Amgueddfa Cymru

Hafan

Blog yr Amgueddfa

Amgueddfa Cymru

Hafan y Blog

Gwaith ar ailddatblygiad Sain Ffagan yn parhau

David Anderson, 24 Awst 2011

Diwedd wythnos diwethaf, treuliais ddiwrnod gyda Gr?p Dehongli Sain Ffagan yn edrych ar gynlluniau ar gyfer y orielau newydd arfaethedig. Mae'n gyffrous i weld y prosiect yn symud ymlaen wrth i ni ddechrau trafod sut bydd yr orielau yn edrych a beth allai ei gynnwys fel rhan o'r arddangosfeydd. Ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio cael dwy oriel - un am Hanes Cymru ac un am sut mae pobl yn byw. Bydd angen i ni hefyd sicrhau bod digon o le ar gyfer ardal arddangosfeydd dros dro. Mae yna gymaint o storïau diddorol a phwysig i'w dweud, ac rydym yn ymwybodol na all pob un ohonynt gael eu cynnwys fel rhan o oriel parhaol. Felly, mae'n hanfodol bod gennym le o ansawdd uchel i gynnal amrywiaeth eang o arddangosfeydd. Yn bersonol, byddwn i'n hoffi gweld ar ryw adeg yn y dyfodol arddangosfa arall am blentyndod yng Nghymru yn ogystal â hanes gwleidyddol Cymru. Mae'r posibiliadau yn ddiddiwedd, ac rydym yn hapus i wrando ar unrhyw syniadau sydd gennych hefyd!

Dros y penwythnos, cymerais beth i ymlacio ac fe fum yn Glyndebourne i weld cynhyrchiad o Rinaldo gan Handel . Roedd y canu yn odidog ac roedd yn gynhyrchiad gwych, yn cyrraedd y safon uchel byddai rhywun yn disgwyl yn Glyndbourne. Yr oedd, fodd bynnag, yn gynhyrchiad eithaf gwahanol. Roedd y Cyfarwyddwr wedi penderfynu diweddaru'r cynhyrchiad fel bod ei fod wedi ei selio ar y thema ysgolion bechgyn yn erbyn ysgolion merched yng nghanol yr ugeinfed ganrif. Roedd Rinaldo yr arwr erbyn hyn yn fachgen ysgol oedd yn cael ei fwlio gan ei gyfoedion cyn cael ei gludo i fyd ffantasi, lle wedyn daeth yn arwr. Er ei fod yn gynhyrchiad diddorol, mae'n rhaid i mi gyfaddef fod yn well gen i fersiwn Handel ond serch hynny fe wnes i fwynhau'r hiwmor y cynhyrchiad yn Glyndebourne.

Gadael sylw