Amgueddfa Cymru

Ymchwil phlanhigion is

[delwedd: Adolygu]

Adolygu bryoffytau afon Gwy

Mae gwaith ymchwil wrthi’n cael ei gynnal mewn tri phrif faes ymchwil tacsonomeg mewn perthynas â phlanhigion is. Gallwch weld prosiectau ymchwil trwy glicio ar y dolenni isod o dan yr adran berthnasol.

Caiff unrhyw waith moleciwlaidd a gyflawnir sy’n canfod cod genetig ei anfon i Genbank

Prosiectau Ymchwil Diatomau

Staff: Ingrid Jüttner

  • Monitro adferiad nentydd ar ôl asideiddio yn ardal Gwy
  • Ffloras diatomau dŵr croyw Ynysoedd Prydain
  • Tacsonomeg, ecoleg a bioddaearyddiaeth diatomau o gynefinoedd isawyrol
  • Amrywiaeth diatomau mewn ecosystemau dŵr ffres yn Nepal

» Mwy am Prosiectau Ymchwil Diatomau

Prosiectau Ymchwil Bryoffytau

Staff: Ray Tangney ac Alan Orange

  • Monitro adferiad nentydd ar ôl asideiddio yn ardal Gwy
  • Amrywiaeth Morffolegol a Molecylaidd mewn Marsupella emarginata
  • Triniaethau tacsonomaidd Fflora Mwsog Seland Newydd
  • Systemateg mwsog plu (pleurocarpous): Isothecium

» Mwy am Prosiectau Ymchwil Bryoffytau

Prosiectau Ymchwil Cen y Cerrig

Staff: Alan Orange

  • Verrucaria dŵr ffres
  • Y grwpiau Verrucaria dolosa a Verrucaria murina
  • Tacsonomeg rhywogaethau 'brown' o Verrucaria ym Mhrydain
  • Verrucariaceae o Nepal
  • Adolygiad byd-eang o Verrucariaceae

» Mwy am Prosiectau Ymchwil Cen y Cerrig

British Pyrenocarpous Lichens

Alan Orange (2008)

Dyma ganllaw anffurfiol i adnabod cen gyda pherithecia (cyrff hadol sy’n agor gyda mandwll). Fe’i paratowyd yn wreiddiol ar gyfer gweithdy Cymdeithas Cennau Prydain, ‘Pyrenocarps on Rock’, a gynhaliwyd yn y Blencathra Field Study Centre, Keswick, Cumbria, rhwng 26 Awst a 2 Medi 2006.

» Lawrlwythwch y canllaw hwn yma.

Noder bod hon yn ffeil sip fawr (6Mb) felly gall gymryd cryn amser i’w lawrlwytho. Os na allwch chi lawrlwytho’r ffeil fawr hon, cysylltwch ag Alan Orange.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.