Y Rhufeiniaid

Wrth geisio gorchfygu Prydain, daeth y Rhufeiniaid wyneb yn wyneb â llwythau Cymru - gwrthwynebwyr glew. Yr oedd y brwydrau yn aml yn chwerw, ac ni ildiodd Cymru gyfan tan OC 78. Roedd rheolaeth filwrol lem dros Gymru drwy gyfrwng rhwydwaith o geyrydd lle'r oedd milwyr o unedau cynorthwyol dan reolaeth y ddwy leng yng Nghaerllion a Chaer. Mae gennym gasgliadau o bwysigrwydd rhyngwladol o'r gaer lengol yng Nghaerllion , sef canolfan yr Ail Leng Awgwstaidd, a'r gaer a'i rhagflaenodd ym Mrynbuga gerllaw. Mae'r casgliadau hyn yn cael eu cadw yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion.

Yr oedd angen pentwr o adnoddau ar y llengoedd, a bu'r storfa yn Holt yn cyflenwi crochenwaith yn ogystal â theils a brics adeiladu ar gyfer yr Ugeinfed Lleng yng Nghaer. Mae ganddom gasgliadau mawr o ddarganfyddiadau o nifer o geyrydd cynorthwyol, gan gynnwys Aberhonddu, Caernarfon (Segontium) , Caersws, Gelli-gaer/cms:features:link>, Casllwchwr a Phen Llystyn.

Pen Rhufeinig

Yng nghyfnod y Rhufeiniaid, yr oedd llawer o gloddio am fetelau yng Nghymru. Yn Nolau Cothi roedd llawer o aur, a defnyddid peth ohono yn lleol i wneud gemwaith. Yng ngogledd-ddwyrain Cymru ceid llawer o blwm ac yr oedd copor ar gael yng ngogledd a de Cymru. Mae llawer o ingotau yn y casgliad sy'n dyst i'r mwyngloddio hwn. Yng nghyfnod y Rhufeiniaid hefyd yr oedd cloddio ar haearn, llechi a cherrig eraill ac, i raddau llai, glo.

Ymhen amser, lle bynnag yr oedd modd, cwtogwyd ar niferoedd y milwyr yn y byddinoedd. Erbyn y drydedd a'r bedwaredd ganrif, prin oedd y ceyrydd lle ceid milwyr. Yn y de, fe roddwyd math o hunanlywodraeth i'r llwythau, gyda'u cyngor eu hunain. Ond fe barhaodd gweddill Cymru dan reolaeth filwrol fwy neu lai yn barhaol. Caer-went , sef Venta Silurum i'r Rhufeiniaid, oedd y ganolfan weinyddol a thref farchnad y Silures, ac rydyn ni'n astudio casgliad mawr o ddarganfyddiadau o waith cloddio diweddar yn y safle hwnnw.

Yng nghefn gwlad, yn enwedig ar arfordir y de, yr oedd ffermydd a filâu, oedd ambell dro yn gartref i'r cyfoethog a'r llwyddiannus. Yn y casgliadau mae darganfyddiadau o filas a ffermydd yn Llanilltud Fawr, Trelái, Llandochau, Llanddewi yn Hwytyn a Biglis. Ychydig oedd yn byw yn ardaloedd mynyddig Cymru a phrin yw olion y traddodiadau Rhufeinig ar y ffermydd brodorol; y ty crwn oedd y ty arferol o hyd. Mae offer amaethyddol o'r safleoedd hyn yn dangos eu bod yn tyfu cnydau, a cheir arwyddion o fugeilio gan esgyrn gwartheg, defaid a moch.

Roedd crefydd ym Mhrydain adeg y Rhufeiniaid yn gymysgedd o syniadau'r brodorion a syniadau newydd y mewnfudwyr. Câi duwiau a duwiesau Rhufeinig eu haddoli ochr yn ochr â duwiau Celtaidd, sef Duwiau'n ymwneud â grymoedd natur yn bennaf. Yn Llys Awel, ger Abergele, daethpwyd o hyd i nifer o bethau gan gynnwys cerflun bach o Fercher, dau gi bach efydd a phlaciau addunedol. Mae'n debyg mai ffynnon iacháu oedd yno. Mae'n ymddangos bod y ci yn gysylltiedig â iacháu yn y byd Celtaidd a'r byd Clasurol. Cynrychiolir marwolaeth a chladdu yn ein casgliadau hefyd: ceir cerflun arbennig o lew angladdol o'r Bont-faen, a chladdiad y Trallwng, sy'n cynnwys llestri efydd, gwydr, crochenwaith a phentan haearn.

Richard Brewer, Ceidwad Archaeoleg a Nwmistmateg

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.