjoying the project Ysgol Iau Hen Golwyn! Keep up the good work.

Stanford in the Vale Primary School: All our crocus have flowered and they are looking so pretty. What a lovely week of warmer weather, and finally the rain came today, we are so in need of more rain.....we looked at the weather data as a group and noticed Oxfordshire have had little rain this year! Prof P: Hi Stanford in the Vale Primary. What a lovely post, and it’s nice to see a positive spin on rain! I’m glad that you are using the resources on the map to study readings from other schools! You can also use the Met Office WOW website to look at readings in other areas.

Os edrychwch yn ofalus ar y llun gallwch weld mai dim ond un o fy Nghennin Pedr sydd wedi agor. Mae'r lleill yn dal wedi’u gorchuddio’n rhannol neu’n gyfan gwbl gan haen amddiffynnol a elwir yn amddalen.

Sul y Mamau

Sara Maidment, 11 Mawrth 2015

Ar Sul y Mamau, beth am ddiolch i Mam gydag anrheg o siop Amgueddfa Cymru?

Gallwch roi ‘cwtch’ neu ddweud ‘da iawn’ gyda’n bagiau denim newydd, sy’n berffaith i fynd i siopa neu gario colur. Mae’r denim tywyll a gwydn yn cyferbynnu â’r testun lliwgar. Prynwch y bag mawr a’r pwrs gyda’i gilydd i arbed £6.

Wedi’i gynhyrchu’n arbennig ar gyfer Amgueddfa Cymru.

Rydym wrth ein bodd gyda'r darlun hwn gan Charles Sims, ‘Y Barcut’. Gyda’r gwasanaeth argraffu ar alw ar ein gwefan, gallwn argraffu hwn a sawl darlun arall o famau a phlant, a’u dosbarthu i’ch cartref.

Mae’r mwclis pres dwbl hyfryd hyn wedi’u creu yn arbennig ar ein cyfer gan y cwmni gemwaith o Gaerdydd, Noa, ac yn defnyddio manylyn o gynllun cwilt gwreiddiol o'r casgliad tecstilau yn Sain Ffagan. Mae’r mwclis hyn a mwy ar gael yn ein siop ar-lein.

Mae’r catalog hyfryd hwn wedi’i seilio ar arddangosfa o dirluniau Prydain o gasgliadau Amgueddfa Cymru, ac mae’n cynnwys gweithiau gan Turner, Monet, Constable a Piper. Anrheg berffaith i unrhyw un sy’n caru celf. Chwiliwch drwy’r adran lyfrau am fwy o gyhoeddiadau am ein casgliadau celf syfrdanol.

Hacio'r Iaith - Cyflwyno Kate

Sara Huws, 10 Mawrth 2015

Ro'n i'n falch iawn (a braidd yn nerfus) i fynychu Hacio'r Iaith am y tro cyntaf dros y penwythnos. Mae'r diwrnod ar fformat barcamp - sy'n gofyn bod pawb yn dod â rhywbeth i'w drafod, ei gyfrannu neu'i gyflwyno. Canlyniad hyn oedd diwrnod llawn ymgysylltu, dysgu a hwyl - mi oedd bron bob sgwrs yn sesiwn yn ei hun, a mi ddysgais i gymaint am blatfformau a phrosiectau digidol Cymraeg. Dwi ar fy ffordd i sesiwn Digidol ar Daith, felly gobeithio y gallai bostio crynodeb fwy trylwyr o beth ddysges i yn fuan.

Er fy mod i wedi hen arfer siarad yn gyhoeddus, dyma fy sgwrs gyntaf ar ran yr adran ddigidol - ac am fy mod yn cyflwyno am @DyddiadurKate, roeddwn i'n awyddus i wneud argraff dda ar ran y tîm sy'n gweithio mor galed ar y prosiect. Cewch edrych dros fy sleidiau, a chrynodeb o'r sgwrs ar wefan Hacio'r Iaith. Cewch chwilio trwy #fwrlwm y dydd ar twitter hefyd.

