Rydych chi yn:  >   > 

Teuluoedd Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae Big Pit yn cynnig teithiau tanddaearol i deuluoedd drwy gydol y flwyddyn.

Rhaid i blant fod yn fetr o daldra i fynd dan ddaear. Mae'r daith danddaearol yn para tua 50 munud gyda ymwelwyr yn cerdded tua 700 llath gan wisgo helmet a lamp sy'n pwyso 5 cilogram.

Mae'r Orielau Glofaol yn dangos sut y cloddir am lo heddiw, a bydd y plant yn siŵr o fwynhau y synau a'r fflachiadau cymaint â neb o'r teulu.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys teithiau darganfod a phecynnau gweithgaredd (arbennig o addas i blant ifanc), sydd ar gael am ddim drwy wneud cais yn y Dderbynfa.

Mae rhaglen fwy cynhwysfawr o weithgareddau i'r teulu yn ystod gwyliau ysgol yn cynnwys gweithgareddau crefft, adrodd straeon a gwisgo fel glowyr bach.

Digwyddiadau i'r Teulu

Arddangosfeydd

Dyddiad DigwyddiadManylion
Gorffennaf 19 2014–Chwefror 8 2015Pabi'r CoffáuPawb / Am ddim

Digwyddiadau

Dyddiad DigwyddiadManylion
2731 Hydref 2014Gweithgareddau Hanner Tymor a Chlwb Archwilwyr Bach y PwllTeuluoedd / Am ddim
14 Rhagfyr 2014Digwyddiad Nadolig Babis Big Pit Teuluoedd / Am ddim
20 Rhagfyr 2014Sion Corn yn y PwllTeuluoedd / Am ddim

Cyfleusterau

Siop Big Pit

Mae cyfleusterau newid babi ar gael ym mhob toiled.

Siop yr Amgueddfa

Darperir detholiad pwrpasol o deganau plant ac ystod eang o lyfrau, printiau a chardiau post.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.