Amgueddfa Cymru

Ar Wyneb Daear

[delwedd: ]

Ydych chi erioed wedi cyffwrdd â gwrthrych o'r gofod? Bellach, gall disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru ddysgu mwy am feteorynnau, difodiannau torfol a chreigiau ar y Ddaear, y Lleuad a Mawrth gan ddefnyddio sbesimenau go iawn.

Gallant hefyd roi cynnig ar greu craterau ardrawiadau unrhyw le yn y byd, gan ddefnyddio rhaglen gyfrifiadurol newydd. Pam na rhoi cynnig arni eich hunan?

Gall ysgolion benthyg meteorynnau, creigiau o Ddaear, y Lleuad a Mawrth a ffosilau deinosaur gan Amgueddfa Cymru - Casgliad Gwaith Allanol Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Gyda phob un o'r setiau trafod ceir cynlluniau gwersi ar gyfer athrawon gwyddoniaeth.

'Wrth drafod meteorynnau go iawn ac archwilio hanes digwyddiadau dramatig fel difodiant torfol y deinosoriaid, bydd plant yn deall pa mor gyffrous y gall gwyddoniaeth a mathemateg fod.'

Sut i fenthyca deunydd

Am fwy o wybodaeth: jana.horak@museumwales.ac.uk

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.