Diolch i'r trefnwyr a'r cyfrannwyr am y croeso, ac am yr ysbrydoliaeth!

fformat cyfarfod grid agored
Grid agored yn llenwi'n araf bach - cyflwyniad DyddiadurKate yn cyfredeg â sesiwn at ystadegau twitter yn Gymraeg, a robot sy'n deall gorchmynion yn iaith y nefoedd.
clawr dyddiadur o 1915
Clawr @DyddiadurKate

wyna - gwir pob gair

Bernice Parker, 10 Mawrth 2015

·         Ar hyn o bryd mae gennym tua 100 o ddefaid magu felly rydyn ni’n disgwyl dros 150 o wyn.

·         Mae’n defaid ni’n ddwyflwydd oed yn wyna am y tro cyntaf.

·         Mae dafad yn feichiog am 5 mis:

  • maen nhw’n dod i’w tymor ym mis Medi
  • rydyn ni’n rhoi’r hyrddod mewn gyda’r defaid ar 1 Hydref
  • bydd cyfnod wyna yn cychwyn ddechrau mis Mawrth
  • ni sy’n dewis y drefn yma er mwyn cael wyn i’w gweld yn y caeau dros y Pasg.

·         Mae’r defaid beichiog yn dod mewn o’r caeau’n syth ar ôl y Nadolig er mwyn cael lloches, bwyd a gofal ychwanegol. Mae hyn yn bwysig ar gyfer datblygiad yr wyn.

·         Maen nhw’n cael eu sganio yn y flwyddyn newydd er mwyn eu gwahanu i ddau grwp:

  • y rhai sy’n disgwyl oen sengl
  • a’r lleill sy’n disgwyl gefeilliaid neu dripledi.

·         Pen a choesau blaen yn arwain ydy’r ffordd arferol i oen gael ei eni. Os felly, mae’r defaid fel arfer yn gallu ymdopi heb unrhyw gymorth. Ond weithiau bydd angen ychydig o help os yw’r oen yn fawr, neu’n dod allan am yn ôl.

·         Wedi bwrw, bydd y ddafad a’i hwyn yn mynd mewn i gorlan ar wahân:

  •  er mwyn sefydlu perthynas famol
  •  i atal defaid heb eu bwrw rhag ‘mabwysiadu/dwyn’ oen dafad arall.

·         Maen nhw’n aros ar wahân am 1-2 diwrnod.

·         Mae defaid a’u hwyn sy’n iach yn cael mynd allan i’r caeau ar ôl 3-5 diwrnod – os yw’r tywydd yn caniatáu.

·         Mae’n beth arferol i weld rhywfaint o waed a slwtsh o gwmpas pen ôl dafad sydd wedi bwrw yn ddiweddar.

·         Mae’n beth arferol i wyn newydd gysgu llawer – rhyw 12-16 awr y dydd.

·         Bydd y rhan fwyaf o’r wyn benywaidd yn aros gyda ni neu’n cael eu gwerthu fel defaid pedigri. Bydd yr wyn gwrywaidd yn mynd i’r lladd-dy am eu cig, gyda chwpl o’r goreuon yn cael eu gwerthu fel hyrddod.

·         Mae’r cig oen ar eich plât yn 4-12 mis oed.

camau cyntaf oen llanwenog

Oen llanwenog newydd

gefeilliad newydd Llanwenog

@DyddiadurKate - Anturiaethau'r peiriant dyrnu

Elen Phillips, 9 Mawrth 2015

A ninnau bron ar derfyn 3 mis cyntaf @DyddiadurKate, mae un ‘cymeriad’ wedi chwarae rhan blaenllaw iawn yng nghofnodion yr wythnosau diwethaf sy’n haeddu bach o sylw ar y blog – y peiriant dyrnu. Rhwng Ionawr a Mawrth 1915, bu’r peiriant hwn ar grwydr i sawl ffermdy gerllaw cartref Kate a’i theulu. Ynghyd â mynychu’r capel, corddi a chrasu, hynt a helynt y peiriant dyrnu yw un o brif weithgarwch y dyddiadur hyd yma. Ond diolch amdano. Arferion amaethyddol fel hyn sy’n gwreiddio’r dyddiadur o fewn cymuned a chyfnod.

