Rydych chi yn:  >   >   > 

Sut i Archebu

Archebu Lle

Rhaid i bob ysgol a grŵp archebu ymlaen llaw Ffoniwch (029) 2057 3546 (Llun-Gwener 10am – 2pm)

Mae ymweliad ysgol arferol yn para tua 4.5 awr. Mae hyn yn cynnwys hanner awr i ginio.

Ar ôl i chi archebu’ch lle, byddwn yn anfon e-bost atoch i gadarnhau. Darllenwch hwn yn ofalus.

Canslo. Os bydd amgylchiadau’n newid, cysylltwch â’r tîm addysg ar unwaith fel y gallwn neilltuo’ch lle i grŵp arall.

Pris sesiynau wedi’u hwyluso

Codir tâl am sesiynau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm, a sydd dan arweiniad staff yr amgueddfa. Mae pedwar pris gwahanol (heb gynnwys TAW):

  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 15 disgybl – £27
  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 35 disgybl – £42
  • Sesiwn hyd at hanner diwrnod ar gyfer hyd at 15 disgybl – £47
  • Sesiwn hyd at hanner diwrnod ar gyfer hyd at 35 disgybl – £77

Os, yn unol â’r ffigurau diweddaraf, yw’r Llywodraeth yn ystyried fod mwy nag 20% o ddisgyblion eich ysgol yn cael prydau ysgol am ddim, ni chodir tâl am y sesiynau.

Anfonir anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad. Os byddwch yn canslo ar ôl 10am y diwrnod cyn y sesiwn neu os byddwch yn hwyr ac yn colli'ch sesiwn, rhaid talu’r anfoneb. Nid yw'r prisiau'n cynnwys TAW ond mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn gallu ei hawlio'n ôl.

Does dim tâl i’r ysgolion canlynol:

  • Ysgolion yng Nghymru lle mae'r canran sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros 20% (yn ôl ffigurau diweddara Llywodraeth Cymru).
  • Grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig.
  • Uned Cyfeirio Disgyblion.

Cofiwch fod angen yr wybodaeth ganlynol wrth archebu’ch lle

  • Enw’ch ysgol / sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw’r athro / arweinydd y grŵp
  • Nifer y myfyrwyr
  • Ystod oedran
  • Nifer y staff
  • Nifer y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig

Oriau agor

Rydym ar agor saith diwrnod yr wythnos a’r rhan fwyaf o wyliau banc, rhwng 10am a 5pm. Nodwch mai rhwng 10am a 2pm dydd Llun i ddydd Gwener y mae’r llinell ffôn archebion addysg ar agor.

Iechyd a diogelwch

Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau’ch asesiad risg ar gael yma [PDF}.

Rhaid i rywun oruchwylio grwpiau o blant 16 oed ac iau bob amser.

Cymarebau oedolyn/plentyn:

  • 5–7 oed – 1 oedolyn:6 o blant
  • 8–11 oed – 1 oedolyn:10/15 o blant
  • 11+ oed – 1 oedolyn:15/20 o blant

Yr Adran Addysg a Sgiliau sydd wedi awgrymu’r cymarebau hyn. Dylai arweinwyr grwpiau asesu’r risgiau ac ystyried lefel oruchwylio ddiogel ar gyfer eu grwpiau nhw.

Mae lle i grwpiau o 35 ar y mwyaf yn ein holl safleoedd gan gynnwys Canolfan Capricorn. Os nad ydych chi’n bwriadu mynd i Ganolfan Capricorn, mae lle i grwpiau o 50 ar y mwyaf.

Ymweld

Mae lle parcio i fysiau ger yr Amffitheatr. Mae rhai o’r ffyrdd a’r palmentydd yng Nghaerllion yn gul iawn ac mae’r traffig yn gallu bod yn drwm yn ystod y dydd, felly cymerwch ofal wrth symud grwpiau o le i le.

Os byddwch chi’n hwyr yn cyrraedd, rhowch wybod i ni drwy ffonio (029) 2057 3550.

Cyfleusterau i Ymwelwyr ag Anghenion Arbennig

Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn gwneud pob ymdrech i ddiwallu gofynion ymwelwyr ag anghenion arbennig. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i wybod pa ddarpariaeth sy’n bosib.

Nam Corfforol: Mae modd defnyddio cadair olwyn i fynd i mewn i oriel yr Amgueddfa, Canolfan Capricorn a Baddondai’r Gaer. Gall defnyddwyr cadair olwyn fynd i’r Amffitheatr hefyd os yw’r tywydd yn caniatau hynny. Does dim mynediad cadair olwyn i olion y Barics.

