Mauricio Dias a Walter Riedweg

Dias & Riedweg — Sugar Seekers

Mauricio Dias & Walter Riedweg

Sugar Seekers

(2004)
© Dias a Riedweg

Llawr Cyntaf, Celf yng Nghymru

Crefft Mauricio Dias a Walter Riedweg yw sgwrsio gyda phobl, fel unigolion ac fel aelodau o grwpiau cymdeithasol. Maen nhw'n ymddiddori mewn dialog ac yn dechrau sgwrsio â phobl mewn gwahanol rannau o'r byd, gan ddal profiadau, ‘cyflwr ysbryd' pobl a syniadau personol. Gan ddefnyddio camera fideo, maen nhw'n cydweithio i edrych ar y ddynoliaeth yn ei holl ffurfiau, yn ddaearyddol ac yn gymdeithasol. Maen nhw wedi creu gwaith gyda phlant y stryd yn Rio de Janeiro, hen ymfudwyr ym Mharis, porthwyr fflatiau yn Sao Paulo a'r bobl sy'n goruchwylio'r ffin rhwng Mecsico a'r UDA. Mae'r holl bobl hyn yn gwneud cyfraniad ymarferol at y gwaith – yn dogfennu, yn cyffesu, yn holi ac yn ateb. Wrth ddewis pobl i sgwrsio â nhw, mae Dias a Riedweg yn ymateb i'r lle neu'r cynefin lle maen nhw'n eu ffeindio'u hunain.

Mae Mauricio Dias o Frasil, a Walter Riedweg o'r Swistir, wedi bod yn cydweithio ers 1993, yn datblygu projectau'r celfyddydau gweledol a pherfformio gyda'r cyhoedd. Mae eu gwaith yn cynnwys deunydd dogfennol yn ogystal â sefyllfaoedd gwneud, sy'n cael eu cyflwyno'n ffurfiol fel gosodweithiau fideo. Mae eu sgyrsiau'n symud rhwng eu testunau, rhyngddyn nhw fel dau unigolyn a rhwng y cyhoedd neu ymwelwyr yr amgueddfa. Fel mewn unrhyw sgwrs, daw ystyr y peth o gyfuniad o ba wybodaeth sy'n cael ei rhoi, a'r teimladau mae hyn yn eu corddi ynom ni.

Cysylltiadau Gwe

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.