18 Ionawr – Yr injan ddyrnu yn Llwyniolyn

23 Ionawr – Ellis yn Tynybryn gyda’r peiriant dyrnu

30 Ionawr – Y peiriant dyrnu yn Penycefn

2 Mawrth – Yr injan ddyrnu yn y Derwgoed

4 Mawrth – Ellis yn mynd i Fedwarian at y peiriant dyrnu

Yma yn Sain Ffagan, mae sawl un mwy cymwys na fi i drafod peiriannau dyrnu. Un o fy mhrif ddiddordebau i fel curadur yw hanes prosesau casglu – y dulliau hynny a ddefnyddwyd gan Iorwerth Peate, Ffransis Payne, Minwel Tibbott ac eraill i roi hanes Cymru ar gof a chadw. Mewn blog blaenorol, soniais am waith arloesol yr Amgueddfa ym maes cofnodi hanes llafar – bu Kate Rowlands ei hun yn destun sawl cyfweliad. Dull poblogaidd arall a fabwysiadwyd gan yr Amgueddfa i gasglu data oedd holiaduron a llyfrau ateb. Roedd y rhain yn cael eu gyrru at unigolion o fewn plwyfi yng Nghymru yn gofyn am wybodaeth benodol ynglyn ag arferion eu milltir sgwâr. Mae casgliad helaeth ohonynt yma yn trafod amrywiol bynciau – meddygyniaethau gwerin, arferion tymhorol ac ati. I’r un perwyl, mae gennym hefyd bentwr o lythyrau ac ysgrifau.

Tra’n chwilota am ddeunydd yn yr archif o ardal y Sarnau, Cefnddwysarn a bro @DyddiadurKate, fe ddes i o hyd i ysgrif gan Mary Winifred Jones o’r Hendre, Cwm Main. Bydd mwy ar y blog cyn hir am y teulu hwn – mae tad a brodyr Mary yn cael eu crybwyll sawl gwaith yn y dyddiadur. Ysgrif yw hon sy’n disgrifio ffotograff o ddiwrnod dyrnu ar fferm Pentre Tai’n y Cwm, Cefnddwysarn. Gallwch weld y llun a’r ysgrif fan hyn. Tybed os mai hwn yw’r peiriant dyrnu y mae Kate yn sôn amdano?

Ar fuarth fferm Seimon Davies Pentre Tai yn Cwm Cefnddwysarn y tynwyd y darlun hwn. Perchenog y peiriant oedd Morgan Hughes Bryniau Cynlas ar ol hyny. Bu y peiriant yn gyfrwyn i roi gwaith i amryw amaethwyr bychain yn ystod y gaeaf pan oedd ychydig yn dod i fewn am fod ganddo ychwaneg nag un peiriant yr oedd yn rhaid cael dau ddyn i ganlyn pob un sef y gyrwr ar porthwr…

Yr hyn sy’n dod yn amlwg wrth ddarllen atgofion Mary Jones, ac yn wir dyddiadur Kate Rowlands, yw pwysigrwydd cydweithio o fewn cymuned amaethyddol – cymdogion a ffrindiau, hen ac ifanc, yn cynorthwyo’i gilydd.

Oedolion a phlant yn sefyll o amgylch peiriant dyrnu ar fferm Tai'n y Cwm, Cefnddwysarn.

Dyrnu ar fferm Tai'n y Cwm, Cefnddwysarn, 1900au cynnar.

Ysgrif mewn llawysgrifen yn disgrifio darlun o ddiwrnod dyrnu yn Tai'n y Cwm, Cefnddwysarn (AWC 1510/36).

Copi o ysgrif gan Mary Winifred Jones yn disgrifio darlun o ddiwrnod dyrnu ym Mhentre Tai'n y Cwm, Cefnddwysarn (AWC 1510/36).

Copi o ysgrif gan Mary Winifred Jones yn disgrifio darlun o ddiwrnod dyrnu ym Mhentre Tai'n y Cwm, Cefnddwysarn (AWC 1510/36).

Copi o ysgrif gan Mary Winifred Jones yn disgrifio darlun o ddiwrnod dyrnu ym Mhentre Tai'n y Cwm, Cefnddwysarn (AWC 1510/36).