Nam ar y golwg: Mae Canolfan Capricorn a Baddondai’r Gaer yn cynnwys cyflwyniadau sain. Mae casgliad o bethau i afael ynddyn nhw ar gael, ac mae lefel y golau ym mhrif Oriel yr Amgueddfa yn dda iawn. Cofiwch fod Baddondai’r Gaer yn dywyllach, felly gadewch i’ch llygaid ddod i arfer gyda’r lle.

Nam ar y clyw: Mae dolen sain yn nesg flaen yr Oriel a Baddondai’r Gaer.

Mae’r Canllawiau Mynediad ar gael yma neu drwy ffonio (029) 2057 3546.

Mae canllawiau mynediad Cadw ar gael yn www.cadw.cymru.gov.uk neu drwy ffonio (029) 2050 0200

Dillad addas

Bydd y rhan fwyaf o’ch ymweliad dan do. Er hynny, dewch â dillad addas ar gyfer pob math o dywydd. Mae’r Amffitheatr a’r Barics yn gallu bod yn fwdlyd iawn yn ystod y gaeaf, felly dylid gwisgo esgidiau addas. Ychydig iawn o gysgod sydd yn y safleoedd awyr agored pan fo’r haul yn tywynnu.

Ar ôl cyrraedd

Bydd staff yn barod i’ch croesawu wrth brif fynedfa’r Amgueddfa. Byddant yn cadarnhau manylion eich ymweliad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn angen gwybod faint yn union o ymwelwyr sydd yn eich grŵp.

Bwyd a diod

Mae amserlen eich ymweliad yn cynnwys seibiant i ginio. Byddwn yn darparu ystafell addas yn yr Amgueddfa er mwyn i grwpiau fwyta cinio. Gallwch fwyta cinio yn yr ardd os yw’n braf. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Dim bwyta nac yfed yn Oriel yr Amgueddfa.

Tai bach

Mae un tŷ bach â mynediad i bobl anabl, gyda lle i newid babanod, yn Oriel yr Amgueddfa. Mae tai bach i ddynion a menywod sy’n addas i blant yng Nghanolfan Capricorn yn ogystal â thŷ bach i’r anabl gyda chyfleusterau babanod. Y tu allan, mae dau giwbicl tŷ bach sengl yn y pafiliwn drws nesaf i’r Amffitheatr.

Map

Mae map ar gael o dderbynfa’r Amgueddfa.

Lle i gadw cotiau a bagiau

Mae croeso i ymwelwyr ddefnyddio’r ystafell gotiau ger desg y brif dderbynfa wrth weithio yn Oriel yr Amgueddfa. Mae lle i gadw cotiau a bagiau yng Nghanolfan Capricorn hefyd.

Ffotograffiaeth

Mae croeso i ymwelwyr dynnu lluniau at ddibenion personol gydol yr ymweliad.

Ffonau symudol

Peidiwch â defnyddio’ch ffôn symudol yn yr Orielau er cwrteisi i ymwelwyr eraill.

Siop yr Amgueddfa

Mae’r siop yn gwerthu pob math o nwyddau amrywiol fel teganau bach, llyfrau a chardiau post. Helpwch i oruchwylio’ch grŵp drwy sicrhau nad oes mwy na 6 phlentyn yn y siop ar y tro.

Canllawiau’r Amgueddfa

Cofiwch gadw llygaid ar blant a phobl ifanc dan 16 oed drwy’r adeg.

Dim ysmygu yn unrhyw un o’n hadeiladau.

Ymweliadau rhagflas

Mae’r rhain ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am gynefino â’r Amgueddfa. Ffoniwch i drefnu ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno siarad ag aelod o’r tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.

Cymorth cyntaf ac anghenion meddygol

Os bydd angen cymorth cyntaf, cysylltwch ag un o gynorthwywyr neu hwyluswyr yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.

Dylai arweinwyr grŵp gysylltu â’r tîm Addysg os oes gan aelod o’r grŵp unrhyw anghenion meddygol penodol.

Tân

Os bydd tân, bydd larwm yn canu, a dylai’ch grŵp adael yr adeilad drwy ddilyn yr arwyddion i’r allanfa dân agosaf. Cewch gyfarwyddiadau gan aelod o’r staff.

Plant ar goll

Byddwch yn ymweld â mwy nag un safle, felly cofiwch gadw’r grŵp gyda’i gilydd. Dywedwch wrth y plant i roi gwybod i aelod o’r staff os ydyn nhw ar goll. Os bydd arweinydd grŵp yn sylweddoli bod un o’r grŵp ar goll, dylai gysylltu ag aelod o’r staff ar unwaith.

Gwybodaeth

Map

Caerllion
Ar agor 10am–5pm Llun–Sadwrn, 2pm–5pm Sul.

Adran addysg:
(029) 2057 3546

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.