Nwmismateg

Mae'r casgliad nwmismateg yn cynnwys darnau arian, tocynnau, medalau a gwrthrychau perthnasol eraill. Mae'r casgliad yn un eang iawn, o'r hen oesoedd hyd at yr oes bresennol ac mewn pum maes arbenigol: darnau arian celtaidd, darnau arian Groegaidd a Rhufeinig, darnau arian Lloegr ac Ynysoedd Prydain, tocynnau, arian papur a 'paranwmismatica', yn gysylltiedig â Chymru yn bennaf a medalau a darnau coffaol, yn enwedig rhai yn ymwneud â Chymru a hanes y Cymry. Ceir hefyd gasgliadau bach yn cymharu darnau arian Ewropeaidd, darnau o Drefedigaethau Prydain a'r Byd.

[delwedd: Bathyn]

Yn y casgliad y mae nifer o gelciau, darganfyddiadau o safleoedd archaeolegol a darnau unigol, o'r cyfnod Rhufeinig ymlaen. Mae'r darnau arian a ddarganfuwyd yng Nghymru, neu sy'n ymwneud â Chymru, yn parhau'n elfen bwysig yn ein casgliadau. Weithiau, daw trysorau trawiadol i'r fei yng Nghymru, er enghraifft celc Rhyfel Cartref Lloegr o Dregwynt, Sir Benfro (claddwyd tua 1648 ac ailddarganfuwyd ym 1996).

Arddangosir dros 1,200 o'r sbesiminau gorau o'r holl gasgliad nwmismatig yn yr Oriel Darnau Arian a Medalau yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Edward Besly, Ceidwad Cynorthwyol Archaeoleg a Nwmismateg

 

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.