Amgueddfa Cymru

Hafan
Hafan y Blog

Fel y gallwch ddychmygu, mae wedi bod yn amser prysur ym mhob un o'n amgueddfeydd gan ei bod yn wyliau ysgol. Mae'n wych gweld yr holl amgueddfeydd yn llawn o bobl ac, ers mynediad am ddim, mae'n golygu bod ymweld ag amgueddfa genedlaethol yn fforddiadwy ar gyfer yr holl deulu. Rydym wedi bod yn brysur gyda digwyddiadau hefyd, megis ein presenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam. Roedd yr haul yn tywynnu ar y rhan fwyaf o ddyddiau, ac roedd yna awyrgylch hyfryd. Roedd ganddom ni stondin ac roedd llawer o ddiddordeb yn yr arddangosfa oedd gennym yn ymwneud â'r ardal. Roedd yn gyfle i ni annog ymwelwyr i ymweld â'r amgueddfa yn Wrecsam, lle mae gennym arddangosfa, yn ogystal ag ymweld â phob un o'r amgueddfeydd cenedlaethol. Er mai prif ffocws yr wythnos oedd ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch ailddatblgyiad Sain Ffagan, cawsom hefyd lansiad llwyddiannus o'r rhifyn diweddaraf o'r cylchgrawn Glo. Roedd y Gweinidog, Huw Lewis, yn bresennol fe wnaeth ein helpu i lansio'r cylchgrawn. Mae'r ymateb i'r cynnwys wedi bod yn wych. Mae cael presenoldeb mewn digwyddiadau cenedlaethol megis yr eisteddfod yn hanfodol i'n gwaith, gan ei fod yn caniatáu i bobl nad ydynt yn byw yn agos at unrhyw un o'n safleoedd i brofi'r casgliadau cenedlaethol a chymryd rhan yn ein gwaith.

Ar fy ffordd yn ôl o Wrecsam, ymwelais ag Amgueddfa Hanes y Bobl ym Manceinion. Roeddwn wedi fy rhyfeddu gan y ffordd y mae'n llwyddo i adrodd hanes gwleidyddol o safbwynt y bobl. Mae'r graffeg yn gweithio'n arbennig o dda, a roddodd rhai syniadau imi ar gyfer ailddatblygiad Sain Ffagan.

Roeddem yn freintiedig iawn i allu croesaw artistiaid o Chongqing yn Tsieina yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel rhan o wythnos Chongqing yng Nghymru. Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol yma hefyd, ac roedd yn wych cwrdd â ffrindiau o Tsieina oedd wedi helpu gyda'r arddangosfa Dazu yn gynharach yn y flwyddyn. Roedd ein ymwelwyr wrth eu boddau gyda gwaith yr artistiaid yn ogystal â'r arddangosfa o luniau. Y gobaith yw y bydd hyn yn ddigwyddiad blynyddol, ac rydym yn gobeithio croesawu artistiaid eraill o Chongqing yn y dyfodol.

Gadael sylw