Molysgiaid

[delwedd: Mollusca]

[delwedd: ]

[delwedd: British Molluscs]

Y molysgiaid yw un o’r grwpiau mwyaf o anifeiliaid sy’n bodoli heddiw.

Mae molysgiaid yn byw ym mhedwar ban y byd, mewn pob math o amgylcheddau ar y tir ac yn y dŵr. Mae cofnod ffosil ohonynt yn dyddio o’r cyfnod Paleosöig (rhyw 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Mae gan y rhan fwyaf rhyw fath o gragen sy’n amgáu neu’n ategu eu cyrff meddal, ond mae’r amrywiaeth o wahanol ffurfiau yn enfawr. Molysgiaid yw malwod a gwlithod (a’u cymheiriaid yn y dŵr), cregyn bylchog, misglod (cregyn glas), wystrys, cyrn y fuwch, llau môr, môr-lewys ac octopysau. Mae o leiaf 80,000 o rywogaethau cydnabyddedig, a nifer fawr ohonynt heb eu disgrifio eto.

Mae llawer o folysgiaid o bwys cymdeithasol, meddygol ac economaidd. Ers lawer dydd, bu’r gwahanol grwpiau yn ffynonellau bwyd, perlau, tlysau, llifynnau, calsiwm a hyd yn oed defnydd, ac fe’u defnyddiwyd hefyd ar gyfer prynu a gwerthu. Mae rhai mathau o falwod yn trosglwyddo parasitiaid sy’n achosi afiechyd, tra bod eraill yn cynhyrchu mathau o wenwyn a ddefnyddir mewn meddyginiaeth heddiw. Mae sawl rhywogaeth o folysgiaid mewn perygl mawr o ddiflannu o’r byd, tra bod eraill yn adnabyddus fel plâu. Rydyn ni’n lledaenu gwybodaeth am y pethau hyn mewn arddangosfeydd, a thrwy brojectau addysg ac ymchwil.

Yr enw ar y gwaith o astudio molysgiaid yw malacoleg, sy’n cyfeirio at y corff meddal, a’r enw arall yw cregynneg, sy’n cyfeirio at y cregyn. Mae Adran Molysgiaid BioSyB yn gwneud gwaith ymchwil sy’n cysylltu’r ddau, ar sail ein casgliadau sych, y sbesimenau sy’n cael eu cadw mewn hylif, y rhai sydd wedi eu rhewi a’n llyfrgell helaeth. Mae gan yr Amgueddfa hanes hir o waith ymchwil yn y maes hwn, sy’n dyddio nôl i gyfnod ei Chyfarwyddwr cyntaf, Dr W. E. Hoyle, a fu’n gweithio ar seffalopodau (môr-lewys ac octopysau) Prydeinig a byd-eang. Yn y traddodiad hwn, rydyn ni’n parhau i wneud gwaith ymchwil ym maes tacsonomeg glasurol, systemateg modern, biodaearyddiaeth a bioleg molysgiaid sydd mewn perygl. Mae ein hallbwn yn cynnwys papurau mewn cyfnodolion gwyddonol sy’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid ynghyd â monograffau yng nghyfres BioMôr / BioTir yr Amgueddfa. Rydyn ni’n gweithio hefyd ar hanes malacoleg, yn dylunio offer tacsonomig ac yn cynnal cyrsiau hyfforddi er mwyn helpu pobl eraill i adnabod ac astudio molysgiaid.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.