Canoloesol a Diweddarach

Mae'r casgliadau Canoloesol Cynnar yn cyflwyno'r blynyddoedd o'r 5ed ganrif hyd at yr 11eg ganrif, sef cyfnod o deyrnasoedd bychan annibynnol a reolid gan dywysogion. Datblygiad allweddol yn y cyfnod hwn oedd twf Cristnogaeth. Erbyn y 6ed ganrif, roedd mynachlogydd yn cael eu sefydlu yng Nghymru. Mae'r clychau cyn-Normanaidd yn y casgliad yn brin iawn ac yn enghreifftiau o waith metel eglwysig canoloesol. Oherwydd yr arfer o godi cofebion a chofadeiliau carreg mae cofnod gwerthfawr ar gael sy'n rhoi gwybodaeth am ddatblygiad iaith, arferion claddu a thraddodiadau celfyddydol. Mae nifer fawr o gerrig gwreiddiol a chastiau yn y casgliadau. Mae yno enghreifftiau cynnar, gydag arysgrifau Lladin ac ogam, a chroesau diweddarach ar eu traed eu hunain.

Yn y casgliad canoloesol mae henebion o'r 11eg - 16eg ganrif. Am ddwy ganrif, o ddiwedd yr 11eg ganrif ymlaen, fe frwydrodd y Normaniaid a'r Saeson i geisio rheoli Cymru. Yr un pryd roedd arweinwyr brodorol yn gosod seiliau cadarn yn y gogledd-orllewin. Cynrychiolir y brwydro yn y cyfnod cynnar hwn gan gleddyfau, gwaywffyn a phennau saethau o wahanol gestyll yng Nghymru. O'r cyfnod canoloesol diweddar daw ffurf gynnar ar wn llaw (hagabwt) a gaed yn y môr oddi ar Ynys Enlli, Gwynedd. Ddechrau'r 15fed ganrif, oherwydd bod Cymru dan gymaint o gwmwl bu gwrthryfel cenedlaethol, dan arweiniad Owain Glyndr. Arddangosir ei sêl, a mownt arfbais gilt efydd gydag arfau Tywysogion Gwynedd.

Cawn gipolwg ar fywyd beunyddiol yng Nghymru yn y canol oesoedd trwy gyfrwng y casgliad mawr o ddarganfyddiadau seciwlar o'r trefi ac o gefn gwlad. Mae'r rhain yn amrywio o bwcedi pren i ddarnau o emwaith personol, fel tlws aur Oxwich o Benrhyn Gyr. Dangosir llawer o dystiolaeth o ddiwydiant yng Nghymru hefyd. Roedd eglwysi a mynachlogydd yn dylanwadu ar bron bob rhan o fywyd beunyddiol y bobl. Roeddynt yn ganolfannau dysg a gweithgareddau celfyddydol. Ymhlith y gwrthrychau eglwysig y mae croes orymdaith a llunddelwau crog pren prin o Fochdre, Powys. Mae'r casgliadau cyfeiriol yn cynnwys matricsau seliau, teils llawr wedi'u haddurno a cherameg canoloesol.

Dr Mark Redknap, Canoloeswr